Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

COLEG Y BRIFYSGOL, CAERDYDD UN O GOLEGAU PRIFYSGOL CYMRU Prifathro: C. W. L. BEVAN, C.B.E., B.SC., PH.D., F.R.I.C. Y mae'r rhan fwyaf o adeiladau'r Coleg ym Mharc Cathays. Darperir cyrsiau ar gyfer graddau Prifysgol Cymru (B.A., B.Sc., B.Sc.Econ., B.Arch., B.Pharm., B.Mus.). Gellir astudio'r pynciau a ganlyn: YNG NGHYFADRAN Y CELFYDDYDAU Cymraeg, Saesneg, Lladin, Groeg, Ffrangeg, Almaeneg, Eidaleg, Sbaeneg, Portwgaleg, Hebraeg, Athroniaeth, Efrydiau Beiblaidd, Hanes, Hanes Cymru, Cerddoriaeth, Archaeoleg, Addysg, Mathemateg, Seicoleg, Economeg, Cyfraith. YNG NGHYFADRAN EFRYDIAU ECONOMAIDD A CHYMDEITHASOL Economeg, Cyfraith, Athroniaeth, Cyfrifyddiaeth, Cysylltiadau Diwydiannol, Seicoleg, Gweinyddiad Cymdeithasol, Cyfarwyddo a Rheoli Gweithwyr, Gwyddor Gymdeithasol, Gwleidyddiaeth, a Chymdeithaseg. YNG NGHYFADRAN GWYDDONIAETH Mathemateg Bur, Mathemateg Gymwysedig, Ffiseg, Cemeg, Llysieueg, Swoleg, Microbioleg, Daeareg, Anatomeg, Ffisioleg, Biocemeg, Meteleg, Mwyngloddiaeth, Peirianneg Sifil, Peirianneg Fecanyddol, Peirianneg Drydanol ac Electronig, Seicoleg, Archaeoleg, ac Economeg. Y mae gan y Coleg neuaddau preswyl ar gyfer dynion a merched. Ceir hefyd feysydd chwarae, gymnasiwm, ac Undeb Myfyrwyr. Rhoddir nifer o ysgoloriaethau bob blwyddyn gan y Coleg ar sail canlyniadau'r flwyddyn gyntaf. Adeiledir yn awr Ganolfan Cyfrifiaduron i ddal cyfrifiadur English Electric 4.S0. Gellir cael manylion pellach oddi wrth y Cofrestrydd. YSGOL FEDDYGOL GENEDLAETHOL CYMRU, CAERDYDD (PRIFYSGOL CYMRU) Llywydd: SYR CENNYDD TRAHERNE, K.G., T.D., LL.D., M.A., J.P Pennaeth: J. P. D. MOUNSEY, M.A., M.D., F.R.C.P. Cofrestrydd: T. R. SAUNDERS, B.A. Darperir cyrsiau ar gyfer graddau meddygol Prifysgol Cymru (M.B., B.Ch., B.D.S.). Dylid dychwelyd y ffurflenni cais i Ganolfan Ceisiadau am Fynediad i'r Prifysgolion, G.P.O. Box No. 28, Cheltenham, GL50 1 HY, erbyn 15 Rhagfyr. Gellir gwneud cais cyn cael y canlyniadau'r arholiad a gydnabyddir gan y Brifysgol am matriculation. Ceir hefyd gyrsiau ar ôl gradd, sy'n arwain i ddiploma mewn Iechyd Cyhoeddus (Cymru), a diploma mewn Darfodedigaeth a Chlefydau'r Frest (Cymru), a gellir cael manylion pellach oddi wrth y Cofrestrydd. Dylai'r rhai sydd am ymgymryd ag astudiaethau meddygol neu ddeintyddol gael eu ffurflenni cais oddi wrth eu hysgolion neu golegau neu oddi wrth y Cyngor Canolog, G.P.O. Box No. 28, Cheltenham, GL50 1 HY. Dylid anfon ceisiadau i'r Cyngor Canolog erbyn 15 Rhagfyr yn y flwyddyn sy'n blaenori'r flwyddyn y disgwylir cychwyn ar y cwrs. Dylid cyfeirio pob ymholiad ynglyn â'r cyrsiau at y Cofrestrydd, 34 Newport Road, Caerdydd.