Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

cloriannu a disgyblaeth. Beth oedd swyddogaeth arolygwr ysgolion yn yr ugeiniau a'r tridegau? w.t. Dyna oedd yr hen swyddogaeth; beir- niadu, a hynny'n llym ac yn awdurdodol yn ami iawn a rhoi adroddiadau ar waith athrawon. Mae hynny wedi newid yn llwyr gore'r modd a'r pwyslais bellach ar feirniadaeth adeiladol mewn trafodaeth agored gyda'r athrawon a'r prifathraw- on. Erbyn hyn anaml iawn y gwelir adroddiadau llym ar unigolion a hynny ond mewn amgylchiadau pur eithafol. Tra'r oeddwn i wrth y gwaith yma, gwnes fy ngorau i fod yn gyfiawn heb anghofio bod yn drugarog hefyd. J.B. O ganlyniad i'r prinder swyddi diweddar yn y gwyddorau mae tuedd bellach i bwysleisio 'addysg trwy gemeg' yn hytrach nag 'addysg mewn cemeg'. Ydych chi'n teimlo'n ddyledus i'ch hy- fforddiant mewn cemeg yn arbennig am eich cymhwyso a'ch galluogi i addasu at wasanaeth mewn cynifer o wahanol gyfeiriadau yn eich gyrfa ? w.t. Rwy'n eithaf sicr fy mod yn ddyledus iawn i ddisgyblaeth cemeg. Os bydd disgyblaeth y deall yn perthyn i bwnc yna mae dylanwad y ddisgyblaeth yn ymestyn ymhell tu hwnt i ffiniau'r pwnc ei hun. Gall llawer o gynnwys ffeithiol y pwnc fynd i ebargofiant ond erys dylanwad y ddisgyblaeth yn barhaol. YSGOL FEDDYGOL GENEDLAETHOL CYMRU, CAERDYDD (PRIFYSGOL CYMRU) Llywydd: SYR CENNYDD TRAHERNE, K.G., T.D., LL.D., M.A., J.P. Pennaeth: J. P. D. MOUNSEY, M.A., M.D., F.R.C.P. Cofrestrydd: T. R. SAUNDERS, B.A. Darperir cyrsiau ar gyfer graddau meddygol Prifysgol Cymru (M.B., B.Ch., B.D.S.). Dylid dychwelyd y ffurflenni cais i Ganolfan Ceisiadau am Fynediad i'r Prifysgolion, G.P.O. Box No 28, Cheltenham, GL50 1HY, erbyn 15 Rhagfyr. Gellir gwneud cais cyn cael canlyniadau arholiad a gydnabyddir gan y Brifysgol ar gyfer matriculation. Ceir hefyd gyrsiau ar ôl gradd, sy'n arwain i ddiploma mewn Iechyd Cyhoeddus (Cymru) a diploma mewn Darfodedigaeth a Chlefydau'r Frest (Cymru), a gellir cael manylion pellach oddi wrth y Cofrestrydd. Dylai'r rhai sydd am ymgymryd ag astudiaethau meddygol neu ddeintyddol gael eu ffurflenni cais oddi wrth eu hysgolion neu golegau neu oddi wrth y Cyngor Canolog, G.P.O. Box No. 28, Cheltenham, GL50 1HY. Dylid anfon ceisiadau i'r Cyngor Canolog erbyn 15 Rhagfyr yn y flwyddyn sy'n bl— flwyddyn y disgwylir cychwyn ar y cwrs. Dylid cyfeirio pob ymholiad ynglŷn â'r cyrsiau at y Cofrestrydd, Ysgol Feddygol Cymru, Parc Heath, Caerdydd CF4 4XN. J.B. Wel, Dr. Thomas, yr ydych yn gymeria 1 pur anghyffredin, oherwydd, er bod llwyddian diamod wedi'ch dilyn ym mhopeth bron, 3- ydych wedi bod yn fethiant llwyr ynglŷn' a ymddeol! Wedi ymddeol o'r Brif Arolygyddiaeth yn 195.^ buoch yn Gyfarwyddwr Cyngor Gwasanaeth Cymdeithasol Cymru am naw mlynedd pellach. Wedi ymddeol o'r swydd honno yn 1961 dyma chi'n 'brif arolygwr' eto, mewn ffordd o siarad, ar un o ffermydd tlysaf Sir Benfro, Maenor Trefloyne, ac yn dal ati o hyd. Ond 'dyw hynny ddim yn ddigon ichi ychwaith, oherwydd ers tair blynedd bellach yr ydych yn dal cyfrifoldeb a chynnal urddas Islywyddiaeth eich hen goleg yn Aberystwyth; olynydd teilwng iawn i'ch hen gyfaill Dr. W. Idris Jones, cemegydd disglair eto ac un arall o ddisgyblion Syr William Pope. Fe gychwynnoch o'r tyddyn yn y Gwanwyn ac yr ydych wedi dychwelyd i'r faenor yn yr Hydref a'ch cynhaeaf yn ddiddos. Rwyf am ddymuno ichi a Mrs. Thomas hir oes, o leiaf cyhyd ag oes Sudborough, neu gwell na hynny, cyhyd â Chevreul. w.t. Diolch yn fawr ichi.