Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Llwybrau Cymru Llun (trwy garedigrwydd Cyngor Gwarchodaeth Natur) yn dangos y gefnen gerigos a rhai o'r tywynnau yn Ynyslas, gydag Aber Dyfi a bryniau Meirionnydd yn y cefndir Tywynnau Ynyslas RHAN o'r Warchodfa Natur Genedlaethol a sefyd- lwyd ar yr ochr ddeheuol i aber yr Afon Ddyfi yw Tywynnau Ynyslas. Safant rhyw ddwy filltir i'r gogledd o'r Borth, Ceredigion, ac yn union ar draws yr afon o borthladd Aber Dyfi. Mae Tywynnau Ynyslas yn cynnwys rhyw 240 o erwau gyda'r drydedd ran ohonynt dan dyw- archen a'r gweddill yn draethau tywod neu'n gerigos glan y môr uwchlaw llinell y penllanw cyffredin. Dyma'r unig dywynnau o unrhyw faintioli yng Ngheredigion ac mae ganddynt ran bwysig yn y cymhlyg aberol yn ogystal â bod o ddiddordeb botanegol arbennig. Gwelir yma y gwahanol ystad- feydd yn ffurfiad y tywynnau, gan esgyn o lan y môr a'i dywod heibio i'r rhag-dywynnau a'r tywynnau symudol ac ymlaen at y tywynnau arhosol ac at y radd ecolegol uchaf, sef y darnau dan brysgwydd, gyda Rhosyn Burnet yn bennaf planhigyn. Yn y pantiau llaith rhwng y tywynnau ceir ambell helygen fechan, ac ar hirddydd haf mae ROGER BRAY Gwlydd Mair y Gors a Thegeirian y Gors yma yn eu harddwch. Ceir hefyd blanhigion llai cyfarwydd megis Caldrist y Gors a Thegeirian Bera. Llwyddodd traethau aur Ynyslas i ddenu lliaws o ymwelwyr, a chanlyniad anochel hyn fu dirywiad amlwg yn sefydlogrwydd y tywynnau oherwydd bod gor-sathru gan draed a cherbydau yn torri drwy'r dywarchen fregus a gadael y tywod odani ar drugaredd y gwynt i'w chwythu i'r fan a fynnai. Erbyn hyn llwyddodd y Warchodaeth, mewn cyd- weithrediad hapus gyda'r Awdurdod Lleol ac Ymddiriedolaeth Naturiaethwyr Gorllewin Cymru, i ddadwneud llawer iawn o'r drygau, ac fe wêl y teithiwr ar hyd milltir y llwybr natur wahanol ddulliau a fabwysiadwyd i adfer tir o'r fath a'i ddiogelu yn y dyfodol. Gwnaethpwyd hynny heb gyfyngu'n ormodol ar fynd a dod yr ymwelydd. Mae'r llwybr yn dechrau ac yn dod i ben ar bwys y caban gwybodaeth. Ceir amrywiaeth o lyfrynnau yn disgrifio'r Warchodfa, ac un arbennig i'n rhoi ymhen ein ffordd o fynegbost i fynegbost ar hyd y tywynnau, gan nodi'n gryno yr hyn sy'n werth sylwi arno wrth fynd heibio.