Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

A OES DIRYWIAD MOESOL HEDDIW? Honiad a glywir gan lawer y dyddiau hyn yw ein bod ar hyn o bryd yn dioddef oddi wrth ryw fath o ddirywiad moesol. Disgrifir y sefyllfa drwy ddweud fod yr ymdeimlad o gyfrifoldeb neu o ddylet- swydd yn edwino neu ddirywio yn y cyfnod y perthynwn ni iddo. Ambell dro mynegir y safbwynt drwy ddweud fod pobl yn llai cyd- wybodol neu'n fwy anghyfrifol nag yr oeddynt genhedlaeth neu ddwy yn ô1. Hoffwn geisio gweld beth yn union a all gosodiad o'r math hwn ei olygu, yna trafod y gwahanol esboniadau a gynigir neu y gellid eu cynnig ar y dirywiad; hynny yw, paham y digwyddodd. Pan honnir am gyfnod neu gymdeithas arbennig fod dirywiad wedi digwydd yn yr ymdeimlad o gyfrifoldeb, yr hyn a olygir, bid siwr, yw fod yna ddirywiad yn ymddygiad llaweroedd o unigolion. Rhaid i ni osgoi syrthio i'r demtasiwn honno sy'n fagl i gymaint o siaradwyr ar y math hwn o destun, sef, tybio bod yna wahaniaeth rhwng moesol- deb tyrfa a moesoldeb yr unigolion sy'n aelodau ohoni, hynny yw fod yna foesoldeb dyrfaol neu foesoldeb cenhedlaeth. Mae'n wir efallai fod safonau moesol unigolion yn is pan fônt yn cydweithredu neu'n cydymddwyn fel aelodau o dyrfa neu grwp o bobl, ond eu safonau fel unigolion sydd yn is. Siarad yn amwys y byddwn felly pan soniwn am ddirywiad mewn ymddygiad cenhedlaeth arbennig; yr hyn a olygir yw fod yna ddirywiad i'w ganfod yn ymddygiad lliaws mawr o'r unigolion sy'n aelodau ohoni. Soniwyd am ddau ymadrodd a ddefnyddir i ddisgrifio'r dirywiad a brofwn yn y cyfnod hwn, (a) fod yna ddirywiad yn yr ymdeimlad o gyfrifoldeb a (b) fod yna ddirywiad yn yr ymdeimlad o ddyletswydd. Anodd yw gweld fod y cyntaf yn fynegiant cywir o'r hyn y dymunir ei gyfleu. Yn wir ni ellir gweld yn union sut y gall dirywiad ddi- gwydd yn yr ymdeimlad o gyfrifoldeb fel y cyfryw. Yr hyn a olygir wrth ymdeimlad o gyfrifoldeb bid siwr ydyw'r math o ymdeimlad a gyfleir gan ymadrodd fel, Myfi (nid neb arall, ac nid oherwydd unrhyw fath o orfodaeth) a ddywedodd yr anwiredd fod A wedi lladrata arian B." Hynny yw, Myfi oedd yn gyfrifol am ddweud y fath beth." Nid oes arwyddion fod y mwyafrif o bobl heddiw wedi troi i gredu mewn rheidiaeth, ac nid yw'n edrych fel petaent am wadu eu bod yn gyfrifol am yr hyn a wnânt. Nid oes felly unrhyw wanhau wedi bod ar yr ymdeimlad o gyfrifol- deb fel yr esboniwyd ef uchod, ond ambell dro clywir y gair cyfrifol yn cael ei ddefnyddio fel hyn Rwyf yn gyfrifol am wneud diwrnod o waith gonest." Yr hyn a olygir gan osodiad fel hyn yn sicr yw Y mae arnaf ddyletswydd i wneud diwrnod o waith gonest."