Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Arloeswr Metrigeiddio A NINNAU bellach wedi hen arfer â'r dull degol o drin arian, priodol efallai fydd talu gwrogaeth i Gymro a geisiodd argyhoeddi ei gydwladwyr o fanteision y dull hwnnw ymron i dri chwarter canrif yn ôl, ac a aeth ymhellach na hynny gan argymell gosod y dull degol o'r neilltu a defnyddio dull desol wedi ei sylfaenu ar ddwsin fel bon. Yn y ddau ddarlun cyntaf gwelir cloriau'r taflenni a gyhoeddwyd ganddo i egluro ac argymell y ddau ddull. Cyhoeddwyd y naill ym 1904 a'r llall ym 1908, ond cyn mynd ati i drafod eu cynnwys gwell nodi tipyn o gefndir rhamantus W. W. P. Williams, Ystalyfera. Brodor o'r Bermo oedd William Watkin Pritchard Williams. Yr oedd ei dad yn gapten llong a gariai lechi o ogledd Cymru i'r Is-Almaen ac mae'n debyg mai ar siwrne o'r fath yr oedd pan garcharwyd ef am bedair mlynedd yn Ffrainc yn ystod rhyfel Napoleon. Ganed William ym 1831, ac yr oedd ef a'i frawd, Watkin Wesley Williams, a'i chwaer, Elizabeth Louiza Williams, ymysg yr ymfudwyr cyntaf i hwylio i Batagonia ar y llong Mimosa ym 1865. Dychwelodd William i Gymru i chwilio am wraig; glaniodd y llong yng Nghaer- dydd, aeth at dylwyth iddo ym Mhontypridd, cafodd wraig dros nos o'r bron, fe'i priododd a dychwelodd y ddau i Batagonia mewn byr amser; ganed mab iddynt ym 1878 a'i alw'n Edwin-enw mawr ei barch yn y Wladfa. Ymddengys fod y teulu wedi symud, gyda nifer o Gymry eraill i Nueva Imperial yn Chili, tua 1888, a chael ffermydd yno, ond oherwydd iddynt gael eu twyllo gan fasnachwr o Almaenwr dychwel- odd y teulu i gyd i Gymru ym 1899. Glaniodd y llong y tro hwn yn Abertawe, ac wedi arhosiad byr yn St. Thomas ger y dociau ymsefydlodd y teulu yn Ystalyfera ac yn ddiweddarach yn Ystradgynlais, gan sefydlu busnes yno. Y cyfeiriad cyntaf oedd: Williams and Son, Pelresva, Ystalyfera-cyfeiriad pur annealladwy nes deall fod dau fwrdd biliards yn gysylltiedig â'r busnes ac fe ellir tybio mai dull Gwladfaol o Gymreigio billiard saloon ydoedd Pelresva, sef lle i rasio peli. Yn ddiweddarach daeth cafe'r Temperance yn ganolfan biliards adnabyddus iawn i drigolion Ystradgynlais, hyd nes i'r perchennog presennol, Mr. Wesley Williams IOLO WYN WILLIAMS Llun I. Clawr y daflen gyntaf a gyhoeddwyd gan W. W. P. Williams ym 1904 (wyr i W.W.P.), roddi enw newydd a thra phriodol arno, sef y Mimosa. Yr oeddwn wedi bwyta yno lawer gwaith cyn mynd ar drywydd y stori hon, ac heb gysylltu'r enw â Phatagonia o gwbl. Ond rhaid troi yn ôl yn awr at y Dull Degol. Daeth y system fetrig ddegol i fodolaeth yn Ffrainc yn fuan wedi'r Chwyldro Ffrengig ac ym 1875 daeth dwy ar bymtheg o wledydd ynghyd ac arwyddo Cytundeb y Metr, gan gytuno i ddefnyddio a hyrwyddo'r unedau metrig. Ymunodd Prydain â'r Cytundeb ym 1885, ond bu'n rhaid aros hyd 1897 cyn gosod Deddf Pwysau a Mesur (Y System Fetrig) gerbron y senedd. Wedi pasio'r ddeddf hen