Rydym wedi ceisio gwneud ein safle mor gyraeddadwy â phosibl trwy ragweld anghenion defnyddwyr a chefnogi dewis helaeth o dechnoleg.
Rydym wedi cynnwys cyswllt Skip Navigation ar bob un o’n tudalennau a’n bysellau mynediad safonol (Windows, pwyso ALT + bysell mynediad; Macintosh, pwyso Control + bysell mynediad).
Mae ein tudalennau wedi’u llunio fel y gallwch ddefnyddio’r fysell tab i neidio i’r cyswllt nesaf a phwyso ENTER i ddilyn y cyswllt.
Bydd newid maint y testun yn eich porwr yn newid y cysylltau llywio a thestun gwybodaeth gwefan. (Am wybodaeth ar addasu eich porwr, ewch i
Mae gan yr holl dudalennau gysylltau megis ‘rel=previous’ (blaenorol), ‘next’ (nesaf), ‘up’ (i fyny), a chysylltau cartref i gynorthwyo llywio mewn porwyr testun yn unig.
Mae pob tudalen yn cynnwys blwch chwilio. Hefyd ceir tudalen chwilio uwch. Mae pob tudalen ar y safle hwn yn defnyddio ychwanegiad semantig strwythurol. Defnyddir tagiau H1 ar gyfer prif deitlau, tagiau H2 ar gyfer isdeitlau. Mae’r safle hwn yn defnyddio meintiau ffont cymharol yn unig sy’n gydnaws â’r opsiwn “maint testun” penodedig i’r defnyddiwr mewn porwyr gweledol.
Darperir pedwar opsiwn gweld fel tabiau ar wahân:
Dylai fersiwn testun o dudalen gael ei gyflwyno’n gywir. Noder bod fersiwn testun o dudalen wedi’i greu yn awtomatig a bydd yn cynnwys rhai camgymeriadau. Mae ffersiwnau PDF yn cynnwys delweddau yn unig; ni fydd modd i syntheseiddydd llefaru testun eu darllen.
Os oes gennych awgrymiadau neu os hoffech fwy o wybodaeth ar sut rydym wedi gwneud y safle hwn yn gyraeddadwy, e-bostiwch webmaster@llgc.org.uk.