Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

n o fenywod beichiog di-wyneb, a oedd, mae'n í ebyg, yn dwyn rhyw gysylltiad â chredoau am i îwythlondeb y 'Fam Dduwies', ac yn anunion- gyrchol â pharhad yr anifeiliaid gwylltion yr oedd y gymdeithas mor ddibynnol arnynt am ei llwydd- iant. Dilynwyd yr Aurignasiaid, yn enwedig yng nghanolbarth Ewrop, gan y diwylliant Solutreaidd a^ffynnai rhwng 18,000 a 15,000 c.c. Dibynnai'r gymdeithas hon i raddau helaeth ar hela ceffylau gwylltion, a nodwedd arbennig ar ei diwylliant materol yw'r celfi cain o gallestr a luniwyd ar ffurf deilen. Cyrhaeddir uchafbwynt Hen Oes y Cerrig yn y diwylliant Magdalenaidd rhwng 15,000 a 8,000 c.c. Ymledodd y diwylliant hwn drwy'r Yswisdir, dros ganolbarth Ffrainc hyd at Sbaen yn y de. Y mae arfau a chelfi'r Magdaleniaid yn bwrpasol ac yn fuddiol, ond prif ragoriaeth eu diwylliant yw eu celfyddyd gain. Hyd heddiw mae'r anifeiliaid a baentiwyd ganddynt ar furiau'r ogof- eydd ac a gerfiwyd ganddynt mewn asgwrn, rhaidd ac ifori yn destun rhyfeddod. Er mai yng nghanol- barth Ewrop ac yn arbennig yn ne-orllewin Ffrainc y daethpwyd o hyd i brif ragoriaethau Hen Oes y Cerrig, eto ceir digon o dystiolaeth fod cym- deithasau tebyg wedi ymledu i'r de ac i'r gogledd ac hyd yn oed i ogofeydd yn Swydd Derby ym Mhrydain. COLEG PRIFYSGOL ABERTAWE UN O GOLEGAU PRIFYSGOL CYMRU Prifathro; R. W. STEEL, B.SC., M.A., F.R.G.S. Darperir y cyrsiau canlynol i fyfyrwyr gwyddonol: (a) Graddau Prifysgol Cymru mewn Gwyddoniaeth Bur a Gwyddoniaeth Gymwysedig. (b) Diploma'r Coleg mewn Ffiseg Fathemategol. (c) Diploma'r Coleg mewn Cartograffi. (ch) Diploma'r Coleg mewn Peirianneg Gemegol. Mae'r cyrsiau yng Nghyfadran Gwyddoniaeth Bur yn cynnwys Athroniaeth, Seicoleg, Economeg, Mathemateg Bur, Ystadegau, Mathemateg Gymwysedig, Ffiseg, Cemeg, Daeareg, Daearyddiaeth, Botaneg, Swoleg, Geneteg, Microbioleg, Eigioneg a Bioleg Forol. Mae'r cyrsiau yng Nghyfadran Gwyddoniaeth Gymwysedig yn cynnwys Peirianneg Sifil,Trydanol, Mecanyddol, Technoleg Cyfrifyddol a Diwydiannol, Peirianneg Gemegol, a Meteleg. Ceir Neuaddau Preswyl ar gyfer dynion a merched. Dyfernir Ysgoloriaethau Derbyn bob blwyddyn ar sail canlyniadau arholiadau lefel 'A'. Gellir cael manylion pellach oddi wrth y Cofrestrydd. Felly dyma ni, Homo sapiens sapiens wedi cyrraedd pen ein taith. O'r dechreuadau bychain, ansicr yn y Pleistosen cynnar yn Affrica esblygodd dyn mewn ffordd hollol arbennig ac yna fe symud- odd oddi yno ynghyd â'i fywyd cymdeithasol, ei lefaru, ei ddiwylliant a'i gorff nodweddiadol ac, erbyn 30,000 o flynyddoedd yn ôl, fe'i gwelir ar ffurf Homo sapiens sapiens yn bodoli yn ei holl ogoniant a'i ffaeleddau. LLYFRYDDIAETH Brace, J. a Metress, J. (1973). Man in Evolutionarj Perspective. Wiley. Day, M. (1965). Guide to Fossil Man. Cassell. Monod, J. (1972). Chance and Necessity. Collins. Napier, J. (1971). The Roots of Mankind: the Story of Man and his Ancestors. Allen and Unwin. Oakley, K. (1966). Frameworks for Dating Fossil Man. Weidenfeld and Nicolson. Pilbeam, D. (1970). The Evolution of Man. Thames and Hudson. Sunderland, E. (1973). Elements of Human and Social Geography: Some Anthropological Perspectives. Pergamon. Weiner, J. S. (1971). Man's Natural History. Weidenfeld and Nicolson. Young, J. Z. (1971). An Introduction to the Study of Man. Clarendon.