Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

BLWYDDYN NEWYDD DDA CYMREICTOD GWR O LYDAW LWYDDYN NEWYDD DDA i holl ddarllenwyr Y Ford Gron." Beth bynnag am annifyrrwch y byd yn ystod 1932. fe gawsom fisoedd digon difyr gyda'n gilydd ar dudalennau'r Ford Gron — y tudal- ennau difyrraf yng Nghymru." meddai cyfaill wrthyf mewn llythyr tua'r Nadolig. Fe wyddoch fy mod. yn y nodiadau hyn. yn ceisio'n arbennig i ddywedyd hanes y Cymry mwyaf diddorol v deuaf ar eu traws neu y clywaf eu hanes ar hyd a lled y wlad a'r byd. Yr wj-f am geisio dilyn ar yr un llwybr eleni. Os gall rhai ohonoch chwi fy helpu. gorau oll. Anfonwch ataf os deuwch ar draws pethau diddorol i Gymru neu am Gymry. Arwyddair 1933. YSGRIFENNA cyfaill ataf i ddywedyd mai'r arwyddair gorau y gwyr ef amdano ar gyfer 1933 ydyw Wyneb llawen, llawn ei dŷ Wyneb trist, drwg a ery. Bardd ac Arlunydd. BUM yn sôn yn ddiweddar am Mr. T. Salisbury Jones, Crewe gynt. Yn awr dyma lyfr Mr. W. A. Bebb. Ein Hen, Hen Hanes," allan o'r Wasg, a dyma a ddy- wedodd Y Genedl (Caernarfon) wrth sylwi arno Y mae'r darlun lliwiedig sydd yn y dechrau, a'r darluniau uwchben y pen- odau, ynghyda'r cynllun sydd ar y clawr, yn waith Mr. Salisbury Jones, y bardd, y llenor, y dramotwr, a'r arlunydd medrus, sydd wedi hoffi byw llawer gormod yn yr encilion. Bu Mr. Jones, cyn ei symudiad yn ddiweddar i fod yn bostfeistr Corwen, yn byw yng Nghrewe, ac yr oedd ei ddylanwad i'w deimlo ym mhob cylch o fywyd yno. Gresyn mawr ydyw na chyhoeddid llawer mwy o weithiau Mr. Jones. Y mae bwlch ar-ei ôl ym mywyd Cymreig Crewe." Chwedlau Postman. CYMRO a phostman wrth ei alwedig- aeth ydyw Mr. Simon Evans, sydd newydd gyhoeddi ei ail lyfr, At Abdon Burf (More tales from Shropshire)." Mae rhamant yn perthyn i'w lyfr cyntaf, "Round About the Crooked Steeple." Oherwydd ei afiechyd ar ôl ei glwyfo yn y rhyfel, gofynnodd am gael ei symud i'r wiad o Birkenhead, ac fe'i cafodd ei hun yn Sir Amwjchig. Un noswaith. siaradai ar y radio ar The round of a country postman." Yn gwrando arno yr oedd cyhoeddwr yn Llundain, a diddorwyd ef cyniaint gan yr anerchiad nes iddo benderfynu dod i gyffyrddiad â'r dyn fu yn ei thraddodi. Madame Laura Evans-Williams. Cafodd fod gan Mr. Simon Evans ysgrifau eraill, a'r canlyniad fu iddynt gael eu cyhoeddi. Madame Evans-Williams. YR oeddwn wedi colli cyffyrddiad â Madame Laura Evans-Williams. y gantores. a phleser mawr i mi oedd darllen y diwrnod o'r blaen am ei bri mawr mewn dinas yn Lloegr, am ei chanu godidog, ac am y torfeydd y mae hi'n gallu eu tynnu. Yn Henllan, Sir Ddinbych, y ganed hi. Ei hen gartref, Bryn Meirion, oedd yr hen gapel Methodistaidd gynt, ac yno y bu llawer o'r hoelion wyth yn symud y bobloedd. Yr oedd ei mam hi'n gantores hyfryd. Dysgwyd hi i ganu'r piano gan ffrind i'w mam, sef merch Dr. Roberts, Henllan, cyf- ansoddwr sydd â'i waith yn para. Un o blant yr Eisteddfod ydyw Madame Laura Evans-Williams. Trwy gystadlu mewn eisteddfodau y daeth ei dawn i'r golwg. Cyn hir yr oedd yn Llundain, yn canu gyda chantorion adnabyddus fel David Hughes, Emlyn Davies, Ivor Foster ac Angus Nicholls. Yn Nhy Mr. Lloyd George. BU'N canu droeon yn at homes Mr. Lloyd George pan oedd yn Brif Weinidog, ac fe'i cyflwynwyd hi i Dywysog Cymru yng nghartref Syr Philip Sassoon yn Park-lane. Cynrychiolai Gymru yn y Pasiant Rhyddid," a phan drefnodd Dame Clara Butt gyfres o gyngherddau yn ystod y rhyfel, Madame Laura Evans-Williams a ddewiswyd i ganu dros Gymru. Fe gasglodd hi dros £ 4,000 at Gronfa Arwyr Cymru yn ystod y rhyfel. Y mae wedi canu'n fynych iawn yn yr Eisteddfod Genedlaethol, ac wedi canu Cân y Cadeirio droeon. Yn Llundain y mae'n byw ar hyn o bryd­ 20, Woodland-gardens, Muswell Hill-ac y mae'n rhoddi llawer o'i hamser i ddysgu canu i Gymry ieuainc Llundain. Ar hyd y wlad. PRIN y mae un dref o bwys ym Mhryd- ain na bu Madame Laura Evans- Williams yn canu ynddi. Bu'n canu yn y St. Matthew Passion yng Nghaerdydd, Judas Maccabams yn Nhredegar ac yn Llundain Stabat Mater yn LlaneUi, Manceinion a Pontefract Judith (Parry) yn Abertawe Hia- watha yn Lerpwl, Llundain, a Hull y Messiah yn Llundain, Leeds, Hudders- field, Hanley, Plymouth, Dundee, Belfast a Phontypridd yr Elijah yn Llundain ac Ipswich a Scarborough a mannau eraill y Martyr of Antioch yn Llundain a Hull St. Paul yn Bradford a Londonderry Faust yn Lincoln '` Caractacus ym Merthyr a Sheffield, a Manceinion y Sun Worshippers yn Perth. Ac nid yw hyn ond ychydig. Bu hefyd yn canu yma ac acw yn Nhal- eithiau Unedig America. Y Bardd "Täldir". FE wyr llawer o eisteddfodwyr Cymru am y bardd Taldir o Lydaw (y wlad Gymreig yng ngogledd Ffrainc). Bu ef mewn amryw eisteddfodau Cymreig, ac y mae'n ddirprwy-Archdderwydd Llydaw. Yr oeddwn yn falch o gael gair oddi wrtho y diwrnod o'r blaen o Cairhaix, ym mhen draw Llydaw. Fel Monsieur Francois Jaffrenou yr adwaenir ef bob dydd-dyma'i enw bedydd. Taldir yw'r enw a roddwyd iddo gan Orsedd Beirdd Cymru, ac yn yr Eisteddfod Genedl- aethol a fu yng Nghaerdydd y cafodd y teitl.