Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Ffìg. 8. Maes magnetig yr Haul a'i nerth Cafwyd trafodaeth yn y bennod hon ar rai syn- iadau cyfoes sy'n ceisio esbonio datblygiad y planedau ac yn fwyaf arbennig planed y Ddaear. Rhaid pwysleisio fod y Ddaear gyntefig yn bur wahanol ei hansawdd i'r blaned yr ydym ni mor gybyddus â hi heddiw. Ym Mhenodau 4, 5 a 6 ceir trafodaethau ar ddatblygiad yr agweddau holl bwysig hynny, megis, yr awyrgylch, y gramen a dyfodiad bywyd, roddodd i'n planed ni ei nodwedd- ion unigryw. Yn olaf, nodaf bod gronynnau yn chwarae rhan bwysig ymhob un o'r damcaniaethau hyn a rhyfedd COLEG PRIFYSGOL GOGLEDD CYMRU, BANGOR UN O GOLEGAU PRIFYSGOL CYMRU Prifathro: SYR CHARLES EVANS, M.A., D.SC., F.R.C.S. Darperir cyrsiau gradd Prifysgol Cymru yng Nghyfadrannau'r Celfyddydau, Gwyddoniaeth, Diwinyddiaeth a Cherddoriaeth. Mae'r cyfadrannau'n cynnwys testunau arferol curricula prifysgol, a cheir, yn ychwanegol, ddarpariaeth arbennig ar gyfer dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg mewn nifer o bynciau. Y mae gan y Coleg chwe Neuadd Breswyl gan gynnwys Neuadd gymysg Gymraeg, sef Neuadd John Morris-Jones. Gellir cael manylion pellach a chopi o Brospectws y Coleg oddi wrth y Cofrestrydd. o beth ydyw sylweddoli bod ein bodolaeth ni, heb sôn am bynciau gweddill y gyfrol, yn dibynnu yn y pendraw ar bresenoldeb ychydig o lwch cosmig. LLYFRYDDIAETH Williams, I. P. a Cremin, A. W.: The Origin of the Solar System, Quarterly Journal of the Royal Astronomical Society, 1968, t. 40. Williams, I. P.: The Origin ofthe Planets, 1975, cyh. Adam Hilger. Shklovskii, I. S. a Sagan, C.: Intelligent Life in the Universe, 1963, cyh. Holden-Day.