Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y GWYDDONYDD Canllawiau i Awduron Ydych chi wedi ystyried llunio erthygl addas i'w chynnwys yn Y Gwyddonydd erioed ? Mae ôl-rifynnau'r cylchgrawn yn tystio i'r amrywiaeth pynciau a dderbyniwyd gan y Bwrdd Golygyddol i'w cyhoeddi yn y cyhoeddiad safonol hwn sy'n apelio nid yn unig at y darllenydd o wyddonydd, ond hefyd at y lleygwr deallus. Yn awr, er hwyluso gwaith darpar-gyfranwyr i'r Gwyddonydd, lluniwyd taflen i awduron i gynnig canllawiau ynglýn â sut i gyflwyno erthyglau priodol. Os ydych wrthi'n llunio erthygl neu'n ystyried gwneud, bydd y canllawiau hyn o gymorth mawr i chi. Mae copïau ar gael, yn rhad ac am ddim, oddi wrth: SWYDDFA OLYGYDDOL Y Gwyddonydd, GWASG PRIFYSGOL CYMRU, 6 GWENNYTH STREET, CATHAYS, CAERDYDD CF2 4YD Codiad Pris Mae'r cynnydd parhaol yng nghostau cynhyrchu a dosbarthu yn ein gorfodi i godi pris Y Gwyddonydd i £ 1.00 y rhifyn o'r rhifyn nesaf ymlaen. Bydd tanysgrifiad blwyddyn yn codi i £ 4.00. Cadwyd y pris gwerthu i lawr am gyfnod hir a'r un pryd penderfynwyd diogelu diwyg deniadol y cylchgrawn a safon uchel y cynhyrchu. Hyd yn oed ar ôl codi'r pris bydd y cylchgrawn yn dal i dderbyn nawdd sylweddol oddi wrth Wasg y Brifysgol. Hyderwn y bydd ein darllenwyr yn cytuno fod y pris newydd yn rhesymol yng nghyd-destun y sefyllfa economaidd ac ansawdd y cylchgrawn ac y medrwn ddal at y pris newydd am gyfnod yn wyneb y codiadau pellach sydd yn yr arfaeth.