Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

jechreuwyd ystyried cyfandiroedd symudol o (Jifrif-a hynny ar ôl i dystiolaeth ddiamwys ì aleomagnetig ddod i'r golwg. Ond y mae trigain üilynedd ymron ers pan gyhoeddodd Alfred Wegener ei syniadau. Bu gwrthwynebiad cryf am tua deugain mlynedd cyn i'r ddamcaniaeth ennill ei phlwyf, ac erbyn hyn y mae'n anhepgor fel fframwaith syniadol i'r daearegwyr. Bu cymaint o chwyldro yng ngwyddorau'r Ddaear â'r chwyldro Darwinaidd mewn bioleg yn y ganrif ddiwethaf. Yn nyddiau cynnar y chwyldro, dirmyg a gai pleidwyr damcaniaeth y cyfandiroedd symudol, a'u gyrfa academaidd mewn perygl o'r herwydd. Ond erbyn hyn y mae'r ddamcaniaeth wedi ei derbyn, er fod yna ambell un sy'n glynnu'n ystyfnig wrth yr hen syniadau. Yn awr â rhai o bleidwyr yr oruchwyl- iaeth newydd mor bell â dweud na ddylid gwastraffu rhagor o ofod a chyhoeddi gwaith yr adweithwyr yn y cyfnodolion gwyddonol! Modd bynnag, gyda'r ddamcaniaeth newydd y mae'n bosibl datrys llawer o broblemau dyrys, ateb llawer o gwestiynau a fu'n poeni cenedlaethau o wyddon- wyr, ac yn wir ateb cwestiynau am y Ddaear nad COLEG Y BRIFYSGOL, CAERDYDD UN O GOLEGAU PRIFYSGOL CYMRU Prifathro: C. W. L. BEVAN, C.B.E., D.SC. Y mae'r rhan fwyaf o adeiladau'r Coleg ym Mharc Cathays. Darperir cyrsiau ar gyfer graddau Prifysgol Cymru (B.A., B.Sc., B.Sc.Econ., LL.B., B.Mus.). Gellir astudio'r pynciau a ganlyn: YNG NGHYFADRAN Y CELFYDDYDAU Cymraeg, Saesneg, Lladin, Groeg, Ffrangeg, Almaeneg, Eidaleg, Sbaeneg, Portwgaleg, Hebraeg, Athroniaeth, Efrydiau Beiblaidd, Hanes, Hanes Cymru, Cerddoriaeth, Archaeoleg, Addysg, Mathemateg, Seicoleg, Economeg, Cyfraith. Gellir cymryd gradd B.Mus. yn yr Adran Gerddoriaeth. YNG NGHYFADRAN EFRYDIAU ECONOMAIDD A CHYMDEITHASOL Economeg, Cyfraith, Athroniaeth, Cyfrifyddiaeth, Cysylltiadau Diwydiannol, Seicoleg, Gweinyddiad Cymdeithasol, Cyfarwyddo a Rheoli Gweithwyr, Gwyddor Gymdeithasol, Gwleidyddiaeth, a Chymdeithaseg. Gellir cymryd gradd LL.B. drwy Ysgol y Gyfraith Caerdydd. YNG NGHYFADRANNAU GWYDDONIAETH A GWYDDONIAETH GYMWYSEDIG Mathemateg Bur, Mathemateg Gymwysedig, Ystadegau, Ffiseg, Mathemateg Gyfrifyddol, Cemeg, Llysieueg, Sŵoleg Microbioleg, Daeareg, Electroneg, Anatomeg, Ffisioleg, Biocemeg, Meteleg, Mwyngloddiaeth, Peirianneg Sifil, Peirianneg Fecanyddol, Peirianneg Drydanol ac Electronig, Seicoleg, Archaeoleg, ac Economeg. Y mae gan y Coleg neuaddau preswyl ar gyfer dynion a merched. Ceir hefyd feysydd chwarae, gymnasiwm. ac Undeb Myfyrwyr newydd i'w rannu gyda'r Athrofa. Rhoddir nifer o ysgoloriaethau bob blwyddyn gan y Coleg ar sail canlyniadau'r flwyddyn gyntaf. Adeiladwyd Canolfan Cyfrifiaduron i ddal cyfrifiadur l.C.L. 4-70. Gellir cael manylion pellach oddi wrth y Cofrestrydd. oedd neb yn eu gofyn cyn hyn. Gwyddom lawer rhagor am ddaeargrynfeydd erbyn hyn, ac y mae gobaith y gellir, ryw ddydd, broffwydo pryd y digwyddant ac felly arbed llawer o fywydau. Mae'r wybodaeth ynglyn â phroses creu'r Ddaear yn mynd i ddylanwadu'n fawr ar lwyddiant yr ymchwil am ffynonellau olew, a gwythiennau newydd o'r amryw fwynau sydd mor angenrheidiol i'r byd modern a'i gynnydd materol. Ond credaf mai'r boddhad mwyaf sy'n deillio o'r syniadau newydd yw'r teimlad o ryfeddod a geir wrth fyfyrio ar gymhlethdod proses y creu. Meddylier am y cyfan- diroedd yn symud yn ôl ac ymlaen dros wyneb y Ddaear, yn gwrthdaro, a phob gwrthdrawiad yn creu mynyddoedd newydd, pob symudiad yn creu neu'n dileu môr, a'r symudiadau yn eu tro yn dylanwadu'n fawr ar esblygiad pethau byw. Ofnadwy a rhyfedd y gwnaed y Ddaear, ac yn sicr y rhyfeddod mwyaf yw gallu dyn i greu'r fath syniadau rhyfeddol am y cread. Gorchest yn wir yw'r ddamcaniaeth am hanes y Ddaear, gorchest a bery hyd nes y bydd i genhedlaeth arall feddwl am ddamcaniaeth well.