Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Barn darllenwyr Y Ford Gron A YDYW'R CYMRY YN WASAIDD ? DYWAID Mr. Tom Jones yn rhifyn diwethaf Y Ford GRON mai cenedl wasaidd ydym, a bod Môn yn frith o Gymry glastwraidd. Nid gwasaidd pob gwasanaeth, ac nid caethwas pob gwas. Nid yw peidio â bod yn llew yn golygu bod yn rhaid bod yn ddafad. Nid Glastwr pob llaeth heblaw hufen. Y mae hanes Cymru'n wyrth ymhlith hanes cenhedloedd y byd rhyfeddod yw bod Cymry a Chymraeg yr hyn ydynt a dim cymaint â Chlawdd Offa'n derfyn rhyngom â chenedl eiddgar a beiddgar y Sais. Dameg i'r byd Y mae'n hanes yn ddameg hefyd yn hanes y byd gall Geneva edrych i mewn iddo i weld fel y medr cenedl fod, a byw, heb golli ei hunaniaeth yn ymyl un arall gryfach na hi ei hun, a hynny heb derfynau daear- yddol na milwrol yn eu gwahanu oddi wrth ei gilydd. Wrth gwrs, ni ellir honni bod perthynas Cymru â Lloegr yn ddelfryd, ond gellir honni fod iddi ei nodweddion campus. Y mae'r clod am y daioni sydd ynddi i fynd, beth i'r Sais, ond y rhan fwyaf i'r Cymro, am mai ef yw'r gwannaf o'r ddau, ac mai ef sy wedi gorfod ymostwng i'r llall amlaf. Ond er bod y pen praffa i'r ffon gan John Bull, eto mae Ieuan ab Ieuan yn llawn mor anfarwol yn hanes y byd. Rhaid cymryd a rhoi i gael cydweithrediad a datblygiad; a'r hwn a rydd fwyaf yw'r arwr gorau. Y Genadwri Gogoniant hanes Cymru yw gwasanaeth ei meibion i'r byd a phe bai'r gwasanaeth hwn yn wasaidd, buan iawn y collsai ein gwlad ei hannibyniaeth odidog. Dyma genadwri Cymru i'r dyfodol, bod yn drwyadl Gymreig a gwasnaethu ei chymdogion a dynoliaeth yn heddychol ac urddasol. Hwyrach y cyll hi rai pethau nodwedd- iadoi ohoni ei hun, ond yn ddios, bydd gan y Cymro yn 2933 a 3933 Ie i godi ar ei draed yn hyf a dweud Fy iaith, fy ngwlad, fy nghenedl." T. TREFOR JONES. Rhuthin Ysbryd Cymru. Y MAE Cymru yn Gymru rydd neu'n Gymru gaeth, yn Gymru ddewr neu'n Gymru lastwraidd-a defnyddio gair Mr. Tom Jones yn rhifyn Medi o'r Ford GRON- yn union yn ôl safbwynt meddwl ei thrigolion. Y gri ym Mhrydain heddiw yw am i rywun godi i arwain, rhyw ddyn cryf â gweledigaeth o'i flaen yn barod i dorri ac i fathru er mwyn cwpláu ei gynlluniau. Hyd y gwelaf yn awr nid oes ffordd yn agor yn unman er gwaredigaeth; bydd i gaethdra pen-reolaeth greu ysbryd gwyllt am ryddid a'r rhyddid hwnnw yn ei dro greu galw am ben-reolaeth drachefn. Byddwn yn troi fel olwyn, ond cofiwn y byddwn fel olwyn yn mynd ymlaen wrth droi. Yr ysbryd'newydd ? Un cynllun fu mewn bod i'r Prydeiniwr hyd yma, ein cynllun ni. Yr oedd gan Brydain nerth i orfodi pob gwlad arall i wneud ffordd iddi. Ond y mae cynllun mawr amser yn fwy na'r rhain, yr oedd mwy o rym o'i ôl a mwy o bwrpas o'i flaen. Rhaid drysu cynlluniau dynion a llywodraethau i wneud lle i hwn. Y mae llythyr Mr. Jones yn dangos ffordd meddwl sy wedi ei ddatblygu mewn oes o genedlaetholdeb. Y mae'n methu cyrraedd ystâd uwch cyd-genedlaetholdeb na gweld rhagoriaeth yr ysbryd newydd sydd i feddiannu'r byd. Y prawf mwyaf Y mae y dyn sy'n ceisio meithrin yr ysbryd cenedlaethol heddiw fel dyn yn Uamu'n ôl i'r oesoedd canol a rhedeg i un o gastelh'r cyfnod hwnnw i ymochel rhag tân-belennau lluoedd awyr yr ugeinfed ganrif. Rhyfedd bod cymaint o bobl yn meddwl mai'r prawf mwyaf o gariad at wlad yw i ddyn weiddi'n ucbel ar bennau'r tai ei fod yn barod i farw drosti, er nad oes alw o gwbl arno i wneud y fath beth a bod honno'n un o'r ffyrdd mwyaf di-effaith o wasnaethu gwlad. Cofiaf ddysgu yn yr ysgol y geiriau hynny For how can man die better Than facing fearful odds, For the ashes of his fathers And the temples of his gods ? Dyna mewn pennill fach gri fawr cenedl- aetholwyr yr oesoedd a'r gwledydd, y gri am wneud rhywbeth a eilw'r Sais yn spectacular" a'r peth mwyaf spectacular mewn oes felodramatig yw marw. Y rhai di-stwr Tra ydynt hwy'n gwneud hyn, y mae eraill yn gwneud gwaith llawr anhaws yn ddi-stŵr, sef ceisio byw dros eu gwlad. Llawer mwy teilwng i fyw neu farw drostynt na Uwch y cyndadau a themlau duwiau'r gorffennol yw'r cenedlaethau di-ri sydd i'n dilyn ar y ddaear, ac sy'n dibynnu arnom ni am eu rhyddid o ran corff, ysbryd, a chymdeithas. Gwahaniaeth mawr Y mae gwahaniaeth mawr rhwng gwlat- garwch a chenedlaetholdeb. Y mae gwlat- garwch yn rhan hanfodol o ysbryd dyn. Nid cenedlaetholdeb sydd am wneud i bobl ieuanc Cymru siarad y Gymraeg ond synnwyr cyffredin. Dywaid Mr. Jones yn ei lythyr fod yr iaith yn cael ei hanwybyddu ar ein prif gynghorau. Gan bwy ? Pobl ganol oed sydd ar y cynghorau a'u oywilydd hwy ydyw os yw'r iaith dan gwmwl yno. Gwn ddigon am bobl ieuanc Cymru i ddweud eu bod yn siarad mwy a gwell Cymraeg nag a siaradwyd erioed gan eu rhieni. Drwg gennyf os yw Mr. Jones wedi bod yn ceisio dyfod o hyd i'r Cynny ieuanc mewn carnifál. Y mae ysbryd carnifál yn ddieithr hollol i'r Cymro. Nid oes unpeth mwy digalon i'w weld nag ambell Gymro wedi ymwisgo fel un o'r Tylwyth Teg ond â golwg cynhebrwng ar ei wyneb. J. WILLIAMS HUGHES. Marian Glas, Môn. "Ll" eto. TEIMLAF yn ddiolchgar i Mr. A. F. MacLean am ateb fy llythyr a'm gofyn- iadau. Nid oedd seiniau cul a seiniau Uydain yr Aeleg yn hysbys namyn i ychydig ohonom. Yr vm tan ddyled i'n cyfaill am gyfeirio'n sylw atynt. Cyfeiria Mr. MacLean at ddisgrifiad Syr. J. Morris-Jones o'r sain 11 Gymraeg. Yna awgryma gasghad nas cyfiawnheir gan y ffeithiau. Nid sain daflod mohoni ac jmn- hellach fe'i chwythir yn egnïol. Mi fûm yn sgwrsio ag Eidalwr o Aber- ystwyth ynglŷn â'r gl Eidalig, ac fe fu yntau mor fwyn â seinio gli, egli, a geiriau tebyg. Y gwahaniaeth cyntaf rhwng y sain hon a'r Gymraeg yw bod y Gymraeg yn untu a'r sain Eidalig heb fod felly yn gyffredin. Y mae gwahaniaeth hefyd yn y fan gynhanu. Ymddengys mai sain o fôn y dannedd yw'n 11 ni; eithr sain o daflod y genau yw'r sain Eidalig. Dwy gytsain daflod yn unig sydd yn y Gymraeg, sef y Ued-lafariad i mewn geiriau fel ias, a'r hi a geir weithiau mewn geiriau fel hiaith, fel yr yngenir hi gan rai Cymry. Y mae'r trydydd gwahaniaeth yn y dull cynhanu. Sain ochr yw'r sain Eidaleg, sain ochrol-laes yw'r Gymraeg. Mi gymherais U a'r gl Eidaleg am fod yr awdurdodau Gaelig yn dweud bod eu l gul hwy'r un fath a'r gl Eidaleg. Tybed a oes ychydig rwbiad i'r sain mewn rhannau o'r Alban ? Y mae'r l iydan yn berthynas nes i'n sain ni, a barnu wrth ddisgrifiad Mr. MacLean ohoni. Fe ganfyddir ei fod yn gwahan- iaethu rhywfaint oddi wrth Mr. George Henderson yn ei ddisgrifiad ohoni, ond fel y dywaid, ei farn ef ei hun sy yn ei lythyr. Fe sylwir nad yw'r hon yn untu fel yn y Gymraeg. Gan fod ein cyfaill wedi cyfarwyddo cryn lawer ohonom ynglŷn â'r sain Aelig, gwych o beth, petai rhyw Wyddel neu frodor o Ynys Manaw yn rhoi disgrifiad inni o'u l ddilais hwythau. Dywaid Syr John Rhys ym Manx Phonology, tud. 147, fod yr hl yn dua IÀieau (dau fynydd) yn seinio'n debyg i'n sain ni. Dywaid yr Athro T. Gwynn Jones wrthyf ei fod ef wedi clywed yr U Gymraeg ym Munster, Iwerddon. GLANMOR DAFIS. Ceinewydd, Ceredigion.