Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

ERS pan sefydlwyd Y Gymdeithas Wyddonol Genedlaethol bu cydweithrediad agos rhwng Y GWYDDONYDD a'r Gymdeithas. Yn gynnar yn ei hanes gwnaethpwyd trefniant i'r aelodau dderby 1 y cylchgrawn fel rhan o'r tâl aelodaeth, ac am y naill flwyddyn ar ôl y llall adlewyrchwyd tyfiant Gymdeithas yn y cyfraniadau cyson a dderbyniwyd i'r GWYDDONYDD. Y mae'r rhifyn dwbl hwn yn gam pwysig arall yn y berthynas yma. Y cynadleddau yw uchafbwynt blynyddol gweithgareddau r Gymdeithas, ac o bob rhan o Brydain (ac ar droeon o gyfandir Ewrop), daeth gwyddonwyr cydnabyddedig ynghyd i fwynhau trafod eu gwaith drwy'r Gymraeg, eu hiaith gyntaf. 'Roedd y gynhadledd ar 'Y Creu' ym Mangor yn nodedig gan fod asiad y cyfraniadau yn rhoi darlun cynhwysfawr o'r modd y daeth ein byd a'r creaduriaid sydd arno i fodolaeth dros amser a sut y datblygodd wedyn dros y milenia. O angenrheidrwydd mae'r disgrifiad mewn mannau braidd yn dechnegol ei iaith, mwy felly nag y byddwn fel arfer yn ei gynnwys yn Y GWYDDONYDD. Eto o'i ddarllen daw holl ryfeddod 'Y Creu' yn amlwg ddigon. Yn hyn o beth y mae rhywbeth i bawb yn y gyfrol ddwbl yma, a hyderwn yn fawr y bydd ein darllenwyr cyson yn croesawu'r arbrawf yma eto. Y mae'r Bwrdd Golygyddol yn ceisio amrywiaeth fel hyn o bryd i'w gilydd, ac am y rheswm yma rhoddwyd croeso brwd i awgrym dau o drefnwyr y gynhadledd, Dr. Gareth Wyn Jones a Dr. J. 'Ll. W. Williams, y dylid cyhoeddi, a nhw sydd wedi golygu'r gyfrol ar ei hyd. Diolch iddynt am eu gwaith hir a manwl, i Fwrdd Gwasg Prifysgol Cymru ac Ymddiriedolaeth Pantyfedwen am y gefnogaeth ariannol a'i gwnaeth yn bosibl i gyfrol mor sylweddol ymddangos. Cyflwyniad GLYN O. PHILLIPS