Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

CYMDEITHAS LYFRYDDOL CYMRU CYFARFOD BLYTVYDDOL 1968 CYNHALIWYD cyfarfod blynyddol y Gymdeithas am 12 o'r gloch ar Awst 8, 1968 ym Mhabell y Cymdeithasau ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol yn Y Barri. Cyfarfu Cyngor y Gymdeithas cyn y cyfarfod blynyddol, dan lywyddiaeth y Dr. G. M. Ashton, ac etholwyd Mr. E. D. Jones, C.B.E., B.A., F.S.A., Aberystwyth yn Llywydd y Gymdeithas i olynu'r diweddar Ddr. Henry Lewis. Llywyddwyd y cyfarfod blynyddol gan Mr. E. D. Jones, a chyf- eiriodd at farwolaeth y Dr. Lewis. Safodd yr aelodau fel arwydd o gydymdeimlad ac o ddiolchgarwch am waith y Dr. Lewis ar ran y Gymdeithas. Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb oddi wrth Dr. Geraint Gruffydd, Yr Uwchgapten H. J. Lloyd-Johnes a Mr. W. Griffiths, y Trysorydd. Cyflwynwyd llythyr oddi wrth Gangen Cymru o Gymdeithas y Llyfrgelloedd yn gofyn am gynrychiolaeth o'r Gangen ar Gyngor y Gymdeithas Lyfryddol. Mynegwyd y farn nad oedd hyn yn unol a chyfansoddiad y Cyngor, ond trosglwyddwyd y mater i'w ystyried ymhellach gan y swyddogion a'r Cyngor. Gofynnwyd i'r Llywydd a'r Ysgrifennydd hefyd gynllunio trefn newydd i aelodau o'r Cyngor ymddeol yn eu tro. Adroddiadau'r Swyddogion hysbyswyd fod 53 o sefydliadau a 107 o unigolion yn aelodau o'r Gymdeithas, a chafwyd peth cynnydd yn ystod y flwyddyn. Cyflwynwyd y daflen ariannol ar ran y Trysorydd, yn dangos £ 249/10/4 mewn Haw ar 30 Mehefin 1968. Adroddodd y Golygydd fod rhifyn nesaf y Cylchgrawn ar fin ym- ddangos, ac apeliodd yn arbennig at yr aelodau i gynnig nodion llyfryddol i'w cynnig i'r rhifynnau nesaf. Traddodwyd darlith gan Mr. Brynmor Jones, F.L.A., Aberystwyth ar y testun "Argraffwyr Cymreig y Gororau", a diolchwyd iddo ar ran y Gymdeithas gan Mr. E. D. Jones. Annual Meeting, 1968 THE annual meeting of the Society for 1968 was held on August 8, 1968 at the National Eisteddfod, Barry. The Council of the Society met under the chairmanship of Dr. G. M. Ashton and elected Mr. E. D. Jones as President, to succeed the late Dr. Henry Lewis. The annual meeting was then chaired by Mr. E. D. Jones, who referred to the death of Dr. Lewis, and the members stood as a mark of respect and in recognition of Dr. Lewis' work on behalf of the Society.