Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Gaer a sir Amwythig, trigolion arglwyddiaeth Y Drewen, Hywel Gethin o Brompton a'i dad, Dafydd Cadwaladr a gollodd ei diroedd yn Llanffynhonwen, i enwi rhai amlwg. Gyda hen deuluoedd Powys y mae eu hystyried. Yr un gwaed oedd yn cerdded gwythiennau llawer ohonynt; pobl o'r un gwehelyth oeddynt. FFYNONELLAU Ni nodais ffynhonnell pob gosodiad gan y byddai hynny'n gwneud y gwaith yn feichus i'w ddarllen. Seiliwyd yr ymdriniaeth yn bennaf ar a ganlyn: (a) Erthyglau a ymddangosodd yn rhifynnau Mont. Colls. o dro i dro. Mewn cyfnod o gan mlynedd y mae gwybodaeth, yn naturiol, wedi cynyddu ac y mae angen cywiro ychydig ar y rhain ambell waith, ond ar y cyfan y mae'r wybod- aeth ddogfennol yn hynod ddibynadwy. Y mae Mynegai i'r rhain ar gael. (b) Casgliadau printiedig o achau: dwy gyfrol Lewis Dwnn, Heraldic Visit- ations of Wales; chwe chyfrol J. Y. W. Lloyd, The History of Powys Fadog (yn enwedig cyfrolau IV a V); 'Llyfr Silin' a gyhoeddwyd yn Arch. Camb. 1887-91; The Visitation of Shropshire 1623. (c) 0 blith llawysgrifau achau cynnwys y rhain wybodaeth o ddiddordeb neilltuol i Bowys: Llanwrin i, casgliad Roger Morris o Goedytalwrn; Peniarth 128, Llyfr Mawr Edward ap Roger o Riwabon; Peniarth 134, 135, 176, 177, casgliadau Gruffudd Hiraethog; Peniarth 132, 136, 139, gwaith Gruffudd Hiraethog a Wiliam Llyn; Peniarth 127, llyfr Syr Tomas ab Ieuan ap Deicws; Peniarth 131, casgliad Gutun Owain ac Ieuan Brechfa; Peniarth 125; Peniarth 138; Peniarth 287, casgliad Robert Vaughan o'r Hengwrt, wedi ei seilio ar lu o gasgliadau eraill ac yn nodi ffynhonnell fel rheol.