Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

12. Y Chwyldro Amaethyddol Rhagymadrodd Nid gormodiaith ydyw datgan bod meistroli crefft amaethu, y grefft a roddodd i ddyn y gallu i gyn- llunio a rheoli holl amodau ac adnoddau cynhyrchu bwyd, yn un o'r camau pwysicaf a'r mwyaf tynged- fennol a gymerodd dyn erioed. Y cam hwn, yn anad dim, a'i galluogodd i ddwyn gwell meistrolaeth ar ei amgylchfyd gan arwain yn y diwedd at dwf a chwyddiant poblogaeth. Dyma'r cam hefyd a hwylusodd ddatblygiad cymdeithas bentrefol sef- ydlog, ac a osododd sylfaen economaidd gadarn i greu a chynnal gwareiddiad. Nid rhyfedd felly fod Gordon Childe wedi defnyddio'r term 'Y Chwyldro Amaethyddol' i ddisgrifio oblygiadau y prosesau syml, ond rhyfeddol, o hau a medi cnydau ac o ddofi anifeiliaid. Y prosesau hyn a newidiodd gym- deithas grwydrol yr heliwr a'r casglwr cyntefig yn gymdeithas sefydlog yr amaethwr. Gellir honni, bod effaith y 'chwyldro' hwn ar y byd cyntefig yr un mor bell-gyrhaeddol â dylanwad y Chwyldro Diwyd- iannol ar Ewrop (gan gynnwys Prydain) yn y ddeunawfed a'r bedwaredd ganrif ar bymtheg o oed Crist. Yn y bennod hon fe geisir ymdrin â rhai o'r ffactorau cymdeithasol, economaidd ac amgylch- fydol pwysicaf a arweiniodd at sefydlu trefn amaethyddol o fyw mewn rhannau arbennig o'r byd yn ystod cyfnod cymharol fyr o amser, gan ddechrau yn niwedd yr Epoc Bleistosen tua 12,000 o flynyddoedd yn ô1. Rhai damcaniaethau Bu damcaniaethu helaeth ynghylch sut y dech- reuwyd amaethu yn y lle cyntaf, ac yn gyffredinol gellir eu rhannu'n ddau brif ddosbarth. Dadleuodd deiliaid y dosbarth cyntaf mai mewn ymateb i ryw ysgytwad naturiol sydyn, megis cyfnewidiad syfr- danol yn yr hinsawdd, y gorfodwyd dyn i newid ei ffordd o fyw ac ymgymryd â chynhyrchu ei fwyd ei hun. Mewn gwrthgyferbyniad i'r syniad o sydyn- rwydd yn y ddamcaniaeth uchod, credai eraill mai proses hir o gyfnewid ac ymaddasu cymdeithasol naturiol oedd i gyfrif am ddechreuad amaethydd- iaeth, ac o ganlyniad y dylid olrhain y datblygiad yn ôl i gymdeithasau mwy cyntefig, megis rhai y casglwyr a'r helwyr. Gordon Childe biau un o'r damcaniaethau pwys- icaf yn y dosbarth cyntaf, sef damcaniaeth y JOHN Ll. W. WILLIAMS ddyfrle (oasis). Dadleuodd ef fod enciliad y rhew- lifogydd yng Ngogledd Ewrop ar derfyn y Pleistosen wedi arwain i gyfnewidiad syfrdanol yn hinsawdd y Dwyrain Canol. Priodolai ef y newid i'r ffaith fod cylchoedd gwynt y byd wedi ail sefydlu eu hunain yn eu safle presennol, yn dilyn eu gwthio i'r de gan awyr oer oedd yn gorffwys yn dorllwyth dros rhewlifogydd eang Gogledd Ewrop yn ystod y Pleistosen. O ganlyniad i'r newid, lledaenodd hinsawdd sych o fath y Môr Canoldir drwy'r Dwyrain Canol, gan greu yno amgylchfyd pur wahanol i'r hyn fodolai yno gynt yn y Pleistosen dan amodau hinsawdd dymherus a glawog. Traws- ffurfiwyd ardaloedd ir a dyfriog, oedd gynt yn cynnal llysdyfiant toreithiog o weiriau a choedwig- oedd tymherus, yn anialdir cras. Dan amodau o'r fath gorfodwyd cymdeithasau gwasgaredig o gasgl- wyr a helwyr i ymgartrefu mewn ardaloedd cyfyngedig ond mwy toreithiog, megis yn nyffryn- noedd prif afonydd y Dwyrain Canol neu mewn dyfrleoedd mwy dethol. Yno fe ddadleuid, fe orfodwyd dyn i ymddiddori yn yr anifeiliaid gwylltion a'r planhigion o'i amgylch, o'r newydd megis, ac o'r ymwybyddiaeth a'r berthynas agos hon y daethpwyd i werthfawrogi manteision meithrin a chynnal cyflenwad mwy parhaol o fwyd. Penllanw datblygiad o'r fath oedd twf gwareiddiadau aruchel megis gwareiddiad yr Aifft yn nyffryn toreithiog y Nîl, lle yr oedd gwaddodion llifogydd tymhorol yr afon ei hun yn adnewyddu ffrwythlonder y tir. Disodlwyd y ddamcaniaeth hon gan syniadau mwy modern, sy'n ystyried y dylid canfod dech- reuad amaethyddiaeth mewn cyfres o addasiadau economaidd a diwylliannol yn hytrach na'i briodoli i elfennau rheidrwydd dan amodau amgylchfyd cyfnewidiol. Yr archaeolegwr Americanaidd Braid- wood oedd y cyntaf i gyflwyno dadleuon o'r fath. Diffiniodd ef gyfres o raddau mewn proses hir o ymaddasu sy'n cychwyn yng nghymdeithas yr heliwr a'r casglwr. Mae pob gradd yn gynnyrch ymateb cynyddol y gymdeithas i wahaniaethau diwylliannol, i ffactorau economaidd, i ymwybydd- iaeth lawn o botensial yr amgylchfyd, ac i ddaw-i dyn i arbenigo fwyfwy fel bod trefn cynhaliaetl cymdeithas yn newid. Gellir priodoli celfi ac arfa nodweddiadol i bob graddfa yn ogystal, a chyd dyfodiad trefn amaethyddol lawn fe welir ynddyn