Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

2. Creu y Planedau Teulu planedau'r Haul YN y bennod ddiwethaf clywsom am ddechrau (neu ddiffyg dechrau) y bydysawd, a hefyd cawsom amlinelliad o'r gwahanol fathau o sêr sydd i'w darganfod yno. Fy ngwaith i yw dangos sut y tybir y ffurfiwyd y planedau allan o'r elfennau a geir yn ein galaeth ni, hynny yw, un ai allan o'r cymylau rhyng-serol sydd yn cynnwys nwy a llwch (gwelir Pennod 3), neu allan o'r sêr. Mae'n bwnc sydd wedi bod o ddiddordeb i'r ddynolryw erioed, ond, wrth gwrs, yn y dyddiau cyn Copernicus credid mai'r Ddaear oedd canolbwynt yr holl fydysawd, ac felly mai'r un prosesau oedd yn gyfrifol am greu'r bydysawd a'r Ddaear. Bellach dim ond diddordeb hanesyddol sydd mewn damcaniaethau cyn- Gopernicaidd, ac ni soniaf amdanynt ymhellach. Cyn trafod y damcaniaethau mwyaf diweddar, doeth fyddai i mi ddisgrifio yn gyntaf aelodau'r teulu o blanedau sydd yn perthyn i'n Haul ni. Mae naw o blanedau yn y teulu hwn: Mercher, Gwener, Y Ddaear, Mawrth, Iau, Sadwrn, Uranws, Neifion a Phlwto, ond tuedda y rhan fwyaf o seryddwyr heddiw i gredu mai lloeren sydd wedi dianc ydyw Plwto. Mae pob un o'r planedau gyda'i orbid yn gorwedd yn agos at yr un plân, gyda phob orbid bron yn gylchgrwn, a phob planed yn symud i'r un cyfeiriad o amgylch yr orbid. Mae yna reol empirig (rheol Titus-Bode) sydd yn cysylltu pellter y planedau fel ag a ganlyn, gan ddefnyddio 10 miliwn o fetrau fel uned (n): pellter = 06 + 045 x 2n lle mae n = —00 i Fercher, 0 i Wener, 1 i'r Ddaear ac yn y blaen. Noder fod rhaid cynnwys yr Aster- oidiau yn y gyfres (n = 3) i gael pellter gweddol gywir i'r planedau o Iau ymlaen. Yn Nhabl I dangosir nodweddion orbid y planedau, y pellter cywir a'r pellter yn ôl rheol Titus-Bode. Dengys y Tabl hefyd, o ran diddordeb, y nifer o loerennau a feddir gan bob un o'r planedau. Er bod naw planed yn y teulu a dim ond un Haul, mae más yr Haul tua saith cant a hanner gwaith yn fwy na chyfanswm más y planedau, ond er syndod, mae momentwm onglog y planedau tua dau can gwaith yn fwy na momentwm onglog yr Haul (Noder: mesur o nerth troi yw momentwm onglog, a dibynna ar fás, cyflymder troi, a phellter y gwrthrych o'r canol) (Ffig. 1). IWAN P. WILLIAMS TABL I NODWEDDION Y PLANEDAU Pellter Ech- Pellter yn ôl Nifer y Planed reiddiad Aroledd (10nm) Titus-Bode lloerennau Mercher -206 7° 0' 0-59 0-60 0 Gwener 007 3° 24' 108 105 0 Y Ddaear 017 — 1-50 1-50 1 Mawrth -093 1° 51' 2-28 2-40 2 Asteroid — — 4-35 4-20 — Iau ·048 1° 19' 7-80 7-80 12 Sadwrn -056 2° 30' 14-32 15·00 10 Uranws -047 0° 46' 28-80 29-40 5 Neifion -007 1° 47' 45-15 58-20 2 Plwto -247 17° 9' 59-85 115·80 0 Mae perygl ystyried fod y planedau i gyd yn debyg i'w gilydd, ond camargraff fyddai hyn oherwydd ceir gwahaniaethau yn eu más a'u cyfansoddiad cemegol yn ogystal â'r gwahan- iaethau amlwg yn eu pellter o'r Haul. Yn Nhabl II dangosir más, pellter o'r Haul, a'r prif elfennau cemegol a geir yn y gwahanol blanedau. Yn y tabl hwn, hefyd, dangosir yr un mesurau i chwech o'r lloerennau mwyaf, gyda'r bwriad o ddangos bod y gwahaniaeth rhwng y lloerennau mawr a'r planedau TABL II MÀS A GWNEUTHURIAD CEMEGOL Y PLANEDAU Pellter Mas Gwneuthuriad Math Enw (1011 m) (10" Kg) Cemegol Daearol Prif Allanol Eraill Lloerennau Gwener 1-0 5 YDdaear 1·5 5 6 Iau 7-8 2000 Sadwrn 15-0 600 Uranws 29 90 Neifion 45 90 Plwto 60 0-6 Mercher 0·6 0·3 Mawrth 2-3 0-6 Ganymede 7-8 015 Triton 45 015 Titan 15 014 Callisto 7-8 0-09 Io 7-8 008 Lleuad 1-5 007 Fe, Si, O H, He C, N O, H, He Fe, Si, O Fe, Si, O