Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Canlyniadau Chernobyl MAE Chernobyl bellach yn gyfystyr â dinistr niwclear na welwyd mo'i debyg o'r blaen mewn cyfnod o heddwch. Syndod o'r mwyaf felly oedd darlleí'î prif gasgliad y comisiwn rhyngwladol a fu'n archwilio canlyniadau'r ddamwain. Yn yr ardaloedd a astudiwyd (sef y tair gweriniaeth Sofietaidd gyfagos) ni chanfuwyd anhwylderau iechyd y gellid eu priodoli'n uniongyrchol i ymbelydredd niwclear. Gan fod y canlyniadau mor gwbl annisgwyl mae'n bwysig ystyried natur yr archwiliad. Y Llvwodraeth Sofietaidd fu'n gyfrifol am wahodd yr Asiantaeth Ynni Atomig Ryngwladol (IAEA), i\\ drefnu. Ffurfiwyd Pwyllgor Ymgynghorol Rhyngwladol yn cynnwys 19 o aelodau. Yn eu tro, te ofynnodd y rhain i 200 o arbenigwyr o 22 0 wledydd. gan gynnwys 7 sefydliad rhyngwladol sy'n arbenigo ar effeithiau ymbelydredd niwclear, i ymgymeryd â'r gwaith manwl. Maes yr astudiaeth oedd y boblogaeth a effeithiwyd gan y ddamwain yn Byelorwsia, yr Iwcrain a'r Ffed- erasiwn Rwsaidd. Pwysleisiodd adroddiad y Pwyllgor Ymgynghorol mai'rboblogaeth sy'n byw yn y gweriniaethau ar hyn o bryd a astudiwyd ac ni ddilynwyd y rhai a adawodd wedi ddamwain >n 1986. Nid ystyriwyd ychwaith y gweithwyr hynny oedd ar safle'r pwerdy yn Chernobyl ac a îu n gyfrifol am y camau brys a gymerwyd. Serch hynny. fe astudiwyd miliwn a mwy o bobl mewn 2700 o wahanol ardaloedd. Cadeirydd y Pwyllgor Ymgynghorol oedd Dr Itsuzo Shigamatsu. tyfarwyddwr y Ganolfan Ymchwil i Effeithiau Wibdydredd Niwclear yn Hiroshima. Trefnwyd cynhadledd yn Fiena i ystyried canlyniadau*r ymchwil. a chefais innau, tra oeddwn yno, gyfle i drafod y manylion. Effeithiau uniong\-rchol ymbelydredd Chernobyl. yn y cytnod ar ôl 1986, fu prif faes yr ymchwiliad a diddorol oedd canfod na fu unrhyw gynnydd yn M" ystadcgau ar gyfer nam a drosglwyddir i epil. in wir, yn ôl y ffigurau roedd nifer y babanod a ctnwyd yn farw yn uwch cyn y ddamwain. Nid °edd cynnydd ychwaith yn y nifer yn dioddef o lewcemia neu ganser y thyroid. Ar y llaw arall, nid •^n bosibl casglu na chafwyd cynnydd mewn a"ser yn gyffredinol. P'run bynnag, mae'n Golygyddol cymryd blynyddoedd lawer i'r mathau o ganser a drafodwyd i ymddangos a gellir disgwyl y bydd cynnydd pendant i'w weld yn y dyfodol yn nifer y rhai yn dioddef o ganser y thyroid. Fodd bynnag, mae'r adroddiad yn pwysleisio bod y ddamwain wedi cael effaith sylweddol ar iechyd mewn meysydd nad oes ganddynt gysylltiad uniongyrchol ag ymbelydredd niwclear. Mae llawer o'r boblogaeth yn credu iddynt gael eu heffeithio gan y ddamwain ac mae hyn yn achosi pryder. ofn a phroblemau seicolegol. Mae rhai hyd yn oed yn priodoli eu hafiechydon i'r ddamwain mewn ardaloedd lle mae lefelau yr ymbelydredd yn ddiogel. Y rheswm dros gynnwys ardaloedd o'r fath yn yr archwiliad oedd i'w defnyddio i gymharu. Archwiliwyd y pridd. y dwr a'r bwyd i weld a oedd y lefelau yn ddiogel. Cadarnhawyd y mesuriadau Sofietaidd am blwtoniwm a chaesiwm ond gwelwyd bod eu mesuriadau ar gyfer strontiwm yn rhy uchel. Mae'r lefelau bellach o fewn terfynau sy'n caniatáu i fwydydd symud yn y cylch masnach rhyngwladol. At ei gilydd, mynegodd yr adroddiad bod y mesurau a gymerodd y wladwriaeth Sofietaidd i ddiogelu'r boblogaeth yn rhesymol ac yn cydymffurfio â chanllawiau rhyngwladol. Eto i gyd, pwysleisiwyd y byddai rhaid rhoi ystyriaeth i agweddau cymdeithasol a gwleidyddol wrth gynllunio mesurau amddiffyn yn y dyfodol. Astudiaeth glinigol a gwrthrychol oedd astudiaeth yr arbenigwyr. Ni allent fesur y niwed radiolegol a gwna'r adroddiad hi'n glir bod y bobl wedi eu niweidio'n sylweddol mewn ffordd arall hefyd. Mae cysgod ofn wedi disgyn arnynt; nid oes sicrwydd ynghylch eu dyfodol hwy na dyfodol eu plant. At yr ofn hwn gellir ychwanegu elfen o warth. Yn Siapan nid oes neb bellach yn cydnabod eu bod yn hanu o Hiroshima a'u bod yno pan ddisgynnodd y bom atomig. Pe bai'n gwneud hynny ni fyddai'r un ferch yn cael gwr. Roedd rhai o'r arbenigwyr yn awgrymu bod y cwmwl hwn o ansicrwydd yr un mor ddinistriol i hyder a hapusrwydd y bobl o gwmpas Chernobyl. â'r cwmwl ymbelydrol.