Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

5. O'r Ddaear Gyntefìg hyd y Presennol: Y Perspectif Daearegol Rhagarweiniad MAE nifer o wahanol brofion yn dangos fod y Ddaear tua 4 6 x 109 o flynyddoedd oed. Fe wynebir yr ymchwilydd sy'n ceisio dirwyn datblyg- iad y Ddaear o'i dechreuad hyd heddiw gan ddwy dasg bwysig. Yn gyntaf, rhaid iddo ddiffinio a disgrifio adeiladwaith gyfoes y Ddaear ynghyd â'i chyfansoddiad a'i thymheredd mewnol. Wedyn, yn ail, rhaid iddo geisio dadansoddi'r digwyddiadau a'r prosesau a allai fod yn gyfrifol am natur bresennol y byd. Adeiladwaith a chyfansoddiad y Ddaear a dosraniad tymheredd oddi mewn iddi Fe wyddom mai cymedr radiws y Ddaear yw 6,371 km., gyda más o 5976 x 1024 g, ac felly y dwysedd yw 5517 g cm.-3. Gan fod cymedr dwysedd creigiau sy'n brigo ar wyneb y Ddaear yn 2 8 g cmw3, y mae'n dilyn yn rhesymol fod creigiau llawer iawn trymach yn gorwedd oddi tanynt. Rhaid cofio mai dim ond 8 km. yw dyfnder y pwll- dril dyfnaf a dorrwyd hyd yn hyn, ac nad oes modd ar hyn o bryd samplo'n ddyfnach. Serch hynny, mae'r prosesau daearegol o ymgodiad a'r erydiad dilynol wedi noethi llawer ar greigiau a ffurfiwyd gyntaf 20 km. neu fwy islaw'r wyneb. Ymhellach, credir fod cynnwys rhai echdoriadau folcanig yn greigiau a fu'n rhan o'r craidd solet, cyn ddyfned â thua 70 km. Adeiladwaith mewnol Cafwyd amcangyfrif o'r newidiadau yn nwysedd y Ddaear yn ôl dyfnder, drwy astudiaeth o gyf- lymder y tonnau sioc a achoswyd gan ddaeargryn- fâu naturiol a ffrwydradau o waith dyn, ac hefyd, yn ddiweddar iawn, o ddata a geir oddi wrth osgiliadau rhyddion. Sigliadau naturiol o'r Ddaear i gyd yw'r osgiliadau rhyddion hyn sy'n dilyn daeargrynfâu enfawr. Fe ddangoswyd mewn astudiaethau o'r amryw- iadau yng nghyflymder y tonnau sioc fod dwysedd yn cynyddu gyda dyfnder, ond nad yw cyfradd y cynnydd yn gyson (Ffig. 1). Darganfuwyd tri phrif toriant yn y Ddaear sy'n ei rhannu yn bedair haen anferth, consentrig. Y toriant mwyaf amlwg yw'r BRINLEY ROBERTS un a elwir yn Doriant Gutenberg. Digwydd hwn ar ddyfnder o 2,900 km. Yr ail yw Toriant Mohorovicic neu Moho. Digwydd hwn 10-12 km. islaw gwaelod y cefnforoedd, ond cymaint â 35-40 km. islaw'r cyfandiroedd. Y trydydd yw Toriant Lehmann. Ceir hwn cyn ddyfned â 5,200 km. Yn nhrefn eu pellter o'r wyneb, mae'r Moho yn gwahanu'r gramen oddi wrth y fantell; tra mae Toriant Gutenberg yn gwahanu'r fantell oddi wrth y craidd allanol. Ac yn olaf, gwahana Toriant Lehmann y craidd allanol oddi wrth y craidd mewnol. Y mae'r toriannau a ddynodir gan newid- iadau cyflymder y tonnau sioc yn ganlyniad cynnydd sydyn mewn dwysedd a achosir, o bosibl, gan wahaniaethau mewn cyfansoddiad neu wedd, neu gyfuniad o'r ddau. Arweinir ni gan newidiadau llai mewn cyflymder, at israniadau pellach o'r fantell. Ymestyn y fantell uchaf o'r Moho hyd at 400 km., a dilynir hi gan haen drawsnewidiol hyd at 1,000 km. Dilynir hithau yn ei thro gan y fantell isaf lawr at Doriant Gutenberg. Oddi fewn i'r fantell uchaf (rhwng 100 km. a 200 km.) ceir Cylchfa o Gyflymder Isel sydd hefyd yn haen o wanhád dybryd. Yr enw ar y rhan honno o'rfantell uchaf sy'n gorwedd uwchlaw y Gylchfa o Gyflymder Isel, ynghyd â'r gramen, yw'r lithosffer. Fel rheol, trwch y lithosffer yw 100- 150 km., hwn yw plisg allanol cryf y Ddaear ac mae'n ymateb i unrhyw ddiriant neu wasgedd yr un ffunud â solid brau. Yr haen a geir rhwng gwaelod y lithosffer a dyfnder o 700 km. yw'r asenosffer. Haen gymharol wan yw hon, ac ystumir hi'n hawdd gan ymgripiad. Gwelir amlinelliad o adeiladwaith y Ddaear yn Ffig. 1. Dosraniad tymheredd Nid oes sicrwydd am natur dosraniad y tym- heredd oddi mewn i'r Ddaear er fod mesuriadau o lif gwres yr arwyneb yn rhoi inni amcan pur dda beth yw'r tymheredd yng nghyffiniau'r arwyneb. Achos yr ansicrwydd yw diffyg gwybodaeth am ddosraniad anghyson ffynonellau gwres ymbelydro' ac hefyd cymhlethdod y peirianwaith trosglwyddc gwres yn nyfnderoedd y Ddaear. Ond mae dulliau