Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

J. Esblygiad-Creu Amrywiaeth ymysg Creaduriaid a Phlanhigion DECHREUWN yr ymdriniaeth hon o sut y mae organebau yn esblygu â hanes y gwningen a'i pherthynas â firws sy'n achosi y clwy ar gwningod a elwir myxomatosis. Darganfuwyd y clwy hwn, na wyddai fawr neb amdano cyn 1950, yn Uruguay yn 1896 gan Dr. Sanarelli, a ddisgrifiodd glwy firws marwol a geid fel canlyniad i ddatblygiad llawer o chwydd- iadau meddal (myxomas), clwy a laddodd yn gyflym ei gytref cwningod Ewropeaidd dof. Er fod y firws yn achosi marwolaeth mewn cwningod dof, darganfuwyd mai'r un oedd y firws myxoma â'r un a gludid yn gyffredin gan gwningod brodorol De America, ac yn eu mysg hwy ni achosai ond ychydig o lympiau bychain o dan groen cwningod heintiedig. Efallai na fuasem wedi clywed dim mwy am y clwy onibai am ymdrechion rhai gwyddonwyr yn Awstralia a sylweddolodd ei botensial fel dull bywydegol o reoli y niferoedd helaeth eithriadol o gwningod Ewropeaidd a geid yn y wlad honno. Roedd y creaduriaid hyn wedi cael eu dwyn i mewn i'r wlad, ac wedi difetha llawer o dir pori defaid yn Ne Awstralia. Yn 1950 dygwyd y clwy i fysg cwningod gwyllt Awstralia. Ymledodd yn araf i ddechrau, yna yn gyflymach o lawer fel y cynyddai'r siawns iddo gael ei drosglwyddo gan y mosgito a frathai'r gwningen. Cyn diwedd 1953, yr oedd pedair o bob pump o gwningod De-orllewin Awstralia, miliynau lawer ohonynt, yn farw. Fodd- bynnag, yr hyn a ddigwyddodd i'r cwningod a'u íìrws yn yr ychydig flynyddoedd nesaf yw'r rhan wirioneddol ddiddorol o'r hanes i ni. Felly mae'n digwydd, nid yw poblogaethau cwningod ddim mwy unffurf na phoblogaethau dynol, ac yn union fel y mae rhai pobl yn gallu gwrthsefyll ymosodiad gan barasit ffyrnig yn well nag eraill, felly yr oedd rhai cwningod yn fwy ^wrthiannol nag eraill, a llwyddasant i oroesi'r laint. Yr oedd epil y cwningod a oroesodd yn gallu iwrthsefyll y clwy yn well hefyd, felly, er difetha'r )oblogaeth hydeiml, cymerwyd ei Ie mewn rhai trdaloedd gan un arall a allai oddef presenoldeb ìrws y myxoma. Mwy annisgwyl fyth oedd y larganfyddiad fod amrywiaeth ym mhoblogaeth y DAVID S. SHAW firws hefyd. Yr oedd y firws gwreiddiol o dras a laddai 99 y cant o'r cwningod hydeiml, ond cyn bo hir ymddangosodd firws llai ffyrnig, un na laddai ond 80 y cant. Yn rhyfedd ddigon fe amlhai'r math hwn yn gyflymach, gadawai fwy o epil ac, wrth gwrs, fe gymerodd le y math ffyrnig. Ymddengys mai'r rheswm bod y ffurf larieiddach ar y firws yn fwy llwyddiannus na'r ffurf arall oedd oherwydd na leddid cwningod wedi'u heintio gan y ffurf lariaidd, neu fe gymerent fwy o amser i farw. Felly yr oedd mwy o siawns i firws o'r math hwnnw gael ei sugno i fyny gan fosgito a'i drosglwyddo i dderbynnydd newydd na phe buasai'r gwningen wedi marw'n gyflym cyn cael ei brathu gan fosgito. Canlyniad y newidiadau hyn oedd lleddfu effaith y clwy er budd i'r gwningen a'r firws gan sicrhau parhad y naill a'r 11a11, er i hwnnw ar y dechrau fod yn y fantol. Yn yr enghraifft hon, y mae addasiad y firws a'i dderbynnydd yn dal i fynd yn ei flaen. Y mae'r manylion am y modd y lledodd y clwy i Ffrainc ac yna i'r Ynysoedd Prydeinig yn ddeunydd darllen diddorol (Andrewes 1967). Yr wyf wedi dewis yr enghraifft hon o frwydr y cwningod a'u parasitau firwsaidd i oroesi am ei bod yn dangos mewn dull trawiadol fod newid esblygol yn digwydd heddiw, newid y gallwn ei weld wrth sylwi ar boblogaethau o organebau byw. Mae'n debyg y dengys archwiliad manwl o unrhyw boblogaeth o organebau, dros nifer helaeth o genedlaethau, fod newid esblygol yn digwydd, hynny yw, y boblogaeth yn ymaddasu'n barhaus i'w amgylchfyd. Mae'n haws sylwi ar hyn pan fo newid drastig yn digwydd yn yr amgylchfyd, a lle mae'r organebau yn y boblogaeth yn atgynhyrchu'n gyflym. Felly gyda'r digwyddiad drastig o ddwyn firws marwol i mewn i amgylchfyd y gwningen, anifail sy'n amlhau'n gyflym, fe gaed newid esblygol mewn ychydig flynyddoedd fel canlyniad i addasiad y gwningen ar gyfer y sefyllfa newydd hon. Ond y mae bacteria yn epilio'n gyflymach hyd yn oed na chwningod, ac yn caniatáu inni sylwi ar esblygiad dros gyfnod o oriau yn hytrach na blynyddoedd. Cwyn gyffredin ymysg meddygon y dyddiau hyn yw fod rhai antibiotigion a oedd yn effeithiol iawn yn dileu