Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

10. Esblygiad Dyn ac Arolwg ar rai o'r Dynion Cynnar MAE'N ffaith ddiddorol mai yn ardaloedd y trofan- nau y trigai'r holl ddynion, neu Hominidae cynnar, y gwyddom amdanynt, ac mai yn y coedwigoedd trofannol y triga ymron bob un o'r Primidiaid, oddieithr dyn, hyd heddiw. Serch hynny, gwyddom mai dringo i lawr o'r coed a wnaeth rhai o'n hynafiaid pell ni, i fyw ar y ddaear a gorfod wynebu yno yr holl beryglon ac anawsterau newydd na fu raid iddynt erioed ymgodymu â hwy yn uchel- fannau'r coedwigoedd. Gellir awgrymu fod cyf- newidiadau yn yr amgylchfyd wedi cyfrannu rhywfaint at y broses hon, yn arbennig felly ar gyfandir Affrica. Yno drwy gydol y Pleistosen, ceid cyfnodau gwlyb a sych yn dilyn ar yn ail, ac yn cyfateb i'r cyfnodau rhewlif a rhyng-rewlif yn Ewrop. Yn ystod y cyfnodau sychion, lleihaodd maint y coedwigoedd trofannol yn y cyfandir gan achosi i lawer o'r Primidiaid golli eu trigfannau coediog. Methodd rhai ag addasu i'r cyfnewidiad, a diflannu am byth, ac arhosodd eraill, megis y Gorila a'r Chimpanzee yn y coedwigoedd hyd heddiw. Gadawodd ein hynafiaid ni ddiogelwch y fforestydd gan symud i amgylchoedd gweirgloddiau agored y Safanna Ile'r oedd coed yn brin, ac yno eu haddasu eu hunain i hinsawdd drofannol. Yno, heb os nac onibai, bu ymron ein holl hynafiaid ymhlith yr Hominidae cynnar yn byw am filiynau o flynydd- oedd, gan lwyddo i orchfygu holl beryglon ac anawsterau eu hamgylchfyd newydd. Erbyn dech- rau'r Pleistosen canol, tua phum can mil 0 flynyddoedd yn ôl, yr oeddent yn barod i ymfudo o'u cartrefleoedd cynnar yn Affrica i ardaloedd eraill nad oedd dyn erioed wedi byw ynddynt cyn hynny. Dynion cyntefig yn y Pleistosen cynnar Hyd yn gymharol ddiweddar, credid i ddyn ddatblygu'n gyntaf oll yng nghyfandir Asia, ac mai oddi yno yr ymfudodd i'r cyfandiroedd eraill. Yn Asia daethpwyd o hyd i weddillion dynion cynnar, yn arbennig yn Ynys Java-rhai a fu fyw yno ryw bum can mil o flynyddoedd yn ôl. Yno yr aeth Dubois, gwyddonydd ieuanc o'r Iseldiroedd, yn ystod naw-degau'r ganrif ddiwethaf, ac yn Nhrinil, yng nghanol yr ynys, darganfu esgyrn yn perthyn i fath o ddyn a alwyd ganddo yn Pithecanthropus ERIC SUNDERLAND erectus ac a elwir heddiw yn Homo erectus javanensis. Yn ystod y ganrif hon, darganfuwyd llaweroedd o esgyrn dynion cynnar yn Affrica ac erbyn heddiw sylweddolir fod y rhain, ar y cyfan, yn llawer iawn hyn na'r esgyrn cyntaf a ddaeth i law yn Asia. Trwy ymdrechion nifer o wyddonwyr enwog megis Dart, Broom, Robinson a Tobias o ddau-ddegau'r ganrif hon ymlaen, gwyddom yn awr am rannau o ysgerbydau cannoedd o unigolion yn neheudir Affrica. Rhoddwyd gwahanol enwau i'r gweddillion hyn, megis Australopithecus africanus, Australopithecus prometheus, Paranthropus robustus, Paranthropus crassidens a Plesianthropus transvaal- ensis. Eto y maent oll yn debyg iawn i'w gilydd, ac erbyn hyn gosodir hwynt i gyd mewn dau ddos- barth mawr sef Australopithecus africanus a fwytai lawer math o lysiau yn ogystal â chigoedd (Ffigur 1), ac Australopithecus robustus a fwytai lysiau a phlanhigion yn unig (Ffigur 2). Dyma'r creaduriaid cyntaf i ddod i'r golwg yn Affrica y gellir rhoddi'r enw 'dynion' arnynt. Hynny yw, fe'u gosodir ymhlith yr Hominidae, sef teulu dyn. Gellir dyddio'r ysgerbydau hyn i tua dechrau cyfnod y Pleistosen, er mai dyddiad cymharol yw hwn. Cyn hynny bu Kenyapithecus wickeri fyw yn nwyrain Affrica a Ramapithecus punjabicus yn yr India, y ddeufath yng nghyfnod y Miosen ac ymlaen i'r Pliosen cynnar, ond ni ellir i sicrwydd eu cynnwys ymysg yr Hominidae. Problem anodd yw penderfynu pa nodweddion sy'n angenrheidiol cyn y gallwn gynnwys y creadur- iaid hyn, neu eraill, ymysg yr Hominidae. Neu, a'i roi mewn ffordd arall, pa bethau sy'n angenrheidiol i nodweddu'r Hominidae, hynny yw, dynion? Y peth cyntaf, ac mewn llawer ystyr y peth pwys- icaf, yw'r modd y mae'r creadur yn sefyll ac yn symud-ar ei ddeudroed ynteu ar ei bedwar. Gellir dweud yn bendant fod yr Australopithecinae yn arferol neu'n wastadol yn symud ar eu deudroed. Cesglir hyn oddi wrth ffurf y traed, ffurf yr asgwrn cefn a'r modd y cysylltir yr asgwrn cefn a'r penglog, ffurf y pelfis ac yn y blaen. Y mae ffurf yr esgyrn h) n yn hollol nodweddiadol o'r Hominidae o'u cyr haru â'r Pongidae, hynny yw, teulu'r epa (gwel< r hefyd Ffigur 2, Pennod 8). O ganlyniad i allu r dynion cynnar i sefyll ar eu deudroed, rhydi