Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

$. ö'r Llwch i'r Lludw BEN THOMAS 'tíUhtitälHfì mm Ffìg. 1. Cwmwl y Cranc /■N 1875 croniclodd Syr William Herschel rannau ^elaeth o'r Llwybr Llaethog a oedd, fel y credai ef ar y pryd, heb sêr. Yn 1930 darganfuwyd bod igonedd o sêr yn y rhannau hynny hefyd, ond eu 5°'r golwg mewn cymylau mawr o nwy. Yn wir ae n amhosibl edrych ar gnewyllyn ein galaeth, y& yn oed drwy ddefnyddio'r technegau radio wyaf modern, oherwydd fod cymaint o'r cymylau yng-serol hyn yn gorchuddio ei chanol. Dim ond yn gymharol ddiweddar hefyd y sylweddolwyd P^ysigrwydd y cymylau yn natblygiad y bydysawd. u ganlyniad i fesuriadau cywrain a wnaed, yn Ptegol ac â thonfedd radio, amcangyfrifìr nad yw'r r yn cynnwys ond hanner más ein galaeth ni, a ^ü yr hanner arall yn y cymylau rhyng-serol. engys y pelydrau golau a radio sy'n dod o'r yniylau mai atomau a molecylau nwyon yw eu c «• gyf"ansoddiad gyda'r nwy hydrogen y mwyaf dd H6d^n* Darganiyddiad arall sydd yn hynod o ^ddorol a phwysig, yw fod gronynnau bach soled wch llai na 10~6 medr ar draws, yn ffurfio tua y cant o fàs y cymylau. Gwelir effaith y gronynnau ii ar °lau seren sydd yn ein cyrraedd drwy'r Mae'n bosib, drwy ddefnyddio'r sbectrwm, dewis dwy seren o'r un cyfansoddiad a thymheredd, gydag un seren yn gorwedd y tu cefn i gwmwl a'r llall heb ei gorchuddio o gwbl. Drwy gymharu dwysedd y golau, o'r uwch-fioled trwy'r golau gweledig hyd at yr is-goch, fe welir fod y cwmwl yn cochi golau'r seren sydd wedi ei gorchuddio. Digwydd hyn oherwydd fod y llwch yn amsugno golau glas yn llawer gwell na golau coch yn yr un modd ag y mae llwch yr awyr yn cochi'r haul wrth iddo fachlud ar y gorwel. Wrth gwrs, amrywia dwysedd y cymylau gyda'r canlyniad fod golau rhai o'r sêr yn gochach na golau rhai eraill. Mewn rhai enghreifftiau mae'r cwmwl mor ddu fel mai yn yr is-goch yn unig y gellir darganfod y seren. Felly, drwy gymharu nifer o sêr, gall seryddwyr ddatblygu patrwm cywrain o gryfder amsugnedd ac adlewyrchedd golau gan y gronynnau yn y cymylau, a thrwy hyn daw'r posibilrwydd o ddadansoddi cyfansoddiad a natur y sylweddau hyn. Dengys y patrymau fod adweithiau cryfion yn digwydd yn yr uwch-fìoled ar 220 nm, ac yn yr is-goch ar tua 10 um. Dadleuwyd ar y cyntaf mai iâ oedd cyf- ansoddiad y gronynnau, ac yn wir mae tymheredd 69