Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Cyffuriau Cynnar Cymru Ychydig iawn o gyfeiriadau at feddygaeth a geir yn llenyddiaeth gynnar Cymru, a chan mai ar lafar ac ar gân y trosglwyddid yr hyn sydd ar gael, mae'n anodd penderfynu ai sôn am fywyd bob dydd a wneir neu'n hytrach ai rhan yw'r cyfan o ddelfryd y bardd. Y Derwyddon Yn sicr roedd yr hen Gymry yn ymarfer y gelfyddyd o wellä'r claf mor bell yn ôl â 1000 c.c. pan sonir amdani fel un o'r naw celfyddyd wledig. Yn ddiweddarach daeth astudio meddygaeth yn rhan o waith y Derwyddon gan gyfuno felly swydd yr offeiriad gyda swydd y meddyg. Ac yn aml, er eu bod yn gyfarwydd ag enwau a defnyddioldeb llawer iawn o blanhigion a llysiau meddyginiaethol eto i gyd byddent yn dibynnu llawer ar ddulliau swyn a lledrith i drin afiechydon. Roeddynt yn dal na fyddai planhigyn o unrhyw werth oni chyflawnid defodau cyfrin arbennig wrth ei hel a'i baratoi. i:r enghraifft, cyn casglu'r llysieuyn Briw'r march Verbena officinalis) roedd yn rhaid arllwys offrwm I fêl ar y tir o'i amgylch. Wedi'r offrwm, gellid asglu'r planhigyn ond roedd yn rhaid gwneud DAVID BAILEY Mae'r Dr. David Bailey yn ddarlithydd yn Ysgol Fferylliaeth Cymru, Athrofa Gwyddoniaeth a Thech- noleg Prifysgol Cymru. Addysgwyd ef yn Ysgol Taunton, Gwlad yr Haf, a Phrifysgol Llundain IIe graddiodd yn B.Pharm. ac yn Ph.D. Rhyddhawyd ef o'i swydd yn 1965 i ymweled ag Adran Fferylliaeth Prifysgol Ife (Nigeria) am flwyddyn. Mae'n briod a chanddynt unferchfach. Mae'n byw yn Llanbedr-y- Fro ac yn ei amser sbâr yn trin yr ardd-a'r bel griced. Mae ganddo hefyd ddiddordeb arbennig mewn cyflwyno gwybodaeth wyddonol i'r cyhoedd ac y mae'n ddarlithydd gweithgar gyda chyrff megis Cymdeithas Addysg y Gweithwyr, y Gymdeithas Brydeinig, Coleg Harlech ac ati. hynny â'r llaw chwith yn unig, a phan fyddai'r haul a'r lleuad islaw'r gorwel a'r seren Sirius (y Ci Mawr) yn codi. Dim ond ar ôl ufuddhau yn ofalus i'r cyfarwyddiadau hyn y gellid disgwyl unrhyw ganlyniad o rinwedd cyfrin y planhigyn 'i atal twymyn, sicrhau cyfeillgarwch a chael popeth a ddymunai'r galon'. Ffwlbri neu gyfrwystra? Mae'n rhyfedd bod dynion oedd â safonau uchel o ddiwylliant mewn cyfeiriadau eraill yn credu'r fath honiadau. Tybed nad yw'r cyfeiriadau at y tri bod nefol amlwg-yr haul, y lleuad a seren y Ci Mawr, yn ddim ond ffordd o ddweud ar ba adeg o'r flwyddyn y dylid casglu'r planhigyn. Mae'n ddigon posib bod y meddygon cynnar wedi sylweddoli bod gallu biolegol amryw o blanhigion yn amrywio yn ôl yr adeg o'r flwyddyn y cesglid hwy, ac mai ffordd o nodi hyn am friw'r march oedd yr holl druth di-synnwyr yma. Eglurhad symlach, wrth gwrs, yw fod y Derwyddon yn ddigon cyfrwys i sylweddoli bod y fath ddefodau yn sicr o gryfhau ffydd y claf yng ngallu'r moddion.