Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

BYD Y MERCHED. Welsoch chwfr Crepe- Sidan Newydd Çan MEGAN ELLIS DY'MA'R adeg o'r flwyddyn pan ddaw rhai defnyddiau newydd i'r golwg. Un o'r mwyaf atyniadol ohonynt yw crêpe a wnaed yn gyfangwbl o sidan, er nad oes arwydd o hynny i'w weld arno. 'Welwch chwi 'run fflach yn unman ar ei wyneb a gallai ei effaith chwyddedig yn hawdd fod yn eiddo defnydd gwlân. Ond os cyffyrdd- wch ag ef fe welwch ar unwaith beth ydyw, oherwydd er iddo edrych yn arw, teimlad sidan sydd iddo. Y mae'n un o'r crêpes mwyaf atyniadol, ac fe broffwydir poblog- rwydd mawr iddo. Mi hoffais i'r lliwiau yr oedd y crêpe hwn wedi'i lifo ynddynt. Du tulip—yr eiliw coeth hwnnw sy'n debyg ar yr olwg gyntaf i liw resins, sef y peth agosaf i ddu y gallodd y tyfwyr bylbau ei gael-brown tywyll, coch tywyll tywyll, gwyrdd, gwyngoch bwyd llyffant, dyna oedd rhai o'r lliwiau. Y mae'r crêpe yn ddefnydd gwerth ei ystyriaid-yn newid hyfryd oddi wrth satin ac yn gyfnewid hwylus am y defnyddiau teneuach. Satin Pwyth Diddorol gweld satin pwythedig yn dyfod yn ôl i'r ffasiwn. Defnyddiau mindlws, coeth yw'r rhain oherwydd y mae'r patrwm wedi'i wau iddo, yn lle ei argraffu'n unig. GOWN SATIN DF wedi'i hysgafnhau â iau o ddefnydd dixglair. Cynlluniau lled fawr- eddog a geir 'does dim llawer o fynd bellach ar y patrymau chintz bach hynafol. Lliwiau golau sydd i rhan fwyaf o'r defn- yddiau satin brocâd hyn. Mi welais lawer o gyfuno ar frocâd â rhyw ddefnydd arall. Mewn un ffroc ddawns yr oedd y sgert a'r corff yn satin meddal gwyn-goch a'r llewys yn frocad goleuach. Yr oedd gwregys cul o'r un brocâd yn y wisg hon, wedi'i addurno y tu ôl a'r tu blaen â bwclau past bychain. ADDURN MIRAIN. Gafaelion yw'r hoff addurniadau ar wisgoedd yn awr. Addurn arall yw gwydr tro. Peth mirain iawn yw hwn, addas i ddefnyddiau hardd yn unig. Bathwyd y rhain gan fysedd celfyddus, ar ffurf blodau neu gylchau; ond prin y credaf y dônt i fri mawr oherwydd mor frau ydynt. Yna fe gawn y gleiniau o bob math- beads-a roir ar frodwaith gownau, gydag effaith hudol. Y mae gleiniau ar goleri a chyffiau wedi mynd â'r ffansi'n hollol ac fe'u gwelwch mewn llawer o liwiau a maint yn ôl fel y bo'r patrwm. Bids tseni gwyn pwl yw'r mwyaf defnydd- iol i'r diben hwn ac y mae'n anodd dweud, o bell, pun ai gleiniau ai lasiau ydynt. Dibynna llwyddiant yr effaith ar fod pob glain yn gorffwys yn wastad yn ei Ue a rhaid gwau pob un yn gadarn yn y cynllun. Edrych coch bron mor effeithiol â gwyn ar ffroc ddu a gellwch doddi bids lliwiog i mewn i ffroc wau yn llwyddiannus iawn. PREN AT ADDURNO. Y mae addurnwyr yn defnyddio mwy a mwy ar bren i addurno tai, a 'does dim sy ratach na choed i ddiweddaru ty. Gyda hanner dwsin o estyll ffawydd, er enghraifft, chwi ellwch weddnewid cymeriad ystafell fwyta neu eistedd, am ychydig sylltau o gost. Defnydd gwych at wneuthur astelli llyfrau, mewn cilfachau o boptu'r lle tan, yw hwn a gellwch drefnu i roi un neu ddau o gypyrddau ynddynt yr un adeg. UN O'R MODELAU SIDANWE NEWYDD. Y mae wyneb y patrwm wedi'i godi i'r down hon sydd â thoriad-awddf ar ffurf calon a llewys pwff. Dylid ystaenio'r astelli â staen cnau- ffrengig cyn eu sgriwio yn eu Ue. Y maint mwyaf cyffredin yw, 81 modfedd o ddyfn, 5/6 modfedd o drwch a naw modfedd rhwng dwy astell. Gellir defnyddio coed plyg at lu o ddi- benion. Gosod darnau mawr ohono ar ddrysau hen ffasiwn i'w troi yn ddrysau undarn cuddio silffau-pen-tân hyll, heb eu symud llunio muriau-gwneud, gan adael graen y pren os mynner fel addurn; rhoi sgwariau ohono, wedi eu caboli â chwyr, dros lawr pren cynt, i ddynwared llawr blociau pren. Y mae llawr cabol felly yn hawdd iawn ei gadw'n lân a del. PREN AT ADDRNO'R CABTRE—gellir gorchuddio silff-ben-tân anhardd heb orfod ei symud.