Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

14. Bioleg, Diwylliant a Chrefydd Gyda'r blynyddoedd, daeth agweddau cyrhaeddgar a phwysig i'r amlwg ynglyn â datblygiad diwylliant a chrefydd y creadur dynol. Cyfyd llawer ohonynt o ganlyniad i ddamcaniaethau ac ymchwiliadau biolegol y can mlynedd diwethaf, cyfraniadau a gynyddodd yn ddirfawr yn ystod y deg neu'r pymtheng mlynedd diwethaf. Beth bynnag a fernir am y cread a'i esblygiad, ei aur pen llanw ydyw dyn-ef ydyw uchafbwynt yr holl gread a'i gynnyrch pennaf. Y mae'n wir nad ydyw dyn ar y blaen ar sail yr holl briodoleddau sy'n gysylltiedig â bywyd a'i esblygiad. Er enghraifft, y mae gan lawer o'r mamaliaid well systemau clywed ac arogli, ond a chymryd yr holl agweddau yn eu cyfanrwydd, ymddengys dyn ymhell ar y blaen fel cynnyrch y broses esblygiadol. Ond, a chaniatáu hynny, rhaid sylweddoli fod tebygrwydd ymysg holl ffurfiau bywyd fel ei gilydd ar lefel folecwlar. Perthyn i'r bywyd symlaf a'r mwyaf cymhleth yr un patrymau ar y lefel honno. Y mae'r holl ffurfiau yn gwahaniaethu yn nifer yr elfennau yng nghyfansoddiad gwreiddiol y genyn- nau ar y cromosomau. Bellach, rhaid derbyn damcaniaethau'r biolegwyr a'r genetegwyr ynglyn ag esblygiad bywyd. Wedi'r cyfan, y mae tystiolaeth y neo-Ddarwiniaid yn gryf iawn erbyn heddiw. Nid esblygiad y creadur dynol fel y cyfryw sy'n cael y sylw pennaf bellach ond, yn hytrach, darganfod ym mha ffyrdd y mae ei esblygiad ef yn gwahaniaethu oddi wrth esblygiad pob math arall ar fywyd. Y mae gwers bwysig i'w dysgu yn y llaith hon, y ffaith fod dyn yn ym- wybodol o'i esblygiad arbennig ei hun, a bod ganddo'r gallu i drafod a cheisio deall a datrys yr hyn ydyw mewn gwirionedd. Rhaid cofio hefyd fod hanes cofnodol dyn yn bwrw yn ôl i'r cyfnod pan ddatblygodd dyn y gallu i roddi ar gof a chadw arwyddion yn portreadu ei hynt a'i helynt. Ond y mae'r cyfnod hwn yn hanes y ddynoliaeth yn rhyfeddol o fyr, ac efallai wedi ei bwysleisio'n ormodol o'i gymharu â chyfnod ei holl esblygiad. Ymddengys fod astudiaethau ym myd cyfansoddiadau atomaidd a molecwlar bodau byw wedi cymell biolegwyr i ddamcaniaethu ynglyn ag esblygiad o'r dechrau cychwyn. Yn awr, a chaniatáu fod y ffin rhwng bodau byw a phethau marw yn anodd iawn i'w dirnad ar adegau, gellir amseru'n weddol sicr bellach y cyfnodau yr ydym yn eu D. WYNN PARRY trafod (gweler Pennod 5). Y mae'r cread yn llawer iawn hyn nag ydyw bywyd ac y mae bywyd yn llawer iawn hyn nag ydyw dyn. Ffurfiwyd y Ddaear oddeutu pedair mil a saith gant o filiynau o flynyddoedd yn ôl. Ymddangosodd bywyd oddeutu tair mil a dau gant o filiynau o flynyddoedd yn ôl, ond nid oes ond rhyw dair miliwn o flynyddoedd, fwy neu lai, ers pan ymddangosodd y creadur dynol. Canlyniad hyn i gyd ydyw fod astudiaethau ynglyn ag esblygiad yn hanfodol bwysig i ddeall gwir natur y creadur dynol-y creadur hwnnw a ddatblygodd mewn ffordd wahanol i'r ddwy filiwn a mwy o rywogaethau eraill ar y Ddaear. Nodir rhai o'i nodweddion pwysicaf yn frysiog wrth fynd heibio. Y mae dyn yn gwneud celfi ac offer o bob math at ei bwrpas ei hun, a, mwy na hynny, yn creu offer peiriannol i wneud celfi. Y mae dyn yn defnyddio iaith gaboledig, gan ffurfio brawddegau a symbolau. Gall dyn resymu a choleddu syniadau haniaethol. Y mae dyn yn greadur hanesyddol a chymdeithasol-gyda diwylliant a thraddodiad yn chwarae rhan bwysig yn ei esblygiad. Perthyn i ddyn agweddau moesol ac esthetig-gall wahan- iaethu rhwng da a drwg. Daeth dyn yn ymwybodol o'r sanctaidd, gall grefydda a sychedu am y tragwyddol ac awchu am y goruwchnaturiol. Yn awr, os esblygodd dyn oddi wrth y creadur- iaid is-ddynol, sut y daeth o i feddu'r holl nodweddion hyn? Daw teimladau cryf ac emos- iynol i'r wyneb wrth i'r genetegwyr drafod dyn fel rhywogaeth fiolegol yn hytrach nag fel canlyniad creadigaeth arbennig. Rhaid edmygu'r credinwyr hynny a gred yn yr hyn a elwir yn aml yn ddogma ffwndamentalaidd, ond bellach y mae pobl o'r fath yn dueddol, a dweud y lleiaf, i droi clust fyddar i astudiaethau biolegol ddiweddar. Ond os rhywog- aeth fiolegol ydyw dyn, ac os y derbynnir y ddamcaniaeth fod y creadur dynol wedi datblygu oddi wrth greaduriaid nad oeddynt yn ddynol i'r graddau y mae dyn bellach yn ddynol, yna rhaid derbyn y gred fod sylfeini biolegol cryf a phendant i'r hyn ydyw dyn yn y gwraidd. Y mae'r holl beirianwaith genetegol sy'n gysyllt- iedig â throsglwyddo priodoleddau etifeddol o rieni i epil yn rhyfeddol o gyson ac unffurf. Erys deddfau Mendel yr un mor berthnasol wrth drafod dyn ag wrth drafod unrhyw drychfilyn neu blanhigyn. A chofier hefyd fod tebygrwydd y peirianwaith ar