Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

BYD Y MERCHED. Disgwyl am Ddillad y Gwanwyn Gan MEGAN ELLIS. YCHYDIG o ddim byd newydd sydd i'w weld yn ffasiwn Ionawr. Ond y mae llawer o wisgoedd del iawn i'w cael y dyddiau yma hefyd. Fe ddaw dillad newydd y Gwanwyn i'r siopau gyda hyn. Rhoddaf ddarlun dwy ffrog heddiw. Y mae un wedi ei gwneud o ddefnydd gwlân lliw khaki, gyda sgarf o grêp brown wedi ei leinio â'r un defnydd. Y mae'r llall o wlanen fain, wyrdd. Fe sylwir bod pen y sgarf a'r gwregys wedi ei wau o edafedd beige. Bydd llawer yn falch o glywed bod y ffasiwn Magyar (o wlad Hungari), wedi dyfod yn ôl. Y mae'n hynod o dlws. Yn y darlun gwelir llun ffrog wedi ei gwneud ag eddi (laes) o liw coffi, dros bali (satin) brown, a'r vest a'r belt o'r un pali i weddu. Gwelais un arall mewn gwlanen frown a beige, wedi ei thrimio â botymau enamel gwastad, lliw brown ac aur. Yr oedd y cyffiau wedi eu llunio ar ffurf gauntlets ac yn cyrraedd o'r penelin at yr arddwrn, rhes o fotymau ar bob llawes i weddu, a dau fotwm mawr ar y gwregys. FFROGIAU ADDURN. Ffrog arall ddel iawn oedd un mewn crêpe gwlân gwyrdd, a choler o'r un defnydd. Fe welir syniad newydd yn y ddwy ffrog sydd ar y tudalen gyferbyn. Bydd yn hawdd trimio ffrog a'i gwneud yn ddel y ffordd yma heb lawer o gost. Y mae'r rhain wedi eu D WY FFROG WLANEN. un werdd ac un khaki. gwneud o wlanen, un lwyd ac un frown. Gydag edafedd wlân a sidan y gwneir y brodwaith. Y mae merched Bulgaria a Roumania yn hoff iawn o addurno'u gwisgoedd gyda'r gwaith hwn. LLIW'R WAWR A'R RHOS. Diddorol iawn fyddai inni i gyd ben- derfynu pa hw fydd yn cael yr effaith orau arnom. D y wedjr bod i bob lliw ei rin- wedd arbennig. Er enghraifft, y mae glas yn lliw ysbrydol trwy ei ddylanwad gellir lleddfu poen, tawelu tymer a gor- ffwys oddi wrth flin- der. Y mae gwyrdd emerald yn peri i'r hen a'r canol oed deimlo'n ifanc ceir ffydd a hyder a hapusrwydd drwyddo. Lliw brenhinol yw porffor, lliw delfrydau uchel. Lliw iechyd yw oraen mae'n tarddu o galon bywyd ei hunan. I bobl mewn oed, y mae coch ueiyu yn lliw priodol, ac fe rydd lawer o bleser iddynt. Chwiha'r ifanc am y lli w ys- blennydd sydd i'w gael mewn rhosyn neu wawr wridog y bore. UN LLIW DRWY'R TY. Y mae'n bwysig inni gymryd gofal gyda Uiwiau'n dillad. Dylem hefyd ofalu am hwiau'n tai, yn enwedig y tu mewn. Y mae'n bosib 1 gwneud pob ystafell yn siriol wrth weld bod y L.wiau ynddi yn cyd.veddu. F FROG o ìaes lliw coffi, a satin broum. I ystafell sy'n wynebu'r gogledd, y mae lliw heulwen neu oraen yn well na lliw gwyrdd neu las. Buasai lliw gwyrdd gwan, neu las golau, yn well mewn ystafell sydd â llawer o haul arni. Y mae lliw hufen neu frown golau yh lliw dymunol iawn os bydd arnoch eisiau dangos darluniau hardd ynddi. Y mae'r arferiad ddiweddar o gael un lliw drwy'r tý ­os nad yw'n dý mawr iawn­ yn ddymunol a chelfydd. Y Siswrn. 'Does dim byd, bron, mwy hylaw mewn cegin na siswrn, ac unwaith y bydd wedi cael ei Ie, ni feddylir gwneud hebddo. Beth mor hwylus â siswrn i dorri'r llinyn wrth godi'r pwdin berw o'r dŵr i dorri'r llinyn sy'n rhwymo ffowlyn, cyn ei roi ar y ddysgl i fynd ar y bwrdd i dorri croen bacwn a thrimio cwtledi neu stêc i dorri esgyll pysgodyn i drin llysiau fel persli neu ferw'r dŵr i dorri gwraidd bresych neu cauliflower ? Hyd yn oed pan eir i'r ardd i hel blodau, bydd siswrn yn well na dim at y gwaith. Gellir defnyddio siswrn i dorri'r croen, ar ôl chwarteru a philio'r oraens, at wneud marmled, neu at candied peel os bydd brys, gellir torri'r darnau jeli hefyd, cyn rhoi dwr cynnes arno. Gofaler bod y siswrn yn cael ei olchi a'i sychu'n hollol sych cyn ei roi ar yr hoel a