Sgip i gynnwys

Addysg - I Fyfyrwyr

Taflenni gwaith ar:

 

 


Beth yw cyfnodolyn?

 

 

Mae papurau newydd, cylchgronau a llyfrau yn cael eu hysgrifennu a’u cyhoeddi mewn ffyrdd gwahanol. Mae hyn yn effeithio ar pa mor ddibynadwy a chyfredol yw eu gwybodaeth.Cyfnodolion yw’r brif ffordd y bydd arbenigwyr yn cyhoeddi canlyniadau eu hymchwi, gan ddefnyddio fformat sy’n galluogi’r darllenydd i wirio dilysrwydd y gwaith.  

 

Diffiniad o gyfnodolyn

Mae cyfnodolyn  yn fath o gyhoeddiad sy’n cael ei gyhoeddi dros gyfnod maith fel rhan o gyfres.  Oherwydd bod y cyhoeddiadau yn creu cyfres, cyfeirir atynt fel rheol yn ôl rhif y gyfrol neu’r rhifyn, ac yn ôl dyddiad. Fel rheol maent cynnwys erthyglau gan lawer o awduron ac yn cael eu cyhoeddi gan gymdeithas, prifysgol neu gwmni cyhoeddi.

Mae cyfnodolion yn amrywio’n fawr o ran eu darllenwyr a’u cynnwys: bwriedir rhai ar gyfer aelodau cymdeithas neu ar gyfer tanysgrifwyr; mae rhai ar werth i’r cyhoedd; mae rhai yn cynnwys ymchwil ysgolheigaidd, a rhai yn cynnwys newyddion a chlecs.

Weithiau disgrifir cyfnodolion fel wythnosolion, misolion, cyhoeddiadau rhifynnol a chylchgronau. Mae papurau newydd yn ‘gyfnodolion’ ond oherwydd eu maint, eu trefniad, eu cynnwys a’u hamlder cânt yn aml eu trin yn wahanol gan lyfrgelloedd.  Mae’r rheolau a ddilynir gan newyddiadurwyr wrth ysgrifennu stori yn rhoi’r pwyslais ar wybodaeth newydd neu gyfredol (“Beth rydyn ni’n ei feddwl nawr?” “A yw’r cyffur newydd hwn yn feddyginiaeth wyrthiol?”) yn hytrach na dadansoddi ystod eang o wybodaeth sydd ar gael eisoes.

Mae prif werth tymor hir cyfnodolion yn eu prif erthyglau, ond gallant hefyd gynnwys defnydd golygyddol (cynnwys, cydnabyddiaethau, gwybodaeth am y cyfranwyr), nodiadau cymdeithas (rhestr aelodau a swyddogion, cyfrifon blynyddol, adroddiadau cyfarfodydd), a hysbysebion.

Sut yr ysgrifennir erthyglau?

Gwaith y golygydd yw dewis yr erthyglau i’w cynnwys ym mhob rhifyn. Fel rheol byddant yn dibynnu ar awduron yn anfon erthyglau iddynt sy’n debyg o fod o ddiddordeb i ddarllenwyr y cyfnodolyn, yn hytrach na chomisiynu neu wahodd erthyglau. Ar ôl penderfynu pa rai i’w derbyn, bydd y golygydd yn trefnu i wirio’r erthyglau. Gall hyn gael ei wneud gan y golygyddion eu hunain (adolygiad golygyddol) neu gan rywun arall sy’n arbenigo yn y pwnc (adolygiad person cydradd[1] neu reffarïo). Yna anfonir y sylwadau yn ôl i’r awdur fel y gall ddiwygio’r testun. Gall y broses ddigwydd amryw o weithiau cyn i’r golygydd benderfynu bod y testun wedi ei gwblhau. O ganlyniad i’r gwirio hwn, dylai erthyglau gorffenedig gynnwys gwybodaeth ddibynadwy.

Yna anfonir yr erthyglau i’r argraffwr a bydd yntau yn eu cysodi fel tudalennau ar gyfer eu hargraffu. Yn y gorffennol golygai hynny osod pob llinell o’r testun ar dualen fesul llythyren, ond erbyn hyn fe’i gwneir ar gyfrifiadur gan ddefnyddio meddalwedd arbenigol sy’n cynyrchu testun llawer mwy darllenadwy na thudalennau o brosesydd geiriau.  Cyn i’r holl gopïau gael eu hargraffu, bydd yr argraffwr yn argraffu fersiwn brawf (a elwir yn gali neu’n broflen[2]), ac yn ei hanfon i’r golygydd a’r awdur  ar gyfer ei gwirio (cywiro proflen); bydd yr awdur yn nodi unrhyw wallau argraffu ynghyd ag unrhyw newidiadau terfynol y mae am eu gwneud, ac yn dychwelyd y broflen. 

Mae’r broses o gynhyrchu erthygl argraffedig orffenedig yn cynnwys tri pherson gwahanol: y golygydd, yr argraffwr a’r awdur. Dylai hyn olygu nad oes ond ychydig o wallau ffeithiol, ond ceir hefyd lawer o gyfle ar gyfer mân wallau cyflwyniad. Gall awduron sy’n esgeuluso cywiro’r proflenni’n ofalus ddweud pethau mewn print nad ydynt yn cytuno â hwy. Pan ddigwydd gwallau o’r fath, gellir argraffu cywiriadau yn y rhifyn nesaf neu ar damaid o bapur sydd wedi ei gynnwys yn y rhifyn (papur gwallau).

  

Oherwydd bod gan eraill beth rheolaeth dros gynnwys yr erthygl a gyhoeddir, bydd yn well gan awduron sy’n arddel syniadau dadleuol gyhoeddi pamffledi eu hunain weithiau. 

 

Sut y trefnir cynnwys cyfnodolyn?

Mae cyfnodolion yn cynnwys tri phrif fath o ddeunydd:

  • Erthyglau, gyda theitl ac enw’r awdur arnynt, sydd fel rheol yn hunangynhwysol
  • Adolygiadau, llythyrau a chyfraniadau byrrach eraill 
  • Nodiadau’r golygydd, cyflwyniad, nodiadau cymdeithasol, heb enw arnynt yn aml
  • Deunydd ychwanegol: cloriau, tudalen deitl a thudalen cynnwys

Gallant hefyd gynnwys hysbysebion, rhestrau o lyfrau a dderbyniwyd, datganiadau ariannol, a rhestrau o danysgrifwyr. Yn aml ni fydd rhif ar y tudalennau sy’n cynnwys deunydd ychwanegol, neu byddant wedi eu rhifo gyda rhifolion Rhufeinig.   Er mwyn hwyluso’r broses o’u rhwymo bydd lluniau a ffotograffau fformat mawr weithiau yn cael eu cynnwys yn y cyfnodolyn beth ffordd oddi wrth yr erthygl y maent yn perthyn iddi.

Yn y 19eg ganrif, y traddodiad oedd na fyddai awduron adolygiadau ac erthyglau byrion eraill yn cael eu henwi, neu yn cael eu hadnabod drwy lythrennau cyntaf eu henwau neu drwy lysenw yn unig.

 

Bydd erthyglau ysgolheigaidd yn cyfeirio at eu ffynonellau naill ai yn y testun, mewn troednodiadau neu ar ddiwedd yr erthygl. Mae’r cyfeiriadau hyn yn galluogi’r darllenwyr i droi at y ffynhonnell i gadarnhau bod dehongliad yr erthygl yn un cywir.

Pa mor ddibynadwy yw’r wybodaeth?

Nid oes unrhyw brawf syml i benderfynu a yw tamaid o destun yn ddibynadwy, ond dylai darllenwyr ddefnyddio cyfuniad o dystiolaeth fewnol ac allanol wrth werthuso ffynhonnell.

Mae Tystiolaeth fewnol yn cynnwys:

Awduraeth                   A yw’r awdur yn adnabyddus neu a oes ganddo gymwysterau? A yw’n gysylltiedig â rhyw sefydliad uchel ei barch? 

Strwythur                     A yw’r erthygl wedi ei gosod allan mewn modd eglur a threfnus?

Ffynonellau                   A yw’r ffynonellau wedi eu rhestru? A ydynt yn cynnwys y prif weithiau ar y pwnc? A ydynt yn cynnwys gwaith a gyhoeddwyd yn ddiweddar?

Cydnabyddiaethau            A yw’r awdur yn crybwyll arbenigwyr eraill y mae wedi ymgynghori â hwy?

 

Mae Tystiolaeth allanol yn cynnwys:

Teitl y cyfnodolyn            A yw’r cyhoeddiad yn cael ei barchu fel ffynhonnell bwysig gyda gwerthoedd golygyddol uchel?

Cyfeiriadau                   A oes awduron eraill yn cyfeirio at yr erthygl hon?

Yn anffodus, hyd yn oed ar ôl defnyddio’r profion hyn, dichon y bydd y wybodaeth yn dal i fod yn annibynadwy. Dichon y tybid ei fod yn wir ar y pryd, ond erbyn hyn dangoswyd ei fod yn anghywir (gweler, er enghraifft, y ddamcaniaeth ddrwgsawrus ynglŷn â chlefydau).   Yn gyffredinol, bydd erthyglau gan ffigyrau sefydledig yn hyrwyddo syniadau confensiynol  Peth cyffredin yw rhoi gormod o barch i awduron amlwg y gall eu barn ar unrhyw bwnc arbennig fod yn anwybodus neu’n anghywir (dyma’r camsyniad rhesymegol a elwir yn ‘dadl ar sail awdurdod’: “rhaid ei fod yn wir am fod rhywun pwysig yn dweud hynny”).

 

Y prawf gorau ar gyfer dibynadwyaeth yw datblygu’n ddarllenydd beirniadol. Nid yw hyn yn golygu anghytuno gyda’r awdur: mae’n golygu darllen yr erthygl yn ofalus, gwirio’r ffynonellau lle mae hynny’n bosibl, a cheisio meddwl am esboniadau eraill.   Mae hyn yn arbennig o wir os yw pwnc yn un dadleuol, a lle y ceir yn aml awduron ar naill ochr a’r llall y ddadl, a lle bydd gofyn i’r darllenydd benderfynu pa un sy’n gywir drosto’i hun.  

 

Darllen pellach

http://www.york.ac.uk/library/elibrary/htmltutorials/tutorial002_01.htm (Saesneg)



[1] Mae ‘Person cydradd’ yn golygu ‘person o’r un statws’  felly bydd erthygl biolegydd yn cael ei hadolygu gan fiolegwyr eraill.

[2] Mae gair ‘prawf’ yn ‘proflen = prawf len’ yn golygu ‘archwilio/profi’ yn hytrach na ‘thystiolaeth’. 

 


Cyhoeddi cyfnodolion yng Nghymru

Mae gan ddiwylliant Cymreig draddodiad cryf o gyhoeddi cyfnodolion, er gwaethaf problemau parhaus yn ymwneud â chylchrediad a hysbysebu. Mae’r cyfnodolion yn adlewyrchu diddordebau, barn a phersonoliaethau eu golygyddion a’u cyfrannwyr, ac mae’n bosibl gweld adlewyrchiad o ddadleuon ac agweddau cyfoes ar eu tudalennau.

 

Teitlau poblogaidd a diddordeb cyffredinol

 

Y cyhoeddiad mwyaf hirhoedlog yng Nghymru a fwriedir ar gyfer y darllenydd cyffredin yw Y Traethodydd a gychwynwyd yn 1845 i ddarparu gwybodaeth am faterion cyfoes, llenyddiaeth, athroniaeth, gwyddoniaeth a thechnoleg ar gyfer cynulleidfa Gymraeg ei hiaith. Fe’i cyhoeddir gan Eglwys Brespyteraidd Cymru. O’i gyferbynnu, cyhoeddwyd   Cymru gan Owen M. Edwards rhwng 1891 a 1927 fel cyfnodolyn penodol anenwadol, yn anelu at ddiwylliant Cymreig unedig a oedd yn goresgyn buddiannau culion pleidiol. Rhoddwyd cychwyn ar Y Llenor yn 1922 gan gymdeithasau Cymraeg Prifysgol Cymru ar gyfer ei haelodau (myfyrwyr a graddedigion). Cylchgrawn deufisol poblogaidd a gyhoeddwyd yn y 1930au oedd Y Ford Gron a oedd yn cynnwys adrannau ffasiwn, teithio, ffuglen a newyddion.

 

Gower yw’r unig deitl cyffredinol Saesneg ei iaith a gynhwysir; fe’i cyhoeddwyd gan Gymdeithas Gŵyr ac mae’n cynnwys erthyglau ar natur, daeareg, hanes a’r tirlun ac mae wedi ei fwriadu ar gyfer cynulleidfa anarbenigol.

 

 

Hanes, daearyddiaeth ac archeoleg

 

Mae’r rhan fwyaf o ysgrifennu hanesyddol ac archeolegol yng Nghymru hyd y dydd heddiw yn cael ei gyhoeddi dan nawdd cymdeithasau lleol a chenedlaethol er budd eu haelodau yn bennaf; rhywbeth cymharol ddiweddar yw cyhoeddiadau academaidd.

 

Y cyfnodolyn cyntaf i ymddangos oedd un Cymdeithas Anrhydeddus y Cymmrodorion (a sefydlwyd gan Gymry oedd yn astudio neu’n gweithio yn Llundain), ac roedd yn cwmpasu hanes, mytholeg ac iaith Cymru; yn dilyn ymdrechion ysbeidiol i’w gyhoeddi rhwng 1822 a 1843, daeth Y Cymmrodor yn gyhoeddiad blynyddol o 1877 ymlaen. Yn1892 fe’i hatodwyd gan Drafodion Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion, a ddaeth yn brif gyhoeddiad y gymdeithas yn y 1930au, pan ganolbwyntiodd Y Cymmrodor ar gyhoeddi cyhoeddiadau o lawysgrifau pwysig (peidiodd yn gyfangwbl yn 1950).

 

Sefydlwyd Cymdeithas Hynafiaethau Cymru/Cambrian Archaeological Association yn 1846 fel cymdeithas hynafiaethol ar gyfer Cymru gyfan a chyhoeddodd y cyfnodolyn Archaeologia Cambrensis.  Yn ei flynyddoedd cynnar roedd y cyfnodolyn yn cymysgu erthyglau archeolegol ac ieithyddol dysgedig ynghyd â chynnwys mwy gwamal a dychmygol, ond drwy gydol yr 20fed ganrif mae wedi cyhoeddi adroddiadau cloddio awdurdodol.

 

Ochr yn ochr â’r cmdeithasau cenedlaethol, mae cyhoeddiadau cymdeithasau hanesyddol a hynafiaethol sirol yn cwmpasu llawer o Gymru, gan gynnwys Montgomeryshire Collections (yr hynaf, dechreuwyd yn 1868), Brycheiniog a Radnorshire Society Transactions, Flintshire Historical Society Transactions, Morgannwg [Abertawe-Caerdydd], Transactions of Cardiganshire Antiquarian Society a Ceredigion, The Pembrokeshire Historian a Journal of the Pembrokeshire Historical Society, Minerva [Abertawe], Presenting Monmouthshire a Gwent Local History. Fel rheol mae’r rhain yn cynnwys erthyglau seliedig ar ddarlithoedd a draddodwyd i’r cymdeithasau ac ar ganlyniadau gwaith archeolegol yn yr ardal.

 

 

Datblygodd teitlau academaidd o’r angen i gyhoeddi canlyniadau ymchwil gan staff Prifysgol Cymru: y cyntaf oedd Bulletin of the Board of Celtic Studies, a oedd yn cwmpasu ieithyddiaeth, y gyfraith ac archeoleg, yn ddiweddarach rhoddwyd cychwyn ar Studia Celtica i ganolbwyntio’n gyfangwbl ar ieithyddiaeth, ond cymerodd bynciau eraill drosodd oddi wrth y Bulletin yn 1993. Rhoddwyd cychwyn ar y Welsh History Review/Cylchgrawn Hanes Cymru yn 1959 ac ef yw’r cyfnodolyn pennaf yn y maes.  Cyfnodolion ar gyfer darllenwyr arbenigol yw’r rhain.

 

 

Mae cyhoeddiadau’r  South Wales Record Society yn cynnwys trawsgrifiadau o ffynonellau hanesyddol pwysig, ynghyd â chyflwyniad, troednodiadau a mynegeion. Mae Cylchgrawn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, a gyhoeddwyd ers 1939, yn cynnwys erthyglau ar bynciau hanesyddol sy’n ymwneud â deunyddiau a gedwir yn y Lyfrgell.

 

Cyfnodolyn academaidd yn ymwneud â hanes llafur Cymru yw Llafur a gyhoeddir gan gymdeithas annibynnol.   Cyfnodolyn daearyddol academaidd oedd Cambria a gyhoeddwyd rhwng 1974 a 1989. 

 

Mae teitlau niferus yn cwmpasu haes eglwysig yn cael; eu cynnwys yn y categori Crefydd.

 

 

 

Y Gyfraith, Gwleidyddiaeth ac Addysg

 

Caiff gwleidyddiaeth sylw gan ddau deitl. Cyhoeddwyd Welsh Outlook o 1914 hyd 1933 ac roedd yn ddylanwadol mewn dadleuon gwleidyddol yng Nghymru ar y pryd, gan roi sylw i faterion cymdeithasol ac economaidd, llywodraeth a gweinyddiaeth, a materion diwylliannol.  Cyfnodolyn academaidd yn ymwneud â gwleidyddiaeth a pholisi cyhoeddus yw Contemporary Wales.  

 

Cyfnodolyn academaidd gydag erthyglau ar faterion cyfreithiol cyffredinol, cyfraith ryngwladol a deddfwriaeth ddiweddar yw’r Cambrian law review, a gyhoeddwyd ers 1970.

 

Cyhoeddwyd Lleufer gan gangen Gymreig Cymdeithas Addysg y Gweithwyr ac roedd yn cwmpasu ystod o faterion cyfoes a’r celfyddydau.

 

 

 

 

Llenyddiaeth a’r celfyddydau

 

Cafwyd cyfres o gyfnodolion llenyddol yng Nghymru a fodolai oherwydd brwdfrydedd eu golygyddion a’r cyfranwyr, ac a gâi ddylanwad ar ddiwylliant y genedl nad oedd yn gymesur â nifer eu darllenwyr na’u llwyddiant masnachol. Ym maes llenyddiaeth yn y Saesneg mae’r rhain yn cynnwys amryw o deitlau sy’n dal i gael eu cyhoeddi: New Welsh Review, Poetry Wales, a Planet: y Welsh Internationalist (am resymau yn ymwneud â thrwyddedu, nid yw’r rhain wedi eu cynnwys ar wefan Cylchgronau Cymru/Welsh Journals Online). Daeth y cyfnodolyn Wales, a olygwyd gan Keidrych Rhys, ac a gyhoeddwyd yn y 1940au a’r 1950au, â llawer o ysgrfienwyr Cymreig a oedd yn dechrau ennill eu plwyf at ei gilydd. Mae cylchgronau llenyddol Cymraeg o’r 1930au hyd y 1950au yn cynnwys Tir Newydd,  Heddiw, Y Fflam, a’r  Arloeswr; mae barddoniaeth Gymraeg gyfredol yn ymddangos yn Barddas.

 

Mae hanes y celfyddydau yng Nghymru yn cael sylw gan Fwletin Cymdeithas Emynau Cymru a Welsh music history, a theitlau megis Canu Gwerin nas cynhwysir yn Cylchgronau Cymru/Welsh Journals Online. Mae hanes llenyddiaeth a’r diwydiant cyhoeddi yn cael ei ddisgrifio yn y Journal of the Welsh Bibliographical Society a’r Llyfr yng Nghymru.

 

 

Crefydd ac athroniaeth

 

Bu gan enwadau crefyddol yng Nghymru bob amser ddiddordeb brwd yn eu hanes, ac mae hynny’n cael ei adlewyrchu yn sefydlu Bathafarn: cyfnodolyn Cymdeithas Hanes Eglwys Fethodistaidd Cymru, a Cofiadur : sef cylchgrawn Cymdeithas Hanes Annibynwyr Cymru; mae Cristion yn eithriad gan ei fod yn gyhoeddiad rhyngenwadol cyfoes. Mae astudiaeth academaidd o hanes crefydd yn cael sylw gan y Journal of Welsh ecclesiastical history a’i olynydd, Journal of Welsh religious history ac athroniaeth Gymreig gan Efrydiau Athronyddol.

 

Gwyddoniaeth a pheirianyddiaeth

 

Mae’r rhan fwyaf o’r ymchwil gwyddonol a wnaed yng Nghymru wedi ei gyhoeddi mewn cyfnodolion gyda chylchrediad drwy’r DU neu rai rhyngwladol. Yr eithriadau yw’r cyfnodolyn meddygol Cymraeg Cennad a’r cyhoeddiad gwyddonol cyffredinol Y Gwyddonydd.  Yn achos peirianyddiaeth a thechnoleg, yn arbennig mwngloddio a’r rheilffyrdd, mae’r Proceedings of the South Wales Institute of Engineers yn cyhoeddi adroddiadau cyfoes ar dechnegau a phrosiectau.

 

Sefydlwyd Cymdeithas Naturiaethwyr Caerdydd yn y 1860au ar gyfer pobl oedd yn ymddiddori mewn astudiaethau natur a’r amgylchedd, er bod ei Reports and Transactions yn cynnwys daeareg, archeoleg a ffotograffiaeth yn ogystal. Bwriadwyd Nature in Wales ar gyfer darllenwyr mwy cyffredinol.

 

 

 

 

Casgliad

 

Er bod y cyfnodolion hyn yn ymddangos yn hynod o debyg o ran eu diwyg, mae eu cynnwys yn adlewyrchu diddordebau’r cyhoeddwyr a’r darllenwyr y bwriadwyd hwy ar eu cyfer. Mae hyn yn effeithio’r pynciau a drafodir yn yr erthyglau a’r math o hysbysebion a gynhwysir. O’u cymryd at ei gilydd, mae’r cyfnodolion yn darparu dirnadaeth o natur diwylliant Cymreig yn yr 20fed ganrif. 

 


Cyfeiriadau a llyfryddiaethau

 

Mae darparu cyfeiriadau at ffynonellau yn rhan bwysig o ddarparu adroddiad. Mae’r gweithgaredd hwn yn egluro pam mae cyfeiriadau yn angenrheidiol ac yn trafod gwahanol ddulliau o’u dangos yn y testun.

 

 

Pam mae angen cyfeiriadau?

 

Pan fyddwch yn ysgrifennu adroddiad, traethawd neu erthygl, bydd y testun yn ymddangos o dan eich enw chi fel yr awdur. Bydd darllenwyr yn cymryd yn ganiataol mai eich syniad chi yw unrhywbeth a gynhwysir, a’i fod wedi ei fynegi yn eich geiriau chi, oni bai eich bod yn eu hysbysu’n wahanol.   Os ydynt wedi deillio o ffynhonnell, rhaid i chi ddweud hynny: neu byddwch yn derbyn y clod am waith rhywun arall.

 

Er ei bod yn bosibl cynnwys rhestr syml o ffynonellau yr ymgynghorwyd â hwy ar ddiwedd eich adroddiad, mae’n well cysylltu datganiadau unigol â’u ffynonellau (yn arbennig yn achos dyfyniadau uniongyrchol). Yna gall y darllenydd droi at y ffynhonnell i wneud yn siwr eich bod wedi ei deall yn iawn, neu i ddod i wybod mwy am bwnc. Mae hyn yn arbennig o bwysig mewn gwaith gwyddonol ac academaidd, lle mae eich gwybodaeth neu eich dadansoddiad newydd yn dibynnu ar ganlyniadau astudiaethau blaenorol.   

 

Mae cyfeirnodi yn rhan hanfodol o’r broses o ysgrifennu, ac mae gwneud hynny’n dda yn fedr bwysig. Bydd darllenwyr yn aml yn edrych ar eich cyfeiriadau ac ar y ffordd rydych chi wedi eu gosod allan wrth benderfynu a allant ddibynnu ar eich gosodiadau.   

 

 

Beth yw llyfryddiaeth?

 

Gellir galw eich rhestr o ffynonellau yn gyfeiriadau, llyfryddiaeth, neu ddyfyniadau. Mae iddynt ddwy ran: y wybodaeth am y ffynhonnell wedi ei darparu mewn modd safonedig er mwyn iddi gael ei hadnabod yn rhwydd, a chyfeiriad at y dudalen benodol rydych chi’n cyfeirio ati. Mae llawer set o reolau gwahanol ynglŷn â’r modd y dylid eu trefnu: y ddau brif deulu yw cyfeirnodi yn y testun neu gyfeirnodi rhwng cromfachau (e.e. Harvard) a throednodiadau.

 

Enghreifftiau

 

Testun

Dealltwriaeth wael o strategaeth sydd gan Smith (1989, 35): geilw benderfyniad Napoleon i ymosod ar Moscow yn “ergyd wych”. 

 

Llyfryddiaeth

Smith, P., 1989. 1812: blwyddyn dyngedfennol. Journal of Warfare, 24 (1989), tt. 34-37

Testun

Dealltwriaeth wael o strategaeth sydd gan Smith[1]: geilw benderfyniad Napoleon i ymosod ar Moscow yn “ergyd wych”. 


Mae’r atalnodi sydd i’w ddefnyddio mewn cyfeiriadau wedi ei ddiffinio’n gaeth iawn. Yn nodweddiadol, bydd y rhain yn cynnwys:

  • Defnyddio llythrennau italig[2] ar gyfer teitlau llyfrau, cyfnodolion, traethodau ymchwil, papurau newyddion, albymau cerddoriaeth. Y rheol gyffredinol yw mai dim ond un rhan o gyfeiriad a ddylai fod mewn lythrennau italig. 
  • Defnyddio llythrennau trymion ar gyfer rhif rhannau a rhif cyhoeddiad yn achos cyfnodolion; rhoir y dyddiad cyhoeddi rhwng cromfachau.
  • Defnyddio prif lythrennau ar gyfer dechrau enwau a dechrau teitlau.
  • Defnyddio testun cyffredin ar gyfer teitlau erthyglau, barddoniaeth a cherddi.
  • Defnyddio comas ac atalnodau llawn yn enw’r awdur a gweddill y cofnod yn unol â’r rheolau.
  • Defnyddio tanlinellu ar gyfer cyfeiriadau’r we.
  • Rhestru’r ffynonellau yn nhrefn yr wyddor yn ôl cyfenw’r awdur

Ar ben hyn, bydd gofyn i chi ddarparu gwybodaeth am y ffynhonnell:

  • Yn achos llyfrau, enw’r cyhoeddwr a’r man cyhoeddi
  • Yn achos erthyglau, y  DOI (Dynodydd Gwrthrych Digidol) (os oes un)
  • Yn achos gwefannau, yr URL (Lleolydd Adnoddau Unffurf) a dyddiad mynychu’r wefan

 

 

Ymarfer 1

Gan ddefnyddio’r rheolau uchod, penderfynwch ar y math o ffynhonnell ar gyfer yr enghreifftiau canlynol, a nodwch y gwall neu’r hyn nas cynhwyswyd ym mhob un o’r cyfeiriadau.

  1. Aristophanes, G, 1966, Strategy and tactics in the Napoleonic era Journal of World History XXII, tt. 12-25.
  2. Brown, John, 1990 "10 military mistakes", Journal of Warfare 25 (1990), 1-12.
  3. Marx, G. 1966 "War And Armaments In The Imagery Of The Tragedies", Shakespeare Studies from Stratford, 12.1 (1966), t. 23-99.
  4. Marx, H. 1980 Shakespeare's texts (Llundain)
  5. Voltaire, F, 1954 Napoleon: L'homme, le general, le president. (Nouveau Livres)
  6. Napoleon the leader, www.napoleon.fr

 

Enghraifft

Math

Gwall

1

 

 

2

 

 

3

 

 

4

 

 

5

 

 

6

 

 

 

Atebion

 

Manteision ac anfateision cyfeirnodi Harvard a throednodiadau

Mae cyfeirnodi Harvard yn dod â’r holl lyfrau at ei gilydd mewn un rhestr ar y diwedd, gan ei gwneud yn hawdd i’r darllenydd fynd trwy gatalog llyfrgell a dod o hyd i’r ffynonellau perthnasol. Mae’n hawdd i’w ddefnyddio.   Y brif anfantais yw y gall cynnwys enwau awduron yn y testun fod yn ddryslyd i’w darllen, yn arbennig os oes llawer iawn o gyfeiriadau.

 

Mae rhai sy’n credu ym myth Napoleon yn ceisio gwneud i’r fenter drychinebus hon swnio fel ergyd wych. (Aristophanes, 1966, 12; Brown, 1990, 10).  Ond er mwyn gwneud hynny rhaid iddynt anwybyddu barn tystion cyfoes (Voltaire 1954, tt. 120-127). 

Mae cyfeirnodi drwy droednodiadau yn galluogi i’r darllenydd ddilyn y testun heb ymyrraeth oni bai bod arno eisiau troi at y ffynhonnell; mae’n fwy costus a thrafferthus i ddarparu testun a gall olygu llawer o ailadrodd os defnyddir yr un ffynhonnell yn aml.

Y pwynt pwysig yw y bydd y drefn o fynegeio fel rheol yn cael ei phennu gan y cyhoeddwr neu’r corff sy’n gosod yr aseiniad, a dylech chithau ddilyn eu dewis hwy.

Byrfoddau ac ymadroddion Lladin

 

Mae safonau ymarfer academaidd fodern wedi eu gwreiddio yn y Dadeni, pan oedd Lladin yn ddewis iaith ar gyfer cofnodi gwybodaeth, oherwydd bod ysgolheigion drwy’r byd Gorllewinol yn ei deall. Mae rhai ymadroddion Lladin (a ffurfiau byr ohonynt) yn cael eu defnyddio o hyd mewn cyfeiriadau, yn arbennig pan ddefnyddir troednodiadau. Oherwydd eu bod mewn iaith arall, dylid eu cofnodi mewn lythrennau italig.

 

Ibid. (ibidem = 'yn yr un lle’) yr un gwaith â’r hwn y cyfeiriwyd ato yn y nodyn blaenorol (cyfeiriad at dudalen wahanol yn yr un gwaith)

Id. (idem = ‘yr un fath’) yr un cyfeiriad a’r nodyn blaenorol (yr un tudalen)

Op. cit. (opere citato = 'yn y gwaith y cyfeiriwyd ato’) y gwaith y cyfeiriwyd ato mewn nodyn cynharach

cf. (confer = 'cymharer, ymgynghorer â’) gweler gwybodaeth neu drafodaeth bellach

contra (= 'yn erbyn') mae’r awdur yn anghytuno gyda’r ffynhonnell hon

pace (=’mewn hedd’, ‘gyda phob parch’) mae’r awdur yn nodi dadl y ffynhonnell ond yn anghytuno â hi

 

Ymarfer 2

Mae’r testun canlynol yn seiliedig ar y ffynonellau a restrir. Sut byddech chi’n ysgrifennu’r cyfeiriadau ar gyfer troednodyn i bob brawddeg?

Testun

1          Ystyrid mai tarth gwenwynig yn llawn o ronynnau o fater pydredig (miasmata) a oedd yn achosi salwch oedd Miasma (Drycsawr).

2          Câi ei adnabod drwy ei arogl ffiaidd.

3          Un o gefnogwyr amlwg y ddamcaniaeth ddrycsawrus oedd Abaris y Gogleddwr a lanhaodd Sbarta er mwyn diogelu’r lle rhag ‘miasmata’. 

4            Disodlwyd y ddamcaniaeth ddrycsawrus ynglŷn â chlefyd gan y ddamcaniaeth germau yn ystod yr 1850au.

5          Ystyr enw’r clefyd malaria yw ‘awyr afiach’, oherwydd y gred mai dyna oedd yn ei achosi.

 

Ffynonellau

Brawddeg 1            John Jones, Hanes clefydau, t. 12.

Brawddeg 2            John Jones, Hanes clefydau, t. 25.

Brawddeg 3             Erica Boggs, ‘Arloeswyr Groegaidd meddygaeth’, Astudiaethau Helenaidd 23 (1990), tt. 23-45, t. 31.

Brawddeg 4            John Jones, Hanes clefydau, t. 24.

Brawddeg 5            John Jones, Hanes clefydau, t. 24.

 

Troednodyn

Testun

1

 

2

 

3

 

4

 

5

 

 

Atebion

 

 

Darllen pellach

 

Citing references (Saesneg)

www.doi.org/ (Saesneg)

 

Atebion Ymarfer 1

Enghraifft

Math

Gwall

1

Erthygl

Dylai teitl y cyfnodolyn fod mewn llythrennau italig, nid teitl yr erthygl

2

Erthygl

Dylai rhif y cyhoeddiad fod mewn llythrennau trymion nid llythrennau italig

3

Erthygl

Defnyddiwyd prif lythrennau ar gyfer pob gair yn nheitl yr erthygl

4

Llyfr

Ni nodwyd enw’r cyhoeddwr

5

Llyfr

Ni nodwyd y man cyhoeddi

6

Gwefan

Ni nodwyd y dyddiad mynychu

Aristophanes, G, 1966, Strategy and tactics in the Napoleonic era Journal of  World History XXII, tt. 12-25.

Brown, John, 1990 "10 military mistakes", Journal of Warfare 25 (1990), 1-12.

Marx, G. 1966 "War and armaments in the imagery of the tragedies", Shakespeare Studies from Stratford, 12.1 (1966), t. 23-99.

Marx, H. 1980 Shakespeare's texts (Llundain: Blackwell)

Voltaire, F, 1954 Napoleon: L'homme, le general, le president. (Paris: Nouveau Livres)

Napoleon the leader, www.napoleon.fr [mynychwyd 26 Mawrth 2009]

 

Atebion Ymarfer 2

Troednodyn

Testun

1

John Jones, Hanes clefydau,, t. 12.

2

Ibid., t. 25.

3

Erica Boggs, ‘Arloeswyr Groegaidd meddygaeth’, Astudiaethau Helenaidd 23 (1990), tt. 23-45, t. 31.

4

Jones, op. cit. yn nodyn 1

5

Id.

 



[1] Gallwch danlinellu testun os na allwch ddefnyddio llythrennau italig. Peidiwch â defnyddio’r ddau.

 

 

 


Cyflwyniad i hawlfraint a hawliau eiddo deallusol

Cynllun cysyniadol yw hawlfraint sy'n effeithio sawl agwedd ar fywyd modern gan gynnwys cyhoeddi, y cyfrwng darlledu, cerddoriaeth a'r rhyngrwyd. Bydd yn rheoli'r hyn allwch ei gynnwys mewn gwaith cwrs, cyflwyniadau ac adroddiadau. Mae'n bwysig deall sut y gallai effeithio arnoch chi fel defnyddiwr a chrëwr deunydd hawlfraint.

Beth yw hawlfraint?

Hawlfraint yw hawl gyfreithiol crewyr i elwa o'u gwaith. Mae'n bosibl y byddai rhywun arall sy'n dymuno copïo neu ailddefnyddio'r gwaith yn gorfod cael caniatâd y crëwr, a allai fynnu taliad yn gyfnewid am hyn.. Hanfod deddf hawlfraint yw ymelwa masnachol, ond ceir eithriadau a fyddai'n caniatáu i bobl wneud copïau at eu defnydd eu hunain. Er bod cytundebau rhyngwladol ynglŷn ag hawlfraint, mae deddfau gwahanol wledydd yn amrywio o ran eu manylder a'u gofynion.

Mae'r diwydiannau cyhoeddi ac adloniant yn dibynnu ar hawlfraint i warchod eu hawliau unigryw, ac mae'n ofynnol i'r gyfraith sicrhau cydbwysedd rhwng buddiannau'r crewyr, y cyhoeddwyr a'r cyhoedd. Mae'n bwnc cymhleth a dadleuol sy'n arwain at lawer o achosion llys.

Pam fod angen diogelu hawlfraint?

Bu hawlfraint yn fater dadleuol erioed, a bellach mae datblygiadau mewn technoleg copïo yn gwneud copïo corfforol yn haws (casetiau a CDau cerddoriaeth, llungopïau, ffeiliau digidol). Yng nghyd-destun y rhyngrwyd, mae'r cyfyngiadau ar yr hyn y gellir cael mynediad ato, ei safio a'i gopïo yn peri rhwystredigaeth i lawer.

Y cyfiawnhad dros ddiogelu hawlfraint yw y byddai crewyr, pe na bai'n bod, yn cael eu hamddifadu o fuddion eu gwaith ac felly byddent yn analluog neu'n anfodlon i greu gweithiau newydd. Mae awduron a cherddorion yn dibynnu ar arian o'u gwaith i'w galluogi i fod yn artistiaid amser llawn.

Mae rhai wedi dadlau nad oes angen diogelu hawlfraint gan fod syniadau yn rhad ac am ddim a chrewyr yn creu o'u dewis eu hunain, nid i elwa o'u gwaith, ac y byddai cymdeithas yn elwa o fynediad agored atynt. Adlewyrchir hyn wrth rannu ffeiliau, cracio meddalwedd rheoli hawliau digidol (DRM) a chopïo deunydd electronig sy'n gyfyngedig ei fynediad

Ymdriniaeth lai radical a geir gan fudiad y Creative Commons sy'n cadw at fframwaith yr hawlfraint ond yn annog crewyr i ildio rhai o'u hawliau i hwyluso ail-ddefnyddio. Wrth gyhoeddi deunydd ar y we, bydd gwybodaeth ynghylch ailddefnyddio a ganiateir yn cael ei chynnwys yn aml fel logos. Datblygiad cyfatebol yw meddalwedd ffynhonnell agored a 'Copyleft', sy'n caniatáu copïo a datblygu di-dâl ond sy'n mynnu bod unrhyw fersiwn newydd yn cael ei ryddhau dan yr un telerau.

Y mathau o waith sy'n cael ei gynnwys

Mae hawlfraint yn cwmpasu gweithiau ysgrifenedig (ffuglen, ffeithiol a barddoniaeth), gweithiau artistig (delweddau a ffotograffau), cerddoriaeth a gweithiau perfformio (dramâu a rhaglennu teledu). Mae'r gweithiau a grëir yn unigryw ac yn cynnwys elfen o greadigrwydd a gyfrannir gan un neu fwy o unigolion. Mae hawlfraint yn cwmpasu deunydd corfforol a digidol.

Ceir hawliau eraill ar gyfer nodau masnach (logos ac enwau brand), dyluniadau a phatentau (dulliau a dyfeisiau).

Hawlfraint pwy?

Fel arfer, eiddo'r crëwr neu'r crewyr yw hawlfraint. Os crëir gwaith fel rhan o swydd rhywun, y cyflogwr fydd yn berchen ar yr hawlfraint. Gall fod bwndel o hawliau'n cael eu dal gan wahanol bobl ar gyfer un gwaith sengl: er enghraifft, gallai ffilm gynnwys hawliau sgript, cerddoriaeth a hawliau perfformio.

Gall y sefyllfa fod yn fwy cymhleth gyda 'gweithiau deilliadol', gweithiau newydd sy'n cynnwys elfennau o weithiau eraill, oherwydd bydd hawliau newydd yn cwmpasu'r gwaith deilliadol ochr yn ochr â'r hawliau ar gyfer gwaith y tynnir arno (e.e. mewn cerddoriaeth lle mae samplau o un gân yn cael eu cynnwys mewn cân newydd). Mae gwahanol wledydd yn trin gweithiau deilliadol yn wahanol: yn yr Unol Daleithiau eiddo'r crëwr gwreiddiol ydynt.

Gweithiau allan o hawlfraint, amddifad, ac eiddo cyhoeddus

Pan fo cyfnod diogelu'r hawlfraint yn dod i ben, mae'r gwaith allan o hawlfraint a gellir ei ailddefnyddio heb ganiatâd. Diogelir argraffiad newydd o lyfr dihawlfraint gan ei hawlfraint ei hun gan gwmpasu'r diwyg ac unrhyw ddeunydd newydd. Gweithiau amddifad yw cyhoeddiadau na ellir canfod eu deiliaid hawlfraint. Ar hyn o bryd, byddai'n orfodol i rywun sy'n ailgyhoeddi gwaith amddifad dalu iawndal pe bai deiliad yr hawlfraint yn dod yn hysbys, ond mae'r gyfraith dan adolygiad. Defnyddir y term 'eiddo cyhoeddus' yn nhermau hawlfraint i olygu'n benodol waith sydd allan o hawlfraint neu waith a ryddhawyd yn fwriadol o ddiogelwch hawlfraint cyn pryd; dyma ystyr gwahanol i'r hyn a ddefnyddir wrth drafod cyfrinachedd a chyhoeddi. Gall adroddiad fod wedi'i gyhoeddi ac ar gael i'r cyhoedd ond yn dal heb fod yn 'eiddo cyhoeddus' yn nhermau hawlfraint.

Sut mae hawlfraint yn cael ei greu a'i gofrestru?

Mae hawlfraint yn bodoli o eiliad y creu. Does dim angen ei gofnodi na'i farcio mewn modd penodol i sicrhau ei ddiogelwch. Mae'n llawer haws i bobl barchu hawlfraint os gallant ganfod pwy yw'r deiliad, ac mae'n arfer safonol i gynnwys y symbol ©, enw'r crëwr a'r dyddiad cyhoeddi (e.e. © gan Jane Bennett 2007). O safbwynt rhai mathau o ddeunydd, mae cymdeithasau casglu yn cymryd cyfrifoldeb am grynhoi incwm oddi wrth drwyddedigion a'i rannu ymhlith deiliaid yr hawlfraint (er enghraifft, mae gorsafoedd radio yn talu ffi safonol fesul cân a chwaraeir i asiantaeth sy'n ei anfon ymlaen i'r artist perthnasol, y cwmni recordiau ac awdur y gân).

Hyd yr hawlfraint

Ar y dechrau, roedd cyfnod diogelu hawlfraint yn para'n benodol o'r cyhoeddiad cyntaf, ond bellach mae cyfnod mwyafrif yr hawliau yn gysylltiedig ag oes y crëwr. Yn yr UE, mae'n arferol i'r cyfnod diogelu bara am 70 mlynedd ar ôl marwolaeth y crëwr (gan ganiatáu i berthnasau a disgynyddion y crëwr barhau i elwa). Ar ôl i dymor yr hawlfraint ddod i ben, mae'r gwaith yn perthyn i'r Eiddo Cyhoeddus a gellir ei gopïo a'i ailddefnyddio heb unrhyw gyfyngiad. Ceir rheolau gwahanol ar gyfer cyhoeddiadau llywodraeth a fformatau cyhoeddi.

Defnydd personol

Mae'r gyfraith yn cydnabod bod y cyfyngiadau y mae'n ei gosod yn eang iawn ac o'u gorfodi'n gydwybodol, byddai'n atal llawer o weithgareddau nad sy'n peri niwed mawr i fuddiannau deiliad yr hawlfraint. Oblegid yr egwyddor 'delio teg' (neu'r egwyddor gyfatebol 'defnydd teg' yng nghyfraith yr Unol Daleithiau) gall pobl gopïo rhannau o weithiau at eu defnydd personol ('astudiaeth breifat') hwy eu hunain, heb ganiatâd deiliad yr hawlfraint. Ceir cyfyngiadau ar faint o'r defnydd y gellir ei gopïo a pha ddefnydd y gellir ei wneud o'r copïau, a'r pwysicaf yw fod y bwriad yn anfasnachol . Mae 'delio teg' yn golygu hefyd bod rhaid i'r copïwr gydnabod y ffynhonnell.

Yn y DU, mae'r Asiantaeth Drwyddedu Hawlfraint (CLA) yn gweithredu cynllun sticeri sy'n caniatáu copïo at ddibenion masnachol trwy dalu ffi safonol.

Hawlfraint a llên-ladrad

Mae llên-ladrad yn fath o gam-gyfleu lle nad yw rhywrai yn cydnabod ffynhonnell y deunydd y maent yn ei ddyfynnu. Gallai hyn dorri hawlfraint gan nad yw'n rhoi 'cydnabyddiaeth ddyledus', ond yn bwysicach, mae'n ffurf ar dwyll neu anwiredd.

Eithriadau Eraill

Ceir rheolau arbennig ar gyfer cynnwys deunydd mewn adolygiadau a pharodïau.

Rheoli hawlfraint

Os ydych eisiau osgoi problemau gyda hawlfraint, dylech gymryd rhai camau syml:

  • Byddwch yn glir eich meddwl pa rannau o'r gwaith a wnaed gennych chi eich hunan, a pha rannau sydd wedi'u copïo neu'u dyfynnu.
  • Gwnewch yn siŵr eich bod yn cydnabod ffynhonnell unrhyw ddeunydd a gopïwch
  • Pan fyddwch yn gwneud neu'n archebu copi, meddyliwch sut y bwriadwch ei ddefnyddio.
  • Ystyriwch yn ofalus ynghylch ailddefnyddio deunydd rydych wedi'i gael ar sail 'delio teg' at ddefnydd personol.
  • Os ydych yn creu deunydd, cadwch gopïau a chofnodion sy'n ymwneud â'r gwaith fel y gallwch ddangos mai chi yw'r awdur..
  • Os oes galw masnachol am eich gwaith, ystyriwch ddefnyddio asiantaeth gofnodi neu gasglu i ddelio â materion hawlfraint.

Llyfrgelloedd a chopïo

Cyfrifoldeb y sawl sydd angen y copi yw ystyried a yw'n dod dan y rheolau ar gyfer 'delio teg', ond gall pobl neu fudiadau sy'n ymwneud â chreu'r copi fod yn atebol hefyd. Gallant felly osod rheolau ynghylch beth y gellir ei gopïo.

Eiddo deallusol a hawliau moesol

Eiddo Deallusol yw'r term a ddefnyddir mewn deddfwriaeth fodern i gwmpasu hawliau dros syniadau a'u mynegiant, ac mae'n cynnwys hawlfraint, nodau masnach a phatentau. Mae'n cynnwys pecyn o hawliau, rhai ohonynt yn hawliau economaidd trosglwyddadwy (yr hawl i gyhoeddi llyfr) ac eraill yn hawliau moesol anhrosglwyddadwy.

Hawliau moesol yw'r hawl i gael eich cydnabod fel awdur y gwaith a grëwyd gennych, yr hawl i beidio â chael eich cydnabod fel awdur gwaith nas crëwyd gennych, a diogelwch rhag triniaeth ddirmygus (trwy gam-gyfleu sy'n effeithio ar eich enw da). Mewn gwirionedd, daw hawliau moesol yn arwyddocaol mewn achosion o lên-ladrad (rhywrai'n honni iddynt ysgrifennu testun a grëwyd gan rywun arall) a cham-gyfleu, (megis enw awdur enwog yn cael ei ddefnyddio ar waith nas crëwyd ganddynt, neu rywun yn cael ei gamddyfynnu er mwyn camarwain y darllenydd o ran eu safbwyntiau).

Ymwadiad

Ni fwriedir y wybodaeth a ddarperir yma i fod yn gyngor cyfreithiol.

Gwybodaeth bellach (yn Saesneg)


Chwilio Effeithiol

Mae defnyddio peiriannau chwilio i ddod o hyd i ffynonellau gwybodaeth yn sgil pwysig: mae'n hawdd gwastraffu amser yn palu trwy ganlyniadau amherthnasol, neu'n methu â lleoli'r ffynhonnell allweddol a fyddai'n sicrhau eich ateb. Mae'r ymarfer hwn yn egluro sut mae peiriannau chwilio yn gweithio, a sut i fanteisio ar eu nodweddion i gael y wybodaeth orau yn gyflym.

Beth yw peiriant chwilio?

Peiriant chwilio yw'r offer sy'n cynhyrchu rhestr o dudalennau ( tudalen canlyniadau chwilio) ac sy'n cynnwys gair neu ymadrodd penodedig ( y term chwilio). Yr un mwyaf cyfarwydd yw Google. Er bod llawer o beiriannau chwilio yn lleoli cynnwys rhyngrwyd, mae offer tebyg yn bodoli i leoli ffeiliau cyfrifiadurol, cofnodion cronfeydd data a thestun. Defnyddir y term 'peiriant chwilio' am yr offer; bydd y defnyddiwr yn teipio neu'n gludo'r term chwilio i flwch chwilio. Weithiau gellir cyfyngu'r chwiliad i fathau arbennig o ddeunydd neu leoliadau er mwyn cael gwell canlyniadau (er enghraifft, 'delweddau'n unig', 'safleoedd y DU yn unig')

Sut mae'r term chwilio a ddewiswyd gen i yn effeithio ar y canlyniadau?

Er bod peiriannau chwilio'n cael eu gwella i hwyluso'r broses o leoli deunydd perthnasol, mae gan union fformat y term chwilio a ddefnyddir effaith aruthrol ar nifer a pherthnasedd y canlyniadau a ganfyddir.

Er enghraifft, pe baech yn chwilio am wybodaeth ar Bwll Glo Abernant, gallech chwilio am:

Term chwilio Canlyniadau
Cymru 120,000,000 o ganlyniadau
Glo Cymru 3,000,000 o ganlyniadau
Glo Cymru Abernant 3,700 o ganlyniadau
Pwll glo Abernant 7,000 o ganlyniadau
'Pwll glo Abernant' 400 o ganlyniadau

Bydd defnyddio term eang fel Cymru yn rhestru nifer fawr o dudalennau nad sy'n cynnwys unrhyw wybodaeth berthnasol, ac mae'n bur debyg na fyddai'r tudalennau mwyaf perthnasol yn cael eu rhestru'n gyntaf.

Bydd y rhan fwyaf o'r peiriannau chwilio yn anwybyddu priflythrennau (felly mae Cymru a cymru yn cael eu trin yr un fath); hefyd efallai y byddent yn anwybyddu atalnodi a gofodau, neu efallai ddim. Mae'r rhan fwyaf yn chwilio am bob gair ar wahân, felly mae Glo Cymru Abernant yn chwilio mewn gwirionedd am dudalennau gyda Cymru, a/neu glo, a/neu Abernant.

Mae'r defnydd o ddyfynodau i chwilio am ymadrodd wrth ei deipio yn cael ei dderbyn gan y rhan fwyaf o beiriannau chwilio.

Yn gyffredinol, gwell yw:

  • Defnyddio termau penodol yn hytrach na rhai cyffredinol (Abernant dim glo)
  • Defnyddio 'cydweddiad llwyr' ('exact match') yn hytrach na 'yn cynnwys y geiriau hyn' ('containing these words')
  • Chwilio am gysyniad penodol i ddechrau, ac yna defnyddio termau ehangach os na fyddwch yn taro ar ganlyniadau
  • Osgoi geiriau cyffredin

Sut mae peiriant chwilio yn gweithio?

Mae peiriant chwilio yn cymryd y term chwilio a'i wirio yn erbyn y testun, gan edrych am gydweddiadau. Mae rhai peiriannau chwilio yn defnyddio'r rhyngrwyd yn fyw i edrych am y cydweddiadau tra bod eraill yn chwilio tudalennau testun a gynaeafwyd ynghynt o dudalennau rhyngrwyd. Bydd chwilio byw yn dod o hyd i'r tudalennau diweddaraf oll, ond mae'n broses llawer mwy araf na chwilio 'cynaeafedig' . Rhestrir y tudalennau sy'n cynnwys cydweddiadau ar y dudalen canlyniadau chwilio; bydd y drefn yr ymddangosant yn dibynnu ar sut mae'r peiriant yn gweithio. Penderfynir trefn y dangos (neu'r raddfa) gan fformiwla (algorithm). Mae algorithm Google yn rhoi safle uwch i dudalennau diweddar, tudalennau gyda llawer o gysylltau yn pwyntio atynt a thudalennau lle mae'r term chwilio yn y teitl neu'n ymddangos yn aml. Fel arfer, gellir defnyddio peiriannau chwilio'n ddi-dâl; telir am y gost o'u rhedeg trwy werthu hysbysebion ar y tudalennau chwilio neu'r tudalennau canlyniadau.

Chwiliadau Boole

Mae chwiliadau Boole yn tarddu o gangen o algebra a rhesymeg a ddatblygwyd gan George Boole. Bydd geiriau'n cael eu defnyddio fel gweithredyddion i ddiffinio'r berthynas rhwng dau neu fwy o ddatganiadau. Wrth chwilio, ychydig o weithredyddion yn unig sydd eu hangen; os byddant yn ddealladwy i'r peiriant chwilio, gallant hidlo a pherffeithio'r canlyniad i raddau helaeth iawn.

Chwilio am 'fossilize' - y sillafiad hwnnw'n unig a welir ar y dudalen

Chwilio am 'fossilise' ' ' ' ' '

Chwilio am 'fossilise' OR 'fossilize' yn dod o hyd i'r naill sillafiad neu'r llall (neu'r ddau)

Bydd AND ond yn adfer y tudalennau hynny sy'n cynnwys y ddau derm.

Bydd NOT yn adfer y tudalennau sy'n cynnwys y term cyntaf ac nid yr ail:

Wrth deipio 'King of Britain' NOT 'Arthur' ni cheir rhestr o unrhyw dudalennau yn cynnwys Arthur.

Wrth ddefnyddio chwiliadau Boole, mae'r gweithredydd mewn prif lythrennau, a'r termau chwilio mewn dyfynodau.

Ceir dau weithredydd penodol arall:

+term chwilio x yn rhestru tudalennau sy'n cynnwys term x yn unig

-term chwilio y dim ond yn rhestru tudalennau nad sy'n cynnwys term y

Enghreifftiau o Chwiliadau

'Kings of Britain' OR 'Kings of England'

'King' NOT 'Arthur'

'King' -arthur

'Britain' +king

Sut mae 'chwilio delweddau' yn gweithio?

Dyw'r broses o chwilio delweddau ddim yn cynnwys edrych ar y delweddau: mae'n chwilio testun ar yr un dudalen â'r ddelwedd, yn enwedig y pennawd neu ddisgrifiad o'r ffeil. Cafwyd sawl ymdrech i ddatblygu proses o chwilio lluniau'n awtomatig ond hyd yma does yr un ohonynt wedi llwyddo.

Sut ddylwn i eirio fy nherm chwilio?

Gan fod y peiriant chwilio yn edrych am eiriau sy'n cydweddu â'i gilydd, does dim angen geirio'r chwiliad ar ffurf cwestiwn. Bydd defnyddio ychydig o eiriau perthnasol iawn yn codi canlyniadau'n ymwneud yn benodol â'ch diddordeb chi. Os bydd eich chwiliad cyntaf yn codi gormod o ganlyniadau, ychwanegwch dermau eraill i'w gyfyngu. Os na chewch unrhyw ganlyniadau o gwbl, edrychwch eto a yw eich sillafu yn gywir a defnyddiwch eiriau gwahanol.

Beth yw Optimeiddiaeth Peiriant Chwilio?

Mae busnesau'n dibynnu ar ymwelwyr i'w gwefannau am eu cwsmeriaid, ac mae'n bwysig iddynt eu bod yn cyrraedd cynifer o bobl ag y bo modd. Bydd y mwyafrif o bobl yn chwilio am wefan yn hytrach na theipio cyfeiriad y we - hyd yn oed os ydynt yn ei wybod - ac fel arfer byddant yn edrych ar yr ychydig ganlyniadau chwilio cyntaf yn unig. Mae gwefannau masnachol yn ceisio sicrhau eu bod ar frig y rhestr ganlyniadau trwy Optimeiddiaeth Peiriant Chwilio, a byddant yn fwriadol yn cynnwys testun a chynnwys arall yn y gwe-dudalennau er mwyn sgorio'n dda o ran perthnasedd. Ceir yr hyn a elwir yn we-ddylunwyr 'het ddu' sy'n ychwanegu cynnwys camarweiniol i geisio creu mwy o dramwyo.

Oherwydd yr arfer hwn, yn aml iawn bydd canlyniadau chwilio yn dangos safleoedd masnachol sy'n cynnwys ond ychydig iawn o wybodaeth ddefnyddiol yn uwch i fyny ar y rhestr o'i gymharu â'r safleoedd anfasnachol sy'n llawer mwy defnyddiol.

Cloi

Mae peiriannau chwilio yn offer soffistigedig ar gyfer dod o hyd i wybodaeth. I sicrhau'r canlyniadau gorau ohonynt, rhaid i chi ddefnyddio termau chwilio da ac archwilio technegau uwch.

Gwybodaeth bellach


Arweiniad ar bynciau

Mae Cylchgronau Cymru yn cynnwys deunydd ar ystod eang o bynciau. Mae’r dudalen hon yn cynnwys ychydig o arweiniad ar brif deitlau pob pwnc ac enghreifftiau o’u cynnwys. Er hwylustod mae’r cyhoeddiadau wedi eu rhannu yn chwe phennawd, yn seiliedig ar brif faes eu cynnwys, er nad ydyw’r ffiniau rhyngddynt bob amser yn glir.

Grwpiau Pwnc a ddefnyddir gan Gylchgronau Cymru

Pennawd Yn cynnwys y pynciau: Dosbarthiad Degol Dewey a’r LCSH cyfatebol
Cyffredinol Cyhoeddiadau poblogaidd a chyffredinol 000 Cyffredinolebau
Crefydd Crefydd (gan gynnwys hanes crefydd); athroniaeth 100 Athroniaeth a seicoleg; 200 Crefydd; Athroniaeth; Crefyddau
Y Gyfraith, gwleidyddiaeth ac addysg Y Gyfraith, hanes gwleidyddol, addysg 300 Gwyddorau cymdeithasol; Gwyddorau cymdeithasol
Gwyddoniaeth Gwyddoniaeth, peirianneg a hanes naturiol 500 Gwyddorau naturiol & mathemateg; 600 technoleg (Gwyddoniaeth cymwysedig); Gwyddoniaeth; Technoleg
Llenyddiaeth Llenyddiaeth, celf, iaith a cherddoriaeth 400 Iaith; Y celfyddydau; 800 Llenyddiaeth & rhethreg; Iaith a ieithoedd; Celfyddydau
Hanes a daearyddiaeth Archaeoleg, hanes a daearyddiaeth 900 Daearyddiaeth & hanes, Hanes; Daearyddiaeth

Teitlau mewn grwpiau pwnc

Cyffredinol

Hanes a daearyddiaeth

Y Gyfraith, gwleidyddiaeth ac addysg

Llenyddiaeth

Crefydd

Gwyddoniaeth

Penawdau perthnasol ar gyfer cyrsiau neu bynciau

Cwricwlwm CBAC Pennawd
Celfyddyd gymhwysol a Dylunio Llenyddiaeth
Busnes gymhwysol Cyffredinol
TGCh gymhwysol Gwyddoniaeth
Gwyddoniaeth gymhwysol Gwyddoniaeth
Celf Llenyddiaeth
Celf & Dylunio Llenyddiaeth
Bioleg Gwyddoniaeth
Astudiaethau Busnes Y Gyfraith, gwleidyddiaeth ac addysg
Cemeg Gwyddoniaeth
Cyfathrebu Cyffredinol
Cyfrifiadura Gwyddoniaeth
Dylunio & Thechnoleg Gwyddoniaeth; Llenyddiaeth
Drama Llenyddiaeth
Economeg Y Gyfraith, gwleidyddiaeth ac addysg
Electroneg Gwyddoniaeth
Saesneg Llenyddiaeth
Iaith a Llenyddiaeth Saesneg Llenyddiaeth
Llenyddiaeth Saesneg Llenyddiaeth
Astudiaethau Ffilm Llenyddiaeth
Astudiaethau Bwyd Gwyddoniaeth
Daearyddiaeth Hanes a daearyddiaeth
Daeareg Hanes a daearyddiaeth; Gwyddoniaeth
Llywodraeth & Gwleidyddiaeth Y Gyfraith, gwleidyddiaeth ac addysg
Astudiaethau Graffigol & Astudiaethau Materol Llenyddiaeth; Gwyddoniaeth