Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y Gymraeg yng Ngwyddoniaeth a Thechnoleg ein Colegau-y Ffordd Ymlaen Yn enedigol o Fryneglwys, Clwyd, derbyniodd ei addysg yn Ysgol Gymraeg Llanelli ac Ysgol Ramadeg y Bechgyn yn y dref honno. Graddiodd mewn ffiseg yng Ngholeg y Brifysgol, Aberystwyth, ac yno hefyd y derbyniodd ei ddoethuriaeth ar destun ffiseg yr atmosffer. Bu am ddwy flynedd yn Labordy Clarendon, Rhydychen, yn gweithio ar ffiseg tymheredd isel cyn ei benodVn ddarlithydd ym Mhrifysgol Reading. Er 1970 ef yw Dirpwy Gyfarwyddwr Cymreig y Brifysgol Agored. Gweithredodd Dr. Wynne fel Ysgrifennydd Gweithgor y Gymdeithas Wyddonol ar y Coleg Cymraeg. GYDA degawd cyntaf bodolaeth y Gymdeithas Wyddonol Genedlaethol yn prysur ddirwyn i ben, nid anaddas efallai oedd i'r Gymdeithas yn ei chyfarfod blynyddol ar faes Eisteddfod Caernarfon drafod adroddiad yn ymwneud ag addysg wyddonol a thechnolegol drwy gyfrwng y Gymraeg. Oher- wydd, yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol, mae oblygiadau addysgol yn rhwym wrth amcanion y Gymdeithas. Wedi'r cwbl, proses o addysgu yw ymarfer ac ymgyfarwyddo a thrin a thrafod gwyddoniaeth a thechnoleg drwy'r iaith Gymraeg ac, yn hyn o beth, gall y Gymdeithas ymfalchïo yn ei chyfraniad yn ystod y Saithdegau. Mae Y GWYDDONYDD yntau yn gwneud cyfraniad pwysig yn yr un maes a dichon nad amherthnasol i'w swyddogaeth yw'r ystyriaethau a'r casgliadau a gynhwysir yn yr adroddiad. Amcan yr erthygl hon felly yw bwrw golwg ar gynnwys yr adroddiad yma — 'Y Gymraeg yng Ngwyddoniaeth a Thech- noleg ein Colegau-y Ffordd Ymlaen'. Mae'r adroddiad yn ffrwyth llafur gweithgor a sefydlwyd gan y Gymdeithas Wyddonol ym 1977 'i ystyried y gwahanol argymhellion ynglyn â sefydlu Coleg Cymraeg gan roi sylw arbennig i'r oblygiadau o safbwynt gwyddoniaeth a thech- noleg'. Ar yr wyneb, beth bynnag, ymddengys cylch gorchwyl y Gweithgor yn ddigon cyfyng. Ond fel yr adlewyrcha'r teitl, ni theimlai'r Gweith- gor y gallai wneud cyfiawnder â'r pwnc o gyfyngu ei sylw i'r gwahanol gynigion ynghylch sefydlu Coleg Cymraeg sydd wedi ymddangos yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Yn hytrach, dewisodd ymgymeryd ag arolwg pur eang ar addysg wydd- onol a thechnolegol drwy gyfrwng y Gymraeg gan gynnwys addysg ysgol yn ogystal â choleg. Cymer- wyd y cam yma gan na fu (hyd y gwyr y Gweithgor) ROWLAND WYNNE Dr. ROWLAND WYNNE astudiaeth systematig o swyddogaeth addysgol ein hiaith yn y maes dan sylw, ac ni ellid rhoi tegwch i'r argymhellion ynghylch y Coleg Cymraeg heb yn gyntaf feddu rhyw fath o weledigaeth ynghylch addysg wyddonol a thechnolegol yn y Gymraeg yn gyffredinol. I hyrwyddo'r amcan yma cymerodd y Gweithgor gam deublyg. Rhoddwyd ystyriaeth yn gyntaf i le'r Gymraeg ar sail egwyddor ym myd gwyddon- iaeth a thechnoleg, ac yn ail ceisiwyd darganfod pa ddefnydd addysgol a wneir o'r Gymraeg yn y