Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Yr oedd Hwfa Môn yn yr Eisteddfod gofiadwy honno. Ar ôl yr Eisteddfod, gwahoddwyd y ddirprwyaeth Lydewig y daeth Taldir gyda hi, i Gastell Llanofer, gan Lady Gwenynen Gwent. "Pwyntil Meirion." YMAE Taldir yn un o'r beirdd mwyaf a gododd Llydaw. Bar- gyfreithiwr oedd ei dad, a diddorol ydyw deall mai Anna Roparts (ffurf arall ar Roberts ") oedd enw ei fam cyn priodi. Cyhoeddodd Taldir y gyfrol gyntaf o'i farddoniaeth, An Hirvoudou (Yr Ochen- eidiau) yn 1899, a derbyniodd y bardd ifanc amryw lythyrau o Gymru yn ei longyfarch. Ymysg eraill, oddi wrth John Edwards (Pwyntil Meirion), arlunydd o Flaenau Ffestiniog, oedd yn efrydu ym mhrifddinas Ffrainc ar y pryd. Dros yr iaith. YNA dyma Taldir yn seinio utgorn yr Eisteddfod yn Llydaw, gan wahodd holl feirdd poblogaidd y genedl, ei llen- orion a phob un oedd yn barod i ymladd dros iaith y wlad. Codwyd Gorsedd Llydaw yn Guingamp yn 1900. Mabwysiadodd Gorsedd Llydaw reolau Gorsedd Beirdd Cymru gyda chan- iatâd ysgrifenedig Hwfa Môn a Chadfan. Dysgu Cymraeg. WEDI graddio ym Mhrifysgol Rennes, dychwelodd Taldir i Car- haix. ac agor swyddfa argraffu. Cyhoeddodd bapur newydd Llydewig- Ar Bobl," a chylchgrawn llenyddol-" Ar Vro." Rhwng 1899 a 1914 cyhoeddodd Taldir amryw o gyfrolau o'i farddoniaeth ef ei hun, ac o dro i dro daeth drosodd i Gymru ac Iwerddon er mwyn ei drwytho'i hun yn yr Awyrgylch Geltaidd," chwedl yntau, ac er mwyn ceisio perffeithio'i Gymraeg a'r Wydd- eleg. Cyhoeddwyd rhifyn cyntaf y cylchgrawn chwarterol An Oaled (Yr Aelwyd) gan Taldir yn 1927, ac yn ddiamau dyma brif gylchgrawn llenyddol Llydaw. Anrhydeddwyd ef gan Lywodraeth Ffrainc pan gyflwynwyd ef ag un o brif fedelau llên Fframc-la rosette d'Officier de l'Instruction Publique-i gydnabod yn swyddogol ei gyf- raniad pwysig i lén Ffrainc. Dyddiau'r Rhyfel. DIDDOROL yw darllen atgofion Tal- dir am y rhyfel. Swyddog ym Myddin Ffrainc ydoedd ond gan ei fod yn deall y Saesneg, danfonwyd ef i was- naethu fel cyfieithydd gyda'r 37th Division (General Bruce Williams). Yr wyf yn cofio'n dda," meddai, imi fod yn Caudry ryw ddiwrnod ychydig wedi M. Francois Jaffrenou ("Taldir"). dydd y cadoediad. Clywais ganu'n dyfod o ryw cabaret, ac er fy mod gryn dipyn oddi wrtho, medrwn adnabod y miwsig fel miwsig Celtig, ac fel yr oeddwn yn dyfod yn nes at y cabaret, gwyddwn yn iawn beth oedd yn cael ei ganu a gwyddwn hefyd, hyd sicrwydd, pwy oedd yn canu. Dyma'r geiriau a glywais ar yr awel '` Rhwym wrth dy wregys, gleddyf gwyn dy dad nes bod fy nghalon yn carlamu fel mydr y rhyfelgyrch hon. Bechgyn Cymru. FFWRDD â mi i mewn at y bechgyn -bechgyn Cymru, wrth gwrs, ac wedi iddynt orffen canu, dyma fi'n dweud wrthynt Da iawn, fechgyn! Yr un caniad sy' gennym yn Llydaw hefyd, ac os gwelwch yn dda, mi ganaf i chwi'r pennill cyntaf ohoni.' Syndod mawr ymhhth y boys A dyma finnau-uno feibion Llydaw-yn canu fel hyn i'm cefndryd o Gymru Sao, Breiz Izel, d'an nec'h da vannielou Ruziet gant gwad hon c'hent-tadou UN O GANTORESAU CYMRU LLYFR YSGRIFAU POSTMAN Curo dwylo. YR oedd yìbechgyn wrth eu bodd, ac yn canmol ac yn curo'u dwylo. Yr oedd rhai ohonynt hefyd wedi syfrdanu tipyn. Ebe un Da iawn. Y mae'r ddwy gân yn bur debyg i'w gilydd, ond yn neno'r tad, o ba ran o Gymru ydych chi'n dod ? 'Dwyf i ddim yn rhyw siwr iawn o'ch acen chi." Gyfaill,' meddwn innau, nid Cymro mohonof, ond Llydawr.' Tybed ? Cyboli yrIydych chi, sjt ? etc., etc. Nid Cymro ydw-i,' meddwn drachefn. Wel, ynte, 'fuoch chi'n gwerthu wnionod yng Nghj-mru ? Wel, naddo, ond yr ydwyf yn falch o'ch hysbysu fy mod wedi fy ethol i blith Beirdd Cymru.' Canu penillion. GRLFFITH oedd enw'r bardd hwnnw, ac meddai'r milwr arall wrtho Adrodd yr awdl ddaeth â dwybunt iti yn y Bala.' Er fy llawenydd, dyma Grifnth yn cyd- jmffurfio â'r gair, ac yn canu nifer o benillion tlws iawn." Priodi Cymraes. LLYDAWR diddorol arall ac un o gyfeillion Taldir yw'r Dr. Pol Diverres, athro Ffrengig yng Ngholeg Abertawe, sy wedi priodi Cymraes, sef Telynores Gwalia. Y mae yntau wedi gwneud gwaith rhagorol ynglvn â hyrwyddo iaith ei wlad. Bu ar staff y Llyfrgell Genedlaethol am flynydd- oedd, ac y mae'n awr yn ddarlithydd yng Ngholeg Abertawe. Caledfwlch. GYDA llaw, drwg iawn oedd gennyf glywed mai dal yn bur llesg y mae Kaledvoulch (Caledfwlch), sef Monsieur Yves Berthou, Archdderwydd Llydaw, o hyd. Y mae Kaledvoulc'h yn awr wedi cyrraedd gwth o oedran, ac wedi rhoi ei oes at wasanaeth ei wlad. Syr Beauyr.