Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

AROLWG: archwiliad; S. survey. CRAMEN (y ddaear): crawen; S. crust. CYFANSODDYN: S. constituent, component. CYFRIFIADUR, 11. -ON: S. computer. DADANSODDIAD SYSTEMAU: S. systems analysis. DWYSEDD: cyfartaledd y pwysau i'r folum; S. density. DNA: y cemegolyn sydd yn rheoli'r broses o drosglwyddo nodweddion o un genhedlaeth i'r llall. esblygiad: datblygiad organebau gyda threigliad amser; S. evolution. FALENS, 11. -IAU: ffactor sydd yn rheoli cysylltiad cemegol rhwng atomau; S. va/ency. FENTRIGL: bolgell y galon; S. ventricle. GWYTHÏEN: pibell yn y corff i gario'r gwaed i'r galon; S. vein. hormon: y cemegolyn sydd yn angenrheidiol i reoli prosesau'r corff a'r nodweddion rhywiol; S. hormone. PWYLLGOR ADDYSG DINAS CAERDYDD Darperir Cyrsiau Addysg Bellach yn y Colegau a ganlyn. Gellir cael copi o'r prospectws a manylion pellach oddi wrth y Prifathro. (a) COLEG ARLUNIO CAERDYDD (Y 'Friary', Caerdydd) Diploma mewn Arluniaeth a Chynllunio. Diplomâu'r Coleg mewn Hysbysebu Arluniaeth, Gwisgoedd a Hyfforddiant Athrawon. Cyrsiau rhan-amser mewn Brodwaith, Peintio, Addurno, Ffotograffiaeth ac Argraffwaith. (b) COLEG CERDD A DRAMA (Y Castell, Caerdydd) Cyrsiau-tair-blynedd mewn Drama a Cherddoriaeth ar gyfer darpar-athrawon. Hyfforddiant unigol ym mhob agwedd ar Gerddoriaeth a Drama. (c) COLEG ADDYSG CAERDYDD (Heol Cyncoed, Caerdydd) Tystysgrif Athro a chyrsiau B.Ed. Cwrs atodol mewn Ymarfer Corff (dynion). Hyfforddiant proffesiynol ar gyfer myfyrwyr sy'n arbenigo mewn Cerddoriaeth a Drama. (ch) COLEG TECHNOLEG BWYD A'R COLEG MASNACH (Colchester Avenue, Caerdydd) Cyrsiau ym mhob cangen o Arlwyaeth a Phobyddiaeth. Cyrsiau mewn gwaith cymdeithasol a chyrsiau-trin-gwallt. (d) COLEG TECHNEGOL LLANDAF (Western Avenue, Caerdydd) Cyrsiau mewn Adeiladwaith, Trydaneg a Pheirianneg hyd at H.N.C. Cyrsiau eraill mewn Gwyddoniaeth Gymwysedig, Mathemateg a'r Gwyddorau Meddygol. (dd) COLEG TECHNEGOL RHYMNI (Trowbridge Road, Caerdydd) Cyrsiau mewn Peirianneg, Gwyddoniaeth Gymwysedig a Mathemateg. (f) COLEG MORWROL REARDON SMITH (Plasmawr Road, Caerdydd) Coleg Preswyl sy'n darparu cwrs-blwyddyn ar gyfer bechgyn sydd â'u bryd ar yrfa yn y Llynges Fasnach. Swyddfa Addysg, Kingsway, ROBERT E. PRESSWOOD, Caerdydd. Cyfarwyddwr Addysg. Geirfa HYDROLEIDDIO: ychwanegu dwr drwy adwaith gemegol; S. hydroìyse. HYGYRCH: hawdd mynd ato, o fewn cyrraedd; S. accessibility. MEINWE, 11. -OEDD: S. tissue. METABOLEIDDIO: y proses o dreulio cemegolau neu fwydydd gan y corff; S. metabolize. MWYNDER GWLAD: S. amenity. ocsidio: ychwanegu ocsigen drwy adwaith gemegol; S. oxidise. RHYDWELI: gwythïen fawr; S. artery. SYNTHESIS: adeiladu molecwl allan o folecylau llai, cydieuad; S. synthesis. tocsicoleg: y wyddor sydd ynglyn â gwenwyn, gwenwyneg; S. toxico/ogy. YMBELYDROL: elfen yn taflu allan belydrau o'i du mewn; S. radioactive.