Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y WLADWRIAETH A RHYDDID Mae'r cysylltiad rhwng y wladwriaeth a rhyddid yn bwnc llosg heddiw nid yn unig mewn athroniaeth wleidyddol ond hefyd yn y gymdeithas gyfoes. Gellir gweld hynny yn agwedd gwleidyddion amlwg tuag at y byd a'i broblemau. Fe ddaeth Ronald Reagan yn arlywydd poblogaidd yn yr Unol Daleithiau oherwydd ei addewid i ryddhau'r dyn cyffredin o 'grafangau'r' wladwriaeth, a gwelir hefyd yn llwyddiant etholaidd Margaret Thatcher yr un thema, sef magu annibyniaeth yr unigolyn oddi wrth haelioni'r wladwriaeth. Hyd yn oed yng ngyrfa Michail Gorbachov yn yr Undeb Sofietaidd gellir gweld rhywfaint o'r un naws: yn ei farn ef, y mae datganoli pwer o'r wladwriaeth ym Mosco yn holl bwysig i lwyddiant ei gynlluniau. Pam mae'n bwnc llosg? Tybed ai'r pwyslais ar geisio bodlonrwydd personol fel amcan blaenaf o fewn gwleidyddiaeth gyfoes sydd yn gyfrifol amdano? Ni all unrhyw wleidydd yn y byd modern diwydiannol lwyddo heb geisio cymhwyso'i awdurdod â rhyddid yr unigolyn. Ymddengys yr unigolyn yr un mor bwysig â'r gymdeithas i'r gwleidydd heddiw. Wrth ymdrin â'r berthyns rhwng y wladwriaeth a rhyddid yn athronyddol, fe ddylid rhoi blaenoriaeth i un ysgol o feddwl yn arbennig, sef yr anarchwyr, gan mai'r ysgol hon sydd yn amau'r angen am wladwriaeth o gwbl. Ym marn anarchwyr ac efallai Bacwnin yw'r amlycaf yn hyn o beth nid yw'r wladwriaeth ond yn diffodd pob rhyddid yn y gymdeithas. Mynnant mai lle mae'r wladwriaeth yn dechrau yn y fan honno y mae rhyddid yr unigolyn yn terfynu.1 Tybiai Bacwnin nad oedd y wladwriaeth yn ddim byd ond cyfanswm o'r holl ryddid a gollwyd gan yr unigolyn yn y gymdeithas. Po gadarnaf y wladwriaeth, po wannaf yw annibyniaeth yr unigolyn. Yn gyffredinol mae'r anarchwyr o'r un farn â Rousseau bod dyn wedi'i eni'n ddiniwed ond ei fod wedi'i lygru gan y gymdeithas. Yn y cychwyn, yn ôl Godwin, tad anarchiaeth, fe ddaeth y wladwriaeth i fodolaeth i roi cymorth i'r unigolyn rhag trais ei gyd-ddyn ond, yn araf deg, fe ddaeth i feistroli bywyd dyn ac i lunio'r bersonoliaeth yn unol â natur rheidiol y wladwriaeth.2 Fe ddaeth sefydliad a oedd yn ôl ei anian yn offeryn yn nwylo dyn yn drech na dyn. Gan fod y wladwriaeth a'i thueddiad i ddibynnu ar rym yn treiddio gymaint i bersonoliaeth yr unigolyn, barn Godwin oedd y dylid tocio'i grym i'r lleiaf posibl. Y mae Godwin a Bacwnin yn gytûn hefyd fod y wladwriaeth o'i natur yn creu 1 .P. MaximortT (gol), The Political Philosophy of Bakunin, Free Press, New York, 1964, t. 205. W. Godwin, Essay on Political Justice, Penguin, Harmondsworth, 1976, tt. 75-76.