Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Dim rhybudd Cafodd Sandoz eu beirniadu'n hallt am beidio â rhybuddio'r gwledydd cyfagos, wrth reswm. A fyddai hyn wedi gwneud unrhyw wahaniaeth? Mae'n debyg y byddai ac y gallai'r effeithiau wedi bod yn llawer llai niweidiol. Mae nifer fawr o drefi a phentrefi, megis Unkel, 15 milltir o Bonn, yn der- byn eu dwr yfed o'r afon, a gallai cyflenwadau diogelach fod wedi eu trefnu iddynt ynghynt. Erbyn i'r gwenwyn gyrraedd yr Iseldiroedd, 'roedd y giatiau pwrpasol wedi eu trefnu fel bod y sbwriel yn cymryd y ffordd agosaf i'r môr. Wrth archwilio'r dwr yn fanwl, daethpwyd o hyd i gemegyn nad yw Sandoz yn ei gynhyrchu, sy'n brawf pendant bod eraill wedi halogi'r afon ddiwrnod cyn y tân. Ydyw hyn felly wedi bod yn ddigwyddiad rheolaidd, ond heb ei ddarganfod cyn y tân? Tra oedd y byd i gyd yn gwylio yn ystod y dyddiau allweddol daeth nifer o ddigwyddiadau cyffelyb i'r amlwg. Yng ngwaith Ciba-Geigy ychwanegodd y gweith- wyr ormod o gatalydd mewn proses, a lledaenwyd phenol yn gwmwl budr dros Basel. Yng ngwaith BASF, oherwydd i un o'r pibellau erydu trwyddi, COLEG PRIFYSGOL CYMRU ABERYSTWYTH CYRSIAU GRADD в Y CELFYDDYDAU в Y GYFRAITH в Y GWYDDORAU в ASTUDIAETHAU ECONOMAIDD A CHYMDEITHASOL CYFLEUSTERAU YMCHWIL o'r radd flaenaf, yn seiliedig ar draddodiad hir o ysgolheictod YSGOLORIAETHAU EVAN MORGAN bob blwyddyn i fyfyrwyr o Gymru ar sail arholiad a gynhelir ym mis Ionawr. Manylion pellach i'w cael gan y Swyddfa Dderbyn, Coleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth anfonwyd rhagor eto o wenwyn chwyn i afon Rhein. Canfuwyd halogiad cemegol arall yn afon Main, sy'n rhedeg i afon Rhein, oherwydd bod tanc cwmni arall yn gollwng. Ac yng nghanol miri'r dyddiau hynny rhyddhawyd cwmwl o gemegau phosphorws (nerf nwyon) i'r amgylchedd, eto yn Basel. Y cwbl o fewn dyddiau i'r ddamwain fawr! Digwyddiadau anarferol, neu rhai a ddaeth i'r amlwg oherwydd bod cymaint o sylw yn cael ei ganolbwyntio ar Basel? Ni ddown byth i wybod, mae'n siwr. Digwydd yng Nghymru? Sais o'r enw Stanley Clinton Davies yw'r Com- isiynydd Ewropeaidd sy'n gyfrifol am yr amgylchedd. Ei honiad ef yw bod rheolau'r gymuned yn sicrhau na allai damwain debyg ddigwydd gyda'n hafonydd ni. Mae rheolaeth fanwl ar faint a sut y storir cemegau gwenwynig. Mae arolygwyr yn archwilio pob gwaith cemegol yn rheolaidd. Pe byddai tân, mae cyfarwyddiadau digon pendant i'r gwasanaethau argyfyngol ar sut i weithredu. Gobeithio ei fod yn iawn! GLYN O. PHILLIPS yn CYNIGIR