Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

CANTORION HEDDWCH. GWAHODDODD y Dywysoges Beatrice T Gantorion Pontypridd i ganu yn y Mansion House, Llundain, nos Iau, Hydref 30, ac yn sicr fe gafodd pawb a'u clywodd hyfrydwch llwyr wrth eu gwrando. Wyth neu ddeuddeg o ferched sy fel arfer yn canu yn y cyngherddau, a Madame Muriel Jones yn arwain, ond y mae gan y côr 40 o aelodau, fel y gwyr y rhai a'u clyw- odd yn canu gerbron Tywysog Cymru yn yr Wyl Goffa ddiwethaf yn yr Albert Hall. Yr ydym yn ceisio gwneud i Gymru a'i chantorion a'i cherddorion gael eu hystyried yn gystal ag eiddo unrhyw genedl yn y byd," meddai Madame Muriel Jones wrth Y FoRD GRON, ac yr wyf yn credu ein bod ni'n llwyddo, gan ein bod yn cael canu yn rhai o'r lleoedd gorau yn y wlad a ger bron rhai o'r cerddorion gorau." Y mae pawb yn awr yn gweithio dros heddwoh y byd," meddai Madame Muriel Jones, a chan mai cerddor o Gymraes ydwyf fi, beth well fedrwn i ei gynnig na'r hen Alawon Cymreig a'r hen wisg Gymreig- yr alawon yn arwydd o gytgord, a'r gwisg- oedd yn arwydd o fuddugoliaeth ddi-waed Iarll Cawdor yn Abergwaun wrth droi'n ôl yr ymgais olaf i oresgyn y wlad hon ? MOWTH-ORGAN. Rho done ar yr hen fowth-organ- Bugeilio'r Gwenith Gwyn," Harlech," neu Gapten Morgan," Neu'r Bwthyn ar y Bryn." 'Dwy'-i ddim yn gerddor o gwbwl, Ond carwn dy weld yn awr- Dy ddwylo yn cwato'r rhes ddwbwl, A'th sawdl yn curo'r llawr. A'r nodau'n distewi yn araf, Neu'n dilyn ei gilydd yn sionc— Rhyw hen dôn syml a garaf Mae'r nos yn dawel. Rho done. Y mae'r Geiriadur Beiblaidd yn awr i'w gael ar delerau hawdd oddi wrth y Meistri Hughes a'i Fab, Wrecsam, sef trwy dalu coron ar law a choron bob mis. Rhoddir stand derw gyda'r ddwy gyfrol. Y mae Mr. Dan Jenkins, Pentrefelin, Felin- fach, Sir Aberteifi, gydag Anellydd, yn paratoi casgliad o'r cerddi a gyfansoddwyd yn arbennig ar gyfer cyngerdd blynyddol Gŵyl Ddewi yn Ysgol Llancrwys o 1901 hyd 1920. Fe geir ynddo waith 96 o brydyddion. Pris, i danysgrifwyr, 4s. mewn cloriau lliain, 2s. 6ch. mewn cloriau papur. Yn nechreuad oes y peiriannau y creodd dyn y dref ddiwydiannol, ac a orffwysodd ar yr ugeinfed dydd, eithr nis bendithiodd ac nis santeiddiodd, canys gwelodd ei fod wedi gwneuthur anialwch a'i alw yn ddinas. —Dr. Vaughan Corniah. WALDO WILLIAMS. Here is the ancient proud spirit of Wales, captured by leading Welsh musicians, and perfectly recorded at the low price which has made Decca Records famous for value all over the world. Your dealer will be pleased to play to you any records from this Special Decca Welsh Supplement. GWYNN-WILLIAMS AND HIS WELSH SINGERS (Vocal Quartet, with Piano. Accomp. by Claude Ivy) i Ti Wyddost Beth Ddywed Fy F.1768 Nghalon (Thou knowest what t my heart says). Parts 1 and 2. ( Moriah (Welsh Traditional F. 1769 Hymn Tune). Cyfamod (Welsh Traditional Hymn Tune). (Nos Galan (New Year*s Eve), Welsh Air. Suo-Gàn (Lullaby), Welsh Folk Song. Y Gwcw Fach (Weish Folk F 1771 Song) Ar Hyd Y Nos (All through the Night). Noson Gerddorol Yn Yr F.1772 Hafod (Musical Evenine at ( Hafod). Parts 1 and 2. MAIR JONES (Soprano) (With Pianoforte Accompaniment) (Paradwys Fy Nghalon F.1764 { O Na Byddai'n Haf 0 Hyd. {Nant Y Mynydd (Mountain F.1765 Stream) Llam Y Cariadan (Lovcrs Leap) DECCA SUPHIDE RECORDS Ask your dealer for complete Decca list or write to THE DECCA RECORD CO., LTD., Dept. 290, 1-3 BRIXTON ROAD, LONDON MABEL JAMES (Vocal, with Piano. Accomp. (a) Y Gwcw Facb F.1767 { (b) Ffarwel Mari Aderym-Y-Tô OWEN BRYNGWYN (With Piano. Accomp. by Claude lvy) (a) Dacw Nghariad I (b) Wrth Fynd Efo Deio 1 F.1763 Dywyn (a) Ffarwel I Langyfelach Lon (b) Y Cobler Du Bach (Y Deryn Pur F.1762 (a) Robin Ddiog (b) Hela 'r Syfarnoi THE CHENIL ORCHESTRA (Singer: Owen Bryngwyn) Selection of Welsh Airs Рarts 1 {1 and Welsh GWYNNETH EVANS (Harp Soloist) ÍThe Bells of Aberdovey (Clychau Aberdyfi) F.1773 {Watching the Wheat (Bugeilio'r Gwenith Gwyn)