Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Rhagymadrodd í rwyth datblygiadau gwyddonol yw pob chwyldro i;ehnegol. Yn ei sgîl daw nid yn unig ffyrdd newydd c fyw ond ffyrdd newydd o feddwl ac o gredu. nynny yw, mae Chwyldro Technegol yn newid c iwylliant dyn. Gan fod gwaith gwyddonwyr yn cael y fath ddylanwad ar gymdeithas y mae lle iddynt geisio egluro eu darganfyddiadau a'u damcaniaethau i'w cyd-wyddonwyr ac i'r cyhoedd deallus. Gellid honni ei fod yn ddyletswydd arnynt. At hyn, cred golygyddion ac awduron y gyfrol hon y dylent gyfathrebu â Chymry Cymraeg drwy'r iaith Gymraeg. Ein braint ni yw cael y cyfle hwn i arfer, ac yn wir i ymestyn, adnoddau'r Gymraeg mewn maes pwysig. Yn aml, y mae hi'n ddigon amlwg beth yw effeithiau a chanlyniadau darganfyddiadau gwydd- onof pan ddeilliant o dechnoleg newydd. Llawn cyn bwysiced yn ddiwylliannol yw deall ar y llaw arall nad yw damcaniaethau gwyddonol yn rhai hollol bendant a therfynol. Rhaid sylweddoli y bydd pob damcaniaeth yn ei thro yn cael ei chwestiynu, ei newid, ac efallai ei gwrthod. Mae llawer o'r damcaniaethau a gyflwynir yma yn rhai anghyflawn a rhaid cofio mai cynnyrch ymchwil a myfyrdod gwyddonwyr cyfoes ydynt. Felly, maent yn cyfleu agweddau a dirnadaeth gyfoes am safle dyn yn y cread yn union fel yr oedd Genesis yn adlewyrchu meddylfryd yr hen Hebreaid am y cread. Dysgwyd llawer yn ddiweddar am y byd- ysawd, am hanes ein planed ac esblygiad bywyd gan gynnwys dyn. Byddai'n annoeth, ac yn wir yn amhosibl, anwybyddu'r wybodaeth hon oherwydd ei bod mor berthnasol, nid yn unig i wyddonwyr, ond hefyd i athronwyr a diwinyddion. Dewiswyd pedair adran i gyflwyno pwnc ‘Y CREU'. Yn y gyntaf ystyrir cychwyniad y byd- ysawd a datblygiad y sêr a'r planedau; yma fe welir fod esblygiad yn dibynnu ar brosesau ffisegol a chemegol. Yn yr ail ran, trafodir datblygiad yr elfennau cemegol a'u dosraniad yn haenau ein Daear; hefyd cyflwynir hanes esblygiad daearegol ein planed. Yn y drydedd adran, ceir arolwg ar esblygiad bywyd yn fiocemegol ac yn fywydegol. Yn olaf, trown at esblygiad dyn a natur ei gymun- edau cynnar. Terfynir y llyfr gydag ymdriniaeth ag arwyddocâd y damcaniaethau hyn, ac yn arbennig felly bwysigrwydd damcaniaeth esblygiad biolegol i athroniaeth a diwinyddiaeth. Wrth ddilyn llwybr y creu o'i ddechreuad mewn cwmwl o nwy hydrogen ym mhellteroedd y gofod hyd at ddyn, amlygir rhai tueddiadau cyson. Yn gyntaf, gwelir cynnydd syfrdanol yng nghym- lethdod trefniant yr atomau a'r molecylau. Dechreuir gydag atomau syml hydrogen, ac yn y diwedd cyrhaeddir at gymhlethdod ac amrywiaeth y sylweddau cemegol a geir yn y corff dynol. Y rhain sy'n rheoli peirianwaith y corff yn ei holl gyfanrwydd ac sydd yn y pen draw yn lliwio ein hymwybyddiaeth gymdeithasol. Yn ail, mae dilyn llwybr datblygiad y cread fel dringo grisiau hïerarchaidd sy'n arwain o ffiseg i gemeg, i fywydeg, ac yn olaf i gymdeithaseg. Mae pob gris, o'i chyrraedd, yn cynnig lefel ychwanegol o drefniant a phosibiliadau newydd, megis yr adweithiau cemegol a ddaeth yn sgîl datblygiad y naw deg dwy elfen gemegol o nwy hydrogen yn y sêr, neu'r esblygiadau cymdeithasol ddaeth i ran Homo sapiens sapiens o feistroli'r ddawn i lefaru. Er hynny mae pob gris uwch o drefniant yn hawlio ffynon- ellau gwell o ynni i'w cynnal. Yn drydydd, bu newid brawychus yng nghyflymder esblygiad fel y bu'r cread yn ennill mwy o drefniant wrth esgyn grisiau hïerarchaidd datblygiad. Ffenomen araf iawn yw datblygiad sêr o'i gymharu â chyflymder y cyf- newidiadau cymdeithasol a ddigwydd yn ein gwareiddiad ni. Amcangyfrifir fod y bydysawd dros 10 biliwn mlwydd oed, hynny yw, yn fwy na 10 mil o filiynau o flynyddoedd; credir fod oed y Ddaear yn 4 65 biliwn o flynyddoedd, a bod olion bywyd cynnar yn dechrau tua 3 biliwn o flynydd- oedd yn ôl. Ni cheir olion mamaliaid hyd at rhwng 200 i 150 miliwn ac ymddengys y dynion cynharaf oddeutu 3 i 2 filiwn o flynyddoedd yn ôl. Dim ond tua 30 mil o flynyddoedd sydd er pan esblygodd ein hil ni, Homo sapiens sapiens. Datblygodd y dyn trefol lai na 8 mil o flynyddoedd yn ôl, ac nid yw ein cymdeithas dechnolegol wyddonol ond yn ddwy neu dair canrif o oed. Felly, mae cyflymder esblygiad wedi cynyddu fel ei bod yn anodd iawn rhagweld beth fydd dyfodol ein byd mewn hanner can mlynedd. Yn olaf, rhaid pwysleisio mai canran fechan o folecylau'r bydysawd a ddilynodd lwybr esblygiad