Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

13. Datbiygiad Cymdeithas Drefol FY nhestun i yw Datblygiad Cymdeithas Drefol, datblygiad dyn fel aelod o gymdeithas sefydlog, dyn fel cymydog a dinesydd. Mae'r pwnc yn eang, yn wir yn fyd-eang, gan fod trefi a dinasoedd i'w cael ar bob cynfandir, ac yn eang hefyd o ran amser, oherwydd gellid olrhain hanes y datblygiad hwn o gyfnod yr heliwr cyntefig yn yr Oes Gerrig hyd at yr oes bresennol. Ond fe gyfyngir y sylwadau hyn i oesoedd cynnar amser, ac at wledydd y Dwyrain Canol a'r Môr Canoldir, a cheisir ystyried rhai o brif nodweddion y datblygiad hwnnw yno, gan nodi'n fwy manwl rai agweddau ar gymdeithas drefol y Groegiaid. Wrth fyfyrio ar thema'r Creu, nid anaddas fyddai dwyn i gof y Salm gyfarwydd honno, yr wythfed Salm, a nodi sut yr oedd Iddew, ganrifoedd cyn Crist, yn mynegi ei ryfeddod tuag at y Cread a'i le ef ynddo, ei israddoldeb ef o'i gymharu ei hunan a'i Dduw ac a'i arglwyddiaeth ef ar ei amgylchfyd. Arglwydd ein Iôr ni, mor ardderchog yw dy enw ar yr holl ddaear, yr Hwn a osodaist dy ogoniant uwch y nefoedd! O enau plant bychain a rhai yn sugno y peraist nerth, o achos dy elynion, i ostegu y gelyn a'r ymddialydd. Pan edrychwyf ar y nefoedd, gwaith dy fysedd, y lloer a'r sêr, y rhai a ordeinaist; pa beth yw dyn i Ti i'w gofio, a mab dyn i Ti i ymweled ag ef? Canys gwnaethost ef ychydig is na'r angylion, ac a'i coronaist â gogoniant ac â harddwch. Gwnaethost iddo arglwyddiaethu ar weithred- oedd dy ddwylaw; gosodaist pob peth dan ei draed ef, defaid ac ychen oll, ac anifeiliaid y maes hefyd, ehediaid y nefoedd a physgod y mor, ac y sydd yn tramwyo llwybrau y moroedd. Arglwydd ein Iôr, mor ardderchog yw dy enw ar yr holl ddaear. Pa gefndir y mae'r Salm yn ei awgrymu ? Cefndir y crwydryn (‘O Dad, cofia'r Arab a gwsg dan y lloer'), cefndir yr heliwr, y bugail, y gwladwr, yr amaethwr; nid oes dim yn y Salm sy'n awgrymu cefndir y dinesydd. Ond cymharer y gerdd honno yn un o ddramâu'r Groegwr Sophocles, cerdd y côr yn yr Antigone, sy'n pwysleisio trueni ac unigrwydd yr unigolyn pan â yn erbyn deddf ei gymdeithas a barn ei frenin: Llawer rhyfeddod a welwyd, nid dim mor rhyfedd â dyn. Hwn sydd yn croesi'r cefnforoedd dan sgwrs y corwyntoedd a'u gwyn. A'r hynaf o'r duwiau, y ddaear annifiin anfarwol erioed;- hwn gyda'i feirch sy'n ei dofi ar rawd y tymhorau i'w hoed. JOHN ELLIS JONES Holl adar ysgafnfryd y nefoedd a llwythau bwystfilod y byd, a theulu y llaith ddyfnderoedd,- â'u rwydau fe'u magla i gyd. A'i grefft fe ddeil y gwylltfilod o'r coed ac ar lethrau y bryn. Ar y meirch a theirw'r mynydd-dir mae iau ei gaethiwed yn dynn. Iaith lafar a ddysgodd a meddwl a throeon llywodraeth a threfn. Rhag saethau y curlaw a'r rhewynt â'i grefft gwnaeth glydwch i'w gefn. Rhag heintiau fe ganfu rwymedi, gall goncro pob helynt a loes, ni fethodd ei ddoniau ond unwaith,- dihangfa rhag angau nid oes. Cryfach na ffansi'r un breuddwyd yw'r synnwyr crefftwrus a'i dwg heddiw i lwybrau cyfiawnder, yfory i faglau y drwg. Mor gadarn ddi-ysgog yw'r seiliau dan ddinas y cyfiawn ei reddf, mor druan ddi-ddinas yw'r adyn a bechodd yn erbyn y ddeddf!* Dyna fynegi unwaith eto ryfeddod at y Cread ac at feistrolaeth dyn ar ei amgylchfyd, ond y tro hwn gyda hunan-hyder y dinesydd o Roegwr, aelod o gymdeithas glòs drefol, aelod o ddinas-lywodraeth. Rhoddir pwyslais garw yn y bennill olaf ar y ddinas: mae'r cyfiawn yn hypsipolis, ond apolis y troseddwr. I Roegwr y cyfnod clasurol y polis, y ddinas, oedd cefndir hanfodol y bywyd llawn, yr unig Ie i ddyn ddod i'w lawn dwf. Gellid olrhain camau cyntaf y datblygiad hwn mor bell yn ôl ag Oes y Cerrig, 0 leiaf i'r cyfnod olaf ohoni, y cyfnod Neolithig, pan oedd dynion wedi meistroli'r grefft o ffurfio celfi cain o gerrig, gan nid yn unig eu naddu i ffurfiau addas, ond hefyd eu caboli'n llyfn. Yn y cyfnod Neolithig-a chyfnod maith iawn ydoedd, rhaid cofio-digwyddodd un o'r prif chwyldroadau yn hanes dyn, sef y chwyl- droad amaethyddol. O fod yn heliwr, yn crwydro fel aelod o fintai fechan o fan i fan yn chwilio am ysglyfaeth, yn rhwydo anifeiliaid, yn pysgota, ac yn casglu ffrwythau gwyllt y ddaear, datblygodd dyn i fod yn hunan-gynhaliol trwy ddysgu sut i Dyfynwyd o gyfieithiad W. J. Gruffydd trwy ganiatad Gwasg Prifysgol Cymru.