Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Ffg. 2. Dosbarthiad ynni'r pelydrau-X o anod twngsten ac o anod molybdenwm. Gwelir fod pelydrau o un ynni arbennig yn ogystal â'r spectrwm di-dor yn dod o anod molybdenwm felly darganfuwyd mai rhywle rhwng 15 a 20 KeV yw'r ynni gorau i'w ddefnyddio. Mewn tiwb pelydrau-X, teithia'r electronau yn gyflym rhwng y cathod a'r anod. Pan drawant yr anod, gwyrir ac atelir yr electronau yn sydyn. Trosglwyddir yr ynni a gollir gan yr electronau yn belydrau-X. Gall y pelydrau-X gymryd unrhyw ran o ynni cinetig yr electron. Dengys Ffigur 2 ddosbarthiad ynni'r pelydrau-X o anod twngsten pan ddefnyddir electronau ac ynni o 20 KeV. Nid yw'n bosibl i'r pelydrau-X dderbyn mwy o ynni na'r 20 KeV a geir gan yr electronau, ond gallant dderbyn unrhyw ynni arall llai na'r cyfran yma. Ceir dosbarthiad ynni gwahanol pan ddefnyddir anod molybdenwm. Yn ogystal â'r broses o wyro ac atal, mae'n bosibl i electron 30 KeV daro allan un o electronau'r atom molybdenwm. Os bwrir un o'r electronau yma allan, fe lenwir y twll yn yr atom gan electron o lefel ynni uwch yn yr un atom. Gollyngir pelydr-X efo'r ynni a ddaeth yn rhydd drwy'r gwahaniaeth rhwng y ddwy lefel yn yr atom molybdenwm. Felly yn ogystal â'r spectrwm di-dor ceir pelydrau-X ag un ynni arbennig (gweler Ffigur 2). Yn ffodus mae'r ynni yma o gwmpas 18 KeV ac yn dra gwerthfawr i'w ddefnyddio mewn mamograffi.