Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Ffig. 6 Yr ail ffordd o all-daflu mater ydyw trwy gyfrwng 'Gwynt-Serennol'. Credir bod pob seren yn y Bydysawd yn all-daflu gronynnau gor-gyflym (protonau ac electronau) yn gyson ac yn barhaus i'r gofod, a chasgliad o ronynnau o'r fath ydyw'r Gwynt hwn sydd yn creu colled-materol yn sgil chwythu o gyfeiriad y seren. Gweler Ffig. 6. Dychmygir bod un cydran o 'Seren- Ddwbl' yn 'Dwll Du' nas gellir ei ganfod os nad yw'r cydran arall yn ymdaflu neu yn all-chwythu mater tros ymylon ei lôb. Oherwydd os ydyw'r seren normal weledig-amlwg yn all-chwythu mater i'r gofod, yna mae cyfran o'r mater-nwyol hwn yn llifo trwy groes-bwynt y ffigur-wyth (a elwir yn Bwynt Mewnol Lagrange) i'w amlyncu i'r 'Twll Du'. Mae tystiolaeth ar gael mai cylchdroi o gylch y 'Twll' a wna'r nwyon hyn gan gynhyrchu disg enfawr o nwy CYD-BWYLLGOR ADDYSG CYMRU 245 Western Avenue Termau Coginio Termau Daearyddiaeth Termau Bioleg, Cemeg, Gwyddor Gwlad Termau Ffiseg a Mathemateg troellog yng ngofod-trothwyol y 'Twll Du'. Gelwir disg o'r fath yn 'Disg-Tyfiant' ac mae'n derbyn mater mewn-lifol o'r seren arall i'w grynswth yn barhaus. Mae hefyd yn cylchdroi'r 'Twll Du' megis y gwna'r cylchenau-modrwyol o gylch y blaned Sadwrn, er yn llawer mwy ei draws-led na'r rhain. Tybir nad yw tymheredd y nwyon ar ffiniau-allanol y Disg ond ychydig filoedd gradd Kelvin, ond erbyn iddynt gyrraedd cynteddau mewnol y Disg bydd eu tymheredd yn uwch nag un miliwn gradd. Gwyddys bod unrhyw wrthrych sy'n meddu tymheredd rhwng un miliwn a dwy filiwn gradd yn allyrru pelydrau-X. Felly mae'r nwyon ym mherfeddion y Disg yn sicr o fod yn ffynhonnell gref o belydrau-X. Ar ôl astudiaeth drwyadl o arsylwadau tros gyfnod maith, yn ogystal â dadansoddiad manwl o ganlyniadau arbrofol llu o seryddwyr, yn arbennig gwaith Noficof a Polnaref yn Rwsia a Cunningham yn yr Unol Daleithiau, credir fod Ffig. 5 yn ddarlun cynhwysfawr o'r hyn all ddigwydd o amgylch ffynhonnell 'Signws X-F. Fel y tybiwyd, allyrrir mater o aelod normal y Seren Ddwbl i'r gofod trwy gyfrwng 'Gwynt Serennol' ac mae cyfran o'r mater yn cael ei gaethiwo o fewn cynteddau- effeithiol y 'Twll Du', gan gynhyrchu 'Disg-Tyfiant' tua 2-miliwn milltir mewn diamedr. Yn rhannau mewnol y Disg, rhywle tua 200 milltir uwchben y 'Twll Du', mae'r nwyon mor boeth nes yr all-yrrant gyfanswm enfawr o belydrau-X. Nid yw'r 'Twll Du' ei hun ond tua 20 milltir mewn diamedr ac felly nid yw'r pelydrau-X a dderbynnir trwy delisgôp Cylchen arbennig yn dod yn uniongyrchol o'r 'Twll Du' ei hun ond yn hytrach o'r nwyon mewn-droellog sydd ar fin diflannu i'r Twll. Ond mae hyn yn ddigon o dystiolaeth i fodolaeth 'Twll Du' yn y cyffiniau. Ymddiheuriad Dylai'r erthygl hon, a'r nesaf yn y gyfres, fod wedi ymddangos o flaen yr erthygl Tyllau Gwynion a gyhoeddwyd yn Y Gwyddonydd xxii, 2. Ymddiheurwn am unrhyw ddryswch a achoswyd oherwydd hyn. Caerdydd Ffôn: 0222-561231 50c (cludiant yn ychwanegol) 60c (cludiant yn ychwanegol) 75c (cludiant yn ychwanegol) 75c (cludiant yn ychwanegol)