Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Ffiseg Heddiw IV. Hyd, Amser a Chysonau Goleuni MEWN digwyddiad naturiol mae rhyw rym neu'i gilydd yn creu newid mudiant, ond cyn y gellir disgrifio'r mudiant rhaid inni ddiffinio safonau hyd ac amser. Mae'r safonau hyn yn gwbl fympwyol, ond rhaid iddynt fod yn ddibynnol ac, os yn bosibl, yn gyfleus. Byddaf yn trafod y safonau hyn yn yr erthygl yma, a cheir cyfle i ddarlunio a datblygu rhai o'r syniadau a godwyd yn yr erthyglau blaenorol. Egwyddor y Laser. Lleolir crisial rhwng dau ddrych a wahenir gan nifer cyflawn o donfeddi. Yn y modd hwn fe gytseinir y system i'r donfedd arbennig yma. Yn y grisial cyfyngir egnïon yr electronau rai parthau egni yn unig. Dewisir goleuni amhur fel bo egni'r cwantwm yn ddigon gynhyrfu electron o'r egnïon isaf a'r uchaf. Wedyn, o'r egnïon uchaf mae yna drawsnewid i'w gymryd i'r lefer canolig. Gan fod y system wedi ei chyweirio donfedd arbennig sydd yn cyfateb i'r gwahaniaeth egni rhwng yr ail lefel a'r gyntaf, peri i'r electron ddirgrynu, a syrthio'n ôl i'r egnïon isaf gan belydru cwantwm o'r goleuni arbennig TEGID WYN JONES Hyd gwialen o fetel arbennig a gedwir dan dymheredd cyson ym Mharis yw safon pellter. Ond y mae'n llawer mwy cyfleus i'r gwyddonydd ddefnyddio 'safon eilradd' trwy fesur faint o donfeddi o oleuni arbennig sydd mewn metr. Mae'n bwysig defnyddio goleuni mor bur ag sy'n bosibl, hynny yw, dylai cymysgedd neu 'led' y donfedd fod yn fach, ac un ffordd ddiweddar o wneud hyn ydyw defnyddio laser. Soniwyd eisoes