Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Rhagair 'n ystod mis Ebrill 1975 trefnwyd cynhadledd o dan nawdd Y Gymdeithas Wyddonol Genedlaethol Adran Efrydiau Allanol, Coleg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor, ar bwnc 'Y Creu'. Trwy ^iredierwydd hael yr Adran a'i chyfarwyddwr, Yr Athro Alun Llywelyn Williams, gwahoddwyd '-•benigwvr o nifer o feysydd gwyddonol i drafod agweddau ar ddatblygiad y cread. Cafwyd 1 'nhadledd hynod o lwyddiannus, yn arbennig felly oherwydd i'r arbenigwyr geisio cyflwyno eu 'wybodaeth mewn ffordd fyddai'n ddealladwy i'r lleygwr. Teimlwyd ar y pryd y dylid ymdrechu i ^yflwyno'r cyfraniadau i gylch mwy eang nag oedd yn bresennol yn y gynhadledd. Felly, wedi oediad hir ac anochel, dyma gyflwyno ffrwyth y gynhadledd yn gynnwys y gyfrol hon. Cynhwyswyd lair pennod ychwanegol yn y gyfrol ar bynciau na thrafodwyd mohonynt yn y gynhadledd. Ein pleser ni fel golygyddion ydyw cael diolch i lu mawr o garedigion a chyfeillion a wnaeth hwyluso'r ffordd i gyhoeddi'r gyfrol hon. Carwn ddiolch yn gyntaf i Olygydd a Bwrdd Golygyddol Y GWYDDONYDD am ganiatàu i'r gyfrol hon gael ei chyhoeddi fel rhifyn yng nghyfres Y GWYDDONYDD, ac i'r Gymdeithas Wyddonol Genedlaethol am osod sêl eu bendith ar y cynllun. Gwnaeth Ymddiriedolaeth Pantyfedwen gyfraniad ariannol hael tuag at gostau cyhoeddi'r gyfrol a mawr yw ein diolch iddynt am y cynhorthwy hwn. Pleser ydyw cael diolch hefyd i Mr. John Rhys, ac yn arbennig felly i Mr. Alun Treharne, o Wasg Prifysgol Cymru, am eu hamynedd a'u hynawsedd gyda ni olygyddion, ac i Mrs. Lenna Pritchard- Jones am hwyluso'r gwaith drwy'r Wasg. Ym Mangor cawsom gydweithrediad arbennig Mrs. Sally Pritchard a Mrs. Ceinwen Edwards gyda'r teipio a Mr. Eirion Owen a Mr. Eifion Hughes fu'n gyfrifol am y diagramau ym mhenodau 4, 7 ac 8 Cawsom ein cynorthwyo hefyd gan Miss Margaret Price a Mr. John Dilwyn Williams. Yr ydym yn ddyledus iawn iddynt oll am eu caredigrwydd. Mr. R. Cyril Hughes a Mr. Richard Owen wnaeth gynorthwyo gyda chyfieithu dwy bennod anodd a chymhleth o'r Saesneg, a gwerthfawrogwn yn fawr eu medrusrwydd a'u llafur. Bu Mr. Dafydd Glyn Jones yn garedig iawn yn darllen drwy nifer o'r penodau yn cywiro a chaboli'r Gymraeg ac yr ydym yn ddiolchgar iawn iddo yntau am ei lafur a'i drylwyredd; bydd unrhyw gamgymeriadau sy'n aros yn y gyfrol yn deillio yn uniongyrchol o flerwch y golygyddion. Mae'n ddymunol hefyd cael diolch am gydweithrediad parod awduron y penodau, ac yn arbennig felly i Dr. Brinley Roberts a Dr. David Shaw am eu parodrwydd yn cyfrannu penodau arbennig o bwysig i gyfanrwydd y gyfrol. Yn olaf, pleser ydyw cael diolch i Ella ac Irene, ein gwragedd hir eu hamynedd a'u gras. Heb eu hanogaeth hwy buasai wedi bod yn anodd iawn i ddyfalbarhau. Diolch hefyd i Dr. Emyr Wyn Jones am ei ddiddordeb parhaol yn y gyfrol ac am ei gymwynasau lu.