Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Yr Epoc Pliosen Ehangodd llawr Cefnfor yr Iwerydd yn gyson o C-fnen Canol yr Iwerydd at allan gan gludo Ewrasia ac" America ymhellach oddi wrth ei gilydd. Ym Mhrydain, cafwyd ymgodiad a gogwyddiad tirol pellach. Ni fu newid trawiadol yn hinsawdd nac ecoleg Prydain. Yn sicr ddigon roedd yr epa-ddyn yn crwydro Affrica ond diflannodd llawer o'r mamaliaid mawrion. Y Cyfnod Cwateraidd Yr Epoc Pleistosen-Diweddar Mae Cefnen Canol yr Iwerydd yn dal i ymledu ar gyflymder hyd at 2 cm. y flwyddyn, ac mae Prydain yn dal i ogwyddo. Yn ystod epoc y Pleistosen cafwyd cyfnewidiadau rhwng hinsawdd rewlifol a thymherus bob yn ail. Bu o leiaf bedwar prif rhewlifiad yn Ewrop a daeth yr olaf i ben tua 12,000 blwyddyn yn ôl. Dyma'r cyfnod a elwir yn Oes yr Iâ, ac yr ydym yn dal i fyw mewn ysbaid dymherus o'r oes hon heddiw. Bydd i'r rhew ATHROFA GOGLEDD DD CYMRU Prifathro: GLYN O. PHILLIPS, D.SC., PH.D. C.CHEM., F.R.I.C. Cynigir amryw o wahanol gyrsiau amser llawn a rhan amser yn yr ysgolion canlynol: ADDYSG ADEILADAETH ARLWYAETH, POBYDDIAETH AC ECONOMEG CARTREF ASTUDIAETH RHEOLI A BUSNES CELFYDDYDAU CREADIGOL A MYNEGIANNOL Ceir manylion pellach oddi wrth: Cofrestrydd yr Athrofa, Coleg Celstryn, CEI CONNAH, Clwyd. ddychwelyd yn ôl i ogledd-orllewin Ewrop rywbryd yn y dyfodol. Ym Mhrydain a gogledd-orllewin Ewrop adlewyrchodd y planhigion y cyfnewidiadau yn yr hinsawdd a chafwyd mathau Arctig a mathau de Ewropeaidd yn dilyn ei gilydd. Esblygodd dyn modern (Homo sapiens sapiens) yn ystod epoc y Pleistosen. Hanes proses ddaearegol barhaus a ddisgrifiwyd yn y bennod hon, ac yn naturiol nid yw ar ben eto. Dengys Ffigur 5 beth a debygir fydd daearyddiaeth y byd ymhen 50 miliwn mlynedd, hynny yw, os pery symudiadau presennol y platiau tectonig. LLYFRYDDIAETH Condie, K. C. (1976). Plate tectonics and crustal evolution. Pergamon Press Inc., New York. Press, F. a Siever, R. (1974). Earth. Freeman, San Fransisco. Windley, B. F. (gol.) (1976). The early history of the Earth. Wiley, Chichester. MASNACH MATHEMATEG, YSTADEGAETH A CHYFRIFIADURAETH METELEG A THECHNOLEG PEIRIANNEG GWYDDORAU CYMDEITHASOL GWYDDORAU NATURIOL DYNIAETHAU