Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

9. Esblygiad ac Addasiad Anifeiliaid i'w Hamgylchfyd Mae nodweddion anifail yn dibynnu ar y genynnau sydd yn ei gelloedd, ac fe all cyfnewidiadau yn y rhain achosi cyfnewid yng nghymeriad y bwystfil. Os yw'r fath newid yn golygu mantais i'r anifail yna fe'i cedwir, ond os y golyga fod yr anifail yn llai llwyddiannus nag o'r blaen, yna fe'i collir drwy i'r anifail ddiflannu. Dyma'r hyn a olygir gan y term dewisiad naturiol. Mae yna, felly, ddwy elfen yn y broses o esblygu-un yw geneteg yr anifail a'r llall yw amgylchedd yr anifail. Pa fath o amrywiaethau sydd yn cymhwyso anifail ar gyfer byw yn llwyddiannus yn ei am- gylchfyd? Gellir eu crynhoi fel amrywiaethau anatomegol, amrywiaethau ffisiolegol neu amryw- iaethau mewn ymddygiad, ac yn aml ceir mwy nag un o'r agweddau hyn yn cyd-asio. Bydd y rhain yn cymhwyso'r anifail i fyw yn ei amgylchfyd arben- nig, a rhaid felly bod yn ymwybodol o unrhyw newid yn amgylchfyd ecolegol yr anifail, maes sydd yn cynnwys astudiaeth o bob agwedd ar fywyd ac o ymatebiad yr anifail i amodau byw newydd a gwahanol. Os newid yn araf wna'r amgylchfyd yna mae'n bosibl na fydd raid i'r anifail ond newid yn raddol i gyfateb er mwyn sicrhau llwyddiant yn ei am- gylchfyd newydd. Efallai y bydd newid ychydig ar ei ymddygiad yn ddigon dan yr amgylchiadau. Ar y llaw arall, mae camau mawr esblygiad, megis y cam o adael y dwr er mwyn byw ar y tir wedi golygu cyfnewidiadau sylfaenol, sydd wedi effeithio ar bob agwedd o fywyd anifeiliaid. Rhaid cofio hefyd fod geneteg yn rheoli holl gyfnodau datblygu pob anifail a'i bod yn bosibl i esblygiad ddigwydd yn yr wy, y larfa neu'r pwpa, ac yn arbennig felly os yw'r organeb yn bodoli ar wahân i'w rieni. Yn y cyswllt hwn dadleuwyd fod larfae rhai o'r Infertebrata, ac yn arbennig felly yr Echinodermata, wedi rhoi cychwyn i'r llinell a arweiniodd i'r Fertebrata. Er mai gweithio ar yr unigolyn y mae geneteg, fe welir ei effaith o safbwynt esblygiad ar y boblogaeth yn gyffredinol. Nid yr un yw amodau bywyd ymhob amgylchfyd ac o ganlyniad nid yw problemau byw yr un fath ymhobman. Golyga hyn, felly, fod yna wahanol ffyrdd o gymhwyso anifeiliaid i fyw mewn mannau NEVILLE V. JONES arbennig, a'u bod yn dibynnu ar y broblem bwysicaf a osodir gan bob amgylchfyd yn ei dro. Os yw'r broblem yn un amlwg iawn, yna mae'n debyg y bydd y ffordd o'i goresgyn hefyd yr un mor amlwg. Tueddwn i ddal sylw ar addasiadau anatomegol am eu bod yn rhai mor amlwg ond yn aml fe ddylid cofio fod cyfnewidiadau yn ffisioleg ac ymddygiad yr anifail llawn cyn bwysiced. Gellir egluro'r pwynt drwy ddyfynnu enghreifftiau o anifeiliaid sy'n byw mewn dwr (Ffigurau 1 a 2). I anifeiliaid o'r fath mae'n amlwg fod offer nofio yn gwbl hanfodol, a datblygwyd pob math o rwyfau at y gwaith megis cilia, parapodia, coesau, ffliperau, a rhodlau megis cynffonnau pysgod a morfilod. Mae'r ffaith fod cymaint o wahanol fathau o offer wedi eu datblygu mewn gwahanol fathau o anifeiliaid yn golygu fod techneg nofio wedi esblygu fwy nag unwaith. Ceir sawl enghraifft o rywogaethau sy'n gallu nofio'n gampus ond yn methu byw mewn rhai dyfroedd am fod problemau osmosis yn ormod iddynt. Yr esiampl fwyaf amlwg yw'r rhywog- aethau sy'n byw mewn aberoedd afonydd lle mae'r dwr yn gyfnewidiol rhwng dwr croyw a dwr hallt. Yma mae'n rhaid wrth arbenigrwydd ffisiolegol yn yr anifail i ganiatáu llwyddiant. Mae symudiad y dwr mewn afon hefyd yn creu problemau dyrys i'r anifeiliaid sy'n byw yn y dwr. Tuedd y llif yw cludo'r anifeiliaid i lawr yr afon yn gyson. Mae'n bosibl gwrthsefyll hyn drwy ddatblygu addasiad anatomegol megis bachau neu sugnwr i afael yn y gwaelod (Ffigur 1). Golyga hyn, fodd bynnag, fod yn rhaid i'r rhywogaethau gyda datblygiad o'r fath fod mewn cysylltiad cyson â'r gwaelod ond nid yw hyn yn caniatáu i bob math o anifail wneud ei fywoliaeth yn yr un dull. Darganfyddwn, er enghraifft, fod llawer o bryfetach a crwstacea wedi datblygu patrymau ymddwyn sydd yn eu galluogi i oresgyn yr un broblem. Symuda rhai ohonynt yn gyson i fyny'r afon er mwyn sicrhau fod digon yno i ail sefydlu'r boblogaeth, tra bod rhai pryfetach yn gofalu fod y benywod yn ehedeg i fyny'r afon ddodwy eu wyau, neu, fel yn achos y crwstaceí? Gammarus pulex (perdysen dwr croyw), yn symud fyny'r afon yn amlach pan yn cario wyau nag ai adegau eraill. Trwy ddefnyddio dulliau o'r fatl