Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

1. Y Bydysawd TEGID WYN JONES Map a chynnwys y Bydysawd Cyn y medrwn drafod ein dealltwriaeth gyfoes o'r "ydysawd, rhaid yn gyntaf ddisgrifio ei gynnwys a'r ^ulliau a ddefnyddiwyd i'w fapio. Ni ellir defn- yddio'r dull cyfarwydd o driongleiddio, dim ond i oenderfynu pellter y planedau a'r Haul y maent yn ei gylchdroi o'r Ddaear, a phellter rhai sêr cyfagos. *n wir ni lwyddwyd i fesur pellter rhai o'r sêr cyfagos hyd yn oed tan 1838, pan wnaeth Bessel hynny yn Königsberg. Defnyddiodd ddîamedr 0rbid y Ddaear o gwmpas yr Haul fel ei linell sylfaen, a sylwodd ar y gwahaniaeth bach yn ongl §°di'r seren fel yr âi'r Ddaear o un pen i'r orbid i'r Uall mewn hanner blwyddyn. Yn ffodus iawn, sylwodd Miss H. Leavit o ^arvard, yn 1911, fod goleuni rhai o'r sêr cyfagos 0edd â'u pellter yn hysbys, yn dirgrynu. Darganfu ymhellach fod amledd y dirgrynu yn gysylltiedig â °-lsgleirdeb absoliwt y seren. Dyma sêr enwog y ^ePheid—sêr sydd wedi datblygu mor bell fel nad y°ynt yn gwbl sefydlog o dan ddylanwad atyniad ^gyrchiant a'r gwrthdyniad sy'n deillio o wres yr adweithiau niwclear yn eu crombil. Yn y cyfnod yrna o'u datblygiad, maent yn llosgi niwclei [rymach na'r ddau danwydd cyntaf, sef hydrogen a neliwm^ ac mae eu hansefydlogrwydd yn peri 0lrgrynu yn eu parthau allanol. Felly os gwelir y goleuni o seren bell, sydd â sbectrwm tebyg i'r Cepheidau cyfagos, yn dirgrynu, y^a gallwn gymryd yn ganiatáol mai Cepheid ydyw, ac mae ei disgleirdeb absoliwt yn hysbys. Mesurir ei 0lsgleirdeb cymharol mewn telesgôb ar y Ddaear, a gellir yn hawdd benderfynu ei phellter o goíìo fod dlsgleirdeb cymharol yn hafal i'r disgleirdeb a°soliwt dros sgwâr y pellter. Ehangodd y darganfyddiad hwn orwelion y byd- ysawd o gyfundrefn yr Haul a'i phlanedau a'r sêr cy'agos i'r alaeth o sêr yr ydym yn rhan ohoni. ^apiodd Shapley fraslun o freichiau sbiral ein Salaeth, ac yn eu tro canfuwyd y galaethau eraill sydd bellterau enfawr i ffwrdd. Sylwyd hefyd fod 'ystyrau crynion o sêr yn aml y tu allan i gorff galaeth. Ac weithiau mae'r galaethau eu hunain yn c'ystyrru gyda'i gilydd. Pwyswyd llawer o'r galaethau trwy sylwi â fielesgôb ar fudiant rhai o'r sêr ynddynt. Dewisir er â sbectra â golwg arferol arnynt fel y gellir amcanu eu pwysau. Oherwydd eu bod yn symud o dan ddylanwad disgyrchiant, ac felly dan ddylan- wad pwysau'r alaeth, mae'n bosib amcanu faint o fater ac o sêr sydd ynddynt. Yn aml ceir 10u o sêr mewn un alaeth yn unig (hynny yw, can mil o filiynau o sêr mewn galaeth). Mapiwyd hefyd y cymylau o hydrogen atomig a geir y tu mewn i bob galaeth ac o'i chwmpas, trwy sylwi ar y tonnau radio o donfedd 21 cm. y maent yn eu pelydru. Yn ogystal, canfuwyd y cymylau o lwch cosmig oherwydd iddynt fwrw cysgod ar y goleuni a ddaw drwyddynt. Mae rhai galaethau yn nodweddiadol oherwydd eu bod yn pelydru tonnau radio cryf dros ben. Nid oes ddealltwriaeth gyflawn o bell ffordd o'r gal- aethau radio: cawn weld yn nes ymlaen bwysig- rwydd mawr y dosbarth yma o alaethau. Hefyd dywedir gair am gyrff eraül, rhai dirgel dros ben, sef y Cwasars, cyn diwedd y bennod. Y creu o fewn Galaeth Mae cynnwys galaeth yn system ynysig lle mae sêr yn cael eu geni o'r cymylau hydrogen a'r llwch cosmig. Mae presenoldeb y gymysgfa o gwmwl hydrogen a llwch cosmig yn caniatáu i atomau unigol o hydrogen ymuno bob yn ddau i greu molecylau o hydrogen. Y tu allan i'r cwmwl holltir uniad y molecwl gan oleuni o'r sêr, ond oddi mewn ni all goleuni dreiddio, a chysgodir y molecylau yn y cwmwl lle mae'r tymheredd yn disgyn i 5°K (pum gradd uwchlaw'r sero absoliwt!). Y 'rhewgell' yma sy'n cynnwys tua 1,000 gwaith pwysau'r Haul o nwy hydrogen (H2), a deg gwaith pwysau'r Haul o lwch cosmig, yw Croth y Sêr. Croth y Sêr—y Nebwla Tywyll Yn raddol, disgwylir i'r cwmwl tywyll leihau mewn maint gan fod goleuni o'r sêr o'i gwmpas yn gwasgu ar wyneb y cwmwl. Peth od i'w ddisgwyl efallai, ond dylid cofìo fod cwanta o oleuni yn cludo momentwm, ac wrth iddynt gael eu had- lewyrchu oddi ar y gronynnau llwch ar wyneb y cwmwl, newidir cyfeiriad y momentwm. Ac felly mae grym mewnol yn gwasgu ar y cwmwl. Meddyl- iwch am lif o beli (y cwanta) yn cael eu hadlewyrchu oddi ar blât (wyneb y cwmwl) a osodir ar sbring (gwasgfa'r nwy oddi mewn). Gwesgir y plât i lawr 53