Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Nodiadau ar y Cyfranwyr E. L. JAMES Ganwyd ar fferm yng ngodre Ceredigion, a'i addysgu yn ysgol gynradd Aberbanc, Ysgol Ramadeg Llandysul a Choleg y Brifysgol Aberystwyth, lle y graddiodd mewn Ffiseg. Bu am gyfnod yn Swyddog Gwyddonol yn y Gwasanaeth Sifil cyn ei benodi'n ddarlithydd yng Ngholeg Gwyddoniaeth a Thechnoleg, Chelsea, Llundain. Ym 1969 dechreuodd ar ei swydd bresennol fel tiwtor mewn gwyddoniaeth yn Adran Efrydiau Allanol, Aberystwyth. JOHN ELLIS JONES Brodor o Lanrwst, a chyn-ddisgybl o Hen Ysgol Rad y dref (1941-47), Coleg y Brifysgol, Bangor, a chymrawd teithiol o'r brifysgol. Aelod cyflawn o'r Ysgol Archaeolegol Brydeinig yn Athen 1954-55. Bu ar staff Adran Glasurol Prifysgol Leicester ac ar staff adrannau Groeg a Lladin Bangor ers 1958, ac ar hyn o bryd yn Uwch-ddarlithydd ac yn Guradur yr Amgueddfa yno. Bu'n cloddio'n amI yn y gwledydd hyn ac yng Ngroeg, ac mae wrthi yn awr yn safleoedd mwyngloddiau arian a phlwm Athen yn neheudir Attica. N. V. JONES Addysgwyd yn Ysgol Ramadeg Dyffryn Ogwen, ac yng Ngholeg y Brifysgol ym Mangor lle y graddiodd mewn Swoleg. Yna bu am dros ddwy flynedd fel meteorolegydd/bywydegwr yn Antarctica cyn dychwelyd i Fangor i astudio ar gyfer Ph.D. Penodwyd ef yn ddarlithydd mewn Sŵolegyn Hull wedyn, lle mae'n arbenigo ar ecoleg afonydd ac aberoedd. RHYS M. JONES Ganwyd ym 1941, a'i fagu mewn nifer o lefydd yn y gogledd a'r de, ond ym Mlaenau Ffestiniog yn bennaf. Cafodd flas ar astudiaethau cynhanesyddol yn gynnar, yn Ysgol Maen Offeren gan Tom Evans. Symudodd y teulu i Gaerdydd ac aeth i Ysgol Ramadeg Eglwys Newydd ac oddi yno i Goleg Emmanuel Caergrawnt i astudio Gwyddoniaeth, ac wedyn Archaeoleg gan arbenigo ar Hen Oes y Cerrig. Ym 1963 penodwyd i Adran Anthropoleg Prifysgol Sydney. Symudodd i Ganberra ym 1969, ac erbyn hyn mae'n Uwch-gymrawd yn y Sefydliad Astudiaethau Uwch ym Mhrifysgol Genedlaethol Awstralia. Gwnaeth astudiaeth arbennig o hanes aboriginiaid Tasmania. Bu'n cloddio yng Nghymru hefyd, mewn twmpath o Oes y Pres yn Sant-y-Nyll ym Mro Morgannwg ac mewn ogof Pleistosin yn y Coygan, yng Nghaerfyrddin. R. GARETH WYN JONES Ganwyd yn Lerpwl, a'i fagu am gyfnod yn Llansannan cyn dychwelyd i Lerpwl i'r Liverpool College. Aeth oddi yno i Goleg y Brifysgol ym Mangor, a graddio mewn Biocemeg a Gwyddor Pridd. Astudiodd ymhellach ym Mhrifysgolion British Columbia a Rhydychen, a bu'n gymrawd ymchwil ym Mhrifysgol California, Los Angeles. Ar hyn o bryd mae'n ddarlithydd yn ei hen adran ym Mangor, a phrif faes ei ymchwil yw ymaddasiad biocemegol planhigion i amgylcheddau heillt a chras.