Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

TUDUR ALED: AILYSTYRIED EI GYNEFIN WEDI crynhoi yr hyn a oedd yn hysbys am Dudur Aled, dywed T. Gwynn Jones yn ei Ragymadrodd i waith y barddl: Y pethau hyn, wedi eu lliwio, fwy neu lai, yn ol chwaeth neu ddychymyg y sawl a'u copio, a geir fel ei hanes. Pwy bynnag fu'r cyntaf i gynnull cymaint a hyn o ddywediadau amdano, ni chymerth neb o'r rhai a'u hail adroddodd nemor drafferth i roi prawf amynt. Os oedd gan Gwynn Jones ei amheuon, ni ddywedodd ddim; i'r gwrthwyneb, fe sgubodd o'r neulltu yr unig fygythiad gwirioneddol i'r traddodiad poblogaidd am fro Tudur Aled, fel y ceir gweld yn y man. Ers rhai blynyddoedd bellach wrth ymddiddori yn hanes cymdogaeth Llansannan, deuthum i amau fwyfwy ddilysrwydd y traddodiad a gysylltai Tudur Aled â'r cwmwd hwnnw. Diben yr hyn a ganlyn felly, fydd ceisio amlinellu'r amheuon hynny. Os nad wyf yn camgymryd yn arw, yn Gorchestion Beirdd Cymru, cyfrol Rhys Jones o'r Blaenau a gyhoeddwyd yn 1773, y gwelir y cyfeiriad argraffedig cynharaf sy'n cysylltu Tudur Aled A Llansannan. Dyma'r union eiriau:2 Tudur Aled. Y Bardd hwn oedd wr o Ddyffryn Aled, yn Sir Ddinbych; ag yn ei flodau B.A. 1490. Yn rhyfedd iawn, er i Thomas Pennant, ychydig yn ddiweddarach, droedio'r dyffryn o Lansannan i Lyn Aled, ni chrybwyllodd enw Tudur Aled, er iddo'i glodfori fel un o feirdd mwyaf Cymru mewn cyswllt arall.3 Ni chrybwyllodd Iolo Morganwg, yntau, air am Dudur yn ei nodiadau ar ei ymweliad â'r plwyf yn 1799 ychwaith.4 Pan gyhoeddodd William Owen [-Pughe] ei eiriadur bywgraffyddol, The Cambrian Biography, yn 1803,5 nid oedd ynddo gofnod am Dudur Aled, ac ysgogodd hynny rhyw P.B.W. (Peter Bailey Williams (1763-1836), rheithor Llan-rug a Llanberis, yn ddiamau) i lanw'r bwlch drwy gyhoeddi nodiadau dan y pennawd 'Bardic Notices' yng nghyfrol gyntaf y Cambro-Briton yn 1820.6 Am Dudur Aled dywed: a most excellent Bard, was so called on account of his residence being on the banks of the river Aled, in the county of Denbigh. He lived at Garth Geri Chwibryn, in the parish of Llansannan, and flourished about the year 1490. He was a friar of the Order of St. Francis Tudur Aled was a nephew and a pupil of Davydd ab Edmund. Ni ddatgelodd P.B.W. ei ffynhonnell, dim ond nodi iddo godi'r manylion o'i gasgliad ei hunan. Ond gellir awgrymu'n ffyddiog iddo gael ei wybodaeth o'r llawysgrif 'Celtic Remains', llafur deugain mlynedd o fywyd Lewis Morris (Llywelyn Ddu