Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Mamograffì darluniau pelydrau-X o'r bronnau Ganwydyn Llanddyry, Sir Gaerfyrddin, a chafodd ei addysg yn Ysgol y Sir, Machynlleth. Graddiodd mewn Ffiseg yng Ngholeg Imperiaì, Prifysgol Llundain. Mae ganddo ddoethuriaeth o Adran Geoffiseg Prifysgol Caergrawnt. Bu yn aelod o staff Adran Ffiseg Meddygol Byrddau Iechyd Gorllewin yr Alban ers 1970, l/e mae yn gweithio yn Adran Pelydrau-X ysbyty'r Southern General, Glasgow. Erbyn hyn 'rydym i gyd yn gyfarwydd â darluniau pelydrau-X o'r corff. Y rhai mwyaf adnabyddus ydyw'r darluniau o'r frest lle y gwelir yr ysgyfaint a'r galon yng nghanol esgyrn yr asennau. Gwyddom mai'r rheswm y gwelir yr esgyrn yn amlwg yng nghanol y croen a'r cnawd ydyw fod y pelydrau'n cael eu hatal yn fwy gan yr esgyrn na chan yr elfennau llai dwys. Ni welir darluniau pelydrau-X o'r bronnau mor aml ond mae'r rhain hefyd yn llawn o wybodaeth gwerthfawr i'r meddyg yn ei ymchwiliadau. Dull o archwilio afiechydon y bronnau ydyw mamograffi. Disgwylir i un dynes ymhob dwy ar bymtheg ddioddef oddi wrth canser yn ei bronnau yn ystod ei hoes. Peth brawychus yw fod dros dri chant yn marw o'r clefyd yng Nghymru bob blwyddyn. Bydd llawer o'r rhain rhwng 35 a 50 oed, y mwyafrif ohonynt yn famau sy'n gofalu am ein teuluoedd. Dylid felly ymchwilio yn ofalus i geisio achub mwy rhag y clefyd trychinebus hwn. Os darganfyddir y canser yn gynnar gellir ei dorri allan cyn iddo gael cyfle i ledaenu a gwasgaru. Felly mae galw am wahanol ddulliau o ddarganfod y clefyd yn gynt. Ar ôl cwyno wrth y meddyg am ei bronnau anfonir y ddynes i'r ysbyty i gael mamograffi. Diben y darlun pelydrau-X ydyw gwahaniaethu rhwng y canser a'r tiwmor syml. Mae'n hawdd sylwi'r anhawster o wahaniaethu rhwng defnyddiau'r pibau llaeth, y gwythiennau a'r braster-nid oes llawer o wahaniaeth yn nwysedd yr elfennau hyn. I gael darluniau da i hwyluso gwaith y meddyg a'r llawfeddyg, rhaid defnyddio techneg o'r safon uchaf i allu gweld y mymrynnau bach o galch a geir weithiau mewn canser ac i wahaniaethu rhwng y gwrthgyferbyniadau lleiaf. Yn y deng mlynedd diwethaf bu tri datblygiad ALED LLYR EVANS hynod sydd wedi gwella mamograffi: pelydrau-X o anod molybdenwm, xeroradiograffaeth a defn- yddio sgrîn o'r priddoedd prin. Ffìg. I. Sut mae gallu y gwahanol elfennau atal y pelydrau-X yn dibynnu ar ynni yr ymbelydredd Pelydrau-X o anod molybdenwm Gwelir oddi wrth Ffigur 1 fod gallu elfennau'r cnawd-y meinweoedd­-i atal pelydrau-X yn dibynnu ar ynni'r pelydrau. Fel y byddem yn ei ddisgwyl, gall y pelydrau sydd yn meddu ynni uchel fynd trwy'r defnyddiau'n ddirwystr. Fel mae ynni'r pelydrau-X yn gwanhau, gwelir fod y cnawd yn atal mwy o'r pelydrau-X na'r braster. I wahan- iaethu rhwng elfennau'r fron, dylid defnyddio'r pelydrau gwannaf-mae'n rhaid iddynt fod yn wannach na 25 KeV. Ar y llaw arall, mae'n rhaid cael digon o belydrau trwodd i ffurfio darlun, ac