Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

mabolgampau (y stadium a'r gymnasium), ond yn naturiol defnyddid y mwyafrif ar gyfer cartrefi'r trigolion. Ceir nifer da o enghreifftiau o gynlluniau rheolaidd ymhlith dinasoedd Sicilia, deheudir yr Eidal, ac Asia (Ffig. 402), ac fe ddiwygiwyd rhai o hen ddinasoedd Groeg ei hunan yn yr un modd, yn enwedig pan ehangid neu yr atgyweirid hwy. Gwyr pawb fod Groeg yn y cyfnod clasurol, oes ei gogoniant, yn frith o ddinas-wladwriaethau cym- harol fach, ac mae golwg ar fap Groeg yn awgrymu pam. Gwlad ydyw sydd wedi ei hamgylchynu a'i rhannu gan gulforoedd a mynyddoedd, yn rhan- diroedd niferus ond bychain eu maint, tameidiau o wastatir rhwng môr a mynydd, a hefyd yn llu o ynysoedd mân. Dyna wlad yr oedd natur wedi ei ffurfio lle y gallai dinasoedd ffynnu fel unedau annibynnol; dyna lwyfan addas i wareiddiad y ddinas-lywodraeth. Yr oedd pob dinas o'r iawn ry yn fyd bychan ynddo'i hun,bychan ei faintioli efalh i ond egnïol a rhydd o ran ansawdd. Gellid datblyga cyfundrefnau a thraddodiadau pur wahanol o un lie i'r llall, ac yr oedd yr unigolyn-neu o leiaf y dinesydd rhydd, neu yn sicr y gwr os nad y wraig-- yn berson o bwys mewn cymdeithas glòs, ond nid yn ormodol felly; cymdeithas gynnes ond nid un rhy gul. Amod ffyniant y ddinas-lywodraeth yn ôl Aristotlys oedd bod pob dinesydd yn adnabod pob dinesydd arall-peth amhosibl i'w gyflawni'n llwyr mewn dinas mor fawr ag Athen efallai, ond nid ymhlith y dinasoedd llai. Gellir terfynu gyda geiriau eraill gan Aristotlys: 'Pwrpas cymdeithasau erailI-pwrpas y pentref- yw bod; yn y ddinas, yn y polis yn unig y gellir, nid bod, ond byw y bywyd llawn.' COLEG PRIFYSGOL CYMRU, ABERYSTWYTH UN O GOLEGAU PRIFYSGOL CYMRU Prifathro: Syr GoRoNWY H. DANIEL, K.C.V.O., C.B., D.PHIL. CYRSIAU GRADD Darperir cyrsiau yng nghyfadrannau'r Celfyddydau, Gwyddoniaeth a Gwyddor Gwlad, y Gyfraith, Cerddoriaeth, ac Astudiaethau Economaidd a Chymdeithasol. Mae'r holl Adrannau Gwyddoniaeth mewn adeiladau modern, digonol eu hoffer a'u celfi. CYRSIAU DIPLOMA Diplomâu mewn Addysg, Gwyddor Gwlad, Ystadegaeth, Ffiseg yr Awyrgylch, Ffiseg Electronig, Mathemateg Bur, Micropalaeontoleg, Palaeograffeg, Cyfraith a Chydberthynas y Gwledydd, Addysg Ddwyieithog, Technoleg Addysg. YMCHWIL Darperir ar gyfer graddau uwch ym mhob pwnc. Yn yr holl adrannau Gwyddoniaeth Bur a Gwyddor Gwlad mae ysgolion ymchwil grymus, a gynhelir gan grantiau o ffynonellau gwladol a phreifat. LL YFRGELLOEDD Yn Llyfrgell y Coleg mae dros 300,000 o gyfrolau rhwymedig, gan gynnwys casgliadau arbenigol a chyfnodolion. Ceir cyfleusterau digymar ar gyfer pob pwnc yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth. YSGOLORIAETHA U Dyfernir nifer fawr o ysgoloriaethau ar ganlyniadau arholiad a gynhelir ym mis Ionawr. Nid yw dal un o'r ysgoloriaethau hyn yn Heihau dim ar y grant y bo myfyriwr yn ei dderbyn oddi wrth awdurdod addysg Ueol. NEUADDAU PRESWYL Darperir llety gan y Coleg mewn Neuaddau Preswyl traddodiadol neu hunan-ddarpariaeth ar gyfer tua 60 o'r holl fyfyrwyr. Cynigir lle mewn Neuadd Breswyl i holl fyfyrwyr y flwyddyn gyntaf. Mae lle i 260 yn neuadd gymysg Gymraeg Pantycelyn a llety hunan-ddarpariaeth i 62 yn neuadd gymysg Gymraeg John Williams. PROSPECTUS Gellir cael Prospectus y Coleg, Llawlyfr Cymraeg, a gwybodaeth bellach oddi wrth y Cofrestrydd.