Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

yr hyn a ystyriwn ni'n ddyletswydd arnom bod amcanion o ddirfawr werth y gellir eu cyrraedd trwy ymdrech, yn y byd sydd ohoni; y gallwn, drwy ym- ofyniad a myfyrdod y rheswm dynol, ddyfod o hyd i ddirnadaethau gwirion- eddol eu gwerth ynghylch natur "y Bywyd Da." Neu, ar y llaw arall, y mae'n rhaid inni gredu, gyda'r Diwinyddion Newydd, ym "mhechadurusrwydd" llwyr ac anorfod a chydradd pob dyn, yng nghyd-euogrwydd a chyfrifoldeb yr holl hil ddynol, yn yr agendor llwyraf rhwng Natur (byd ymdrech Dyn) a Gras. Ond nid yw hi'n bosibl inni gredu yn y ddeupeth. Dylwn er hynny ddweud, cyn terfynu, nad yw Mr. Lewis, serch iddo arswydo rhag the spectacle of theologians sadistically lashing themselves and others for crimes which no one in particular seems to have committed (t. 148), eto'n teimlo unrhyw alwad arno i gondemnio'r Ddiwinyddiaeth Newydd yn ddi- wahaniaeth a diarbed. Yn ei farn ef, y mae agweddau hanfodol o wirionedd crefydd yr oedd y diwinyddion rhyddfrydig" yn gwbl ddall iddynt-agwedd- au y gwnaeth y Ddiwinyddiaeth Argyfwng" les mawr inni wrth ein hatgoffa ohonynt. Mi gredaf y cytunai Mr. Lewis y bydd hi'n rhaid i gyfundrefn fodd- haol o ddiwinyddiaeth gorffori ynddi ei hunan lawer o nodweddion y naill a'r Hall o'r ddwy ysgol ddiwinyddol hyn. Fe wnaeth ef ei hunan, yn y llyfr hwn, gyfraniad o gryn bwys i ddatblygiad y gyfryw gyfundrefn, gan ddwyn i eglurder pendant rai o'r problemau creiddiol. Credaf nad yw'n or-hyderus ynof obeithio y rhydd ef inni rywbryd gyfraniad mwy, a mwy pendant byth, gan ddatblygu syniadau cymodol na roddir inni ond awgrymiadau'n unig ohonynt yn y llyfr hwn. Glasgow. C. A. CAMrBELL (cyf. R. T. JENKINS).