Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

6. Y Cyfandiroedd Symudol Ac i Heber y ganwyd dau o feibion: enw un oedd Peleg; oherwydd yn ei ddyddiau ef y rhannwyd y ddaear; Genesis 10; 25. CREDAI'R hen dadau, ar sail llyfr Genesis, fod y creu wedi ei gwblhau mewn chwe diwrnod. Felly y gorffenwyd y nefoedd a'r ddaear, a'u holl lu hwynt. Ac ar y seithfed dydd y gorffennodd Duw ei waith, yr hwn a wnaethai efe, Genesis 2; 1 a 2. Byd sefydlog a grewyd, a'r patrwm wedi ei osod am byth gan Dduw. Ond yn nes ymlaen yn Genesis ceir yr adnod a ddyfynnir uwchben y bennod hon, sy'n sôn am newid a ddigwyddodd ar ôl y Dilyw. Yn 1756 dyfalodd y diwinydd Almaenaidd Theodor Lil- ienthal, ar sail yr adnod hon, fod tiroedd y ddaear wedi eu rhannu (h.y. fod y cyfandiroedd wedi eu creu) ar ôl y Dilyw. Credai fod y dehongliad hwn o'r adnod yn debygol am fod glannau'r tiroedd sy'n wynebu ei gilydd ar draws y moroedd yn debyg eu siâp, ac y gallent ffìtio'n gywir pe'u symudid at ei gilydd. Fel un enghraifft soniodd am lannau'r ddau gyfandir deheuol, De America ac Affrica sydd o boptu'r Iwerydd; y maent yn hynod debyg eu siâp. Erbyn dechrau'r ganrif hon yr oedd rhai gwydd- onwyr yn dadlau'n gryf dros y syniad o gyfandiroedd symudol-nid ar sail dehongliadau o'r Beibl, ond er mwyn esbonio rhai ffeithiau ac ateb cwestiynau y gellid eu gofyn ynglŷn â'r Ddaear. Yr enwocaf o'r gwyddonwyr hyn oedd Alfred Wegener, meteorolegydd a symbylwyd i ystyried cyfandiroedd symudol gan broblem hin- sawdd y gorffennol. Sut yr oedd esbonio ar yr un llaw y tywydd poeth a geid yn Ewrop a Gogledd America pan osodwyd yr haenau glo i lawr, ac, ar y llaw arall yr iâ trwchus a orchuddiai Dde Affrica a De America yn yr un cyfnod? Cyhoeddodd lyfr mawr yn 1915, yn rhoi llawer o ddadleuon o blaid y ddamcaniaeth o gyfandiroedd symudol. Ond ni dderbyniwyd y ddamcaniaeth hon gan y mwyafrif o wyddonwyr hyd bum-degau a chwe- degau'r ganrif hon, pryd y cafwyd tystiolaeth newydd, trwy gyfrwng astudiaeth o fagneteg creig- iau, o'r angen am y syniad hwn. Erbyn hyn mae'r ddamcaniaeth yn dderbyniol gan bron bob gwydd- onydd, ac fe'i defnyddir beunydd fel sylfaen neu fframwaith i esbonio llawer o ffeithiau daearyddol, EVAN L. JAMES daearegol a biolegol. Nid casglu ffeithiau er mwyn cael rhagor o dystiolaeth dros y ddamcaniaeth sy'n bwysig bellach, ond defnyddio'r ddamcaniaeth i roi ystyr i'r ffeithiau sydd ar gael yn barod, ac i ofyn cwestiynau newydd am hanes y Ddaear. Mae'r ffeithiau nid yn unig yn ein harwain at y ddamcan- iaeth ond fe'n cyfeirir gan y ddamcaniaeth ei hun at ffeithiau newydd ac esboniadau newydd ohonynt. Mae'r ffeithiau a'r ddamcaniaeth ynghlwm wrth ei gilydd-yn wir rhoddant fodolaeth i'w gilydd. Yn y bennod hon ceisir egluro'r ddamcaniaeth chwyldroadol yma trwy ddilyn dau lwybr. Un ffordd fydd dangos sut mae'r ffeithiau yn ein harwain at y syniad o gyfandiroedd symudol. Y ffordd arall fydd defnyddio'r ddamcaniaeth i ofyn cwestiynau ac i ddarganfod ffeithiau o'r newydd. Dechreuwn drwy ystyried y ffaith gyntaf a drawodd rai pobl fel rhywbeth arwyddocaol y dylid cynnig esboniad arno, sef ffurf y cyfandiroedd. Ffurf y Cyfandiroedd O graffu ar fap o'r byd, hawdd yw gweld mor debyg yw siâp glannau Affrica a De America sy'n wynebu ei gilydd. Nid damweiniol yw hyn, meddai Lilienthal, Wegener ac eraill, ac aethant ati i ffitio mapiau o'r ddau gyfandir wrth ei gilydd a gwneud un cyfandir mawr ohonynt tebyg i'r un oedd yn bod yn wreiddiol cyn i wyneb y Ddaear rwygo ac i'r ddau gyfandir ymwahanu. Gellir symud y mapiau dros wyneb glôb o'r Ddaear nes cael y ffit gorau. Mae'n bosibl defnyddio cyfrifiadur i wneud y gwaith drosom, dim ond rhoi'r gorchmynion priodol iddo. Dyna a wnaeth Syr Edward Bullard a'i gydweithwyr a orchmynodd y cyfrifiadur i ystyried y cyfandiroedd fel darnau anhyblyg, a'u ffitio yn ôl terfynau cyfandiroedd a leolid, nid ar y glannau presennol, ond ar ddyfnder o 1,000 o fetrau o dan y môr o'u cwmpas. Credir fod y terfynau hyn, sydd hanner ffordd rhwng arwyn- ebedd y glannau a gwaelod y cefnfor dwfn, yn fwy priodol na'r glannau eu hunain gan fod rheini'n ddamweiniol braidd, yn dibynnu ar lefel y môr, sy'n dibynnu yn ei dro ar faint o iâ sy'n digwydd bod yn y byd. Dangosir canlyniad ffitio cyfandiroedd De America ac Affrica yn Ffig. 1. Mae'r ffit yn syndod o dda oddigerth mewn rhai mannau megis delta'r Afon Niger yn Affrica (A). Archipelago Abrolhos ger glannau Brasil (B) a rhan