Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Yr Adfywiad Llenyddol Gwyddeleg, a Dulliau Cyhoeddi Llyfrau. D. MYRDDIN LLOYD, M.A. WRTH i ddyn roi tro heibio i'r adran o lyfrau yn ein chwaer- ieithoedd Celtaidd a geir yn y Llyfrgell Genedlaethol, odid y gwyr beth i'w ddweud am yr estyll llawnion o lyfrau diweddar yn yr iaith Wyddeleg. Gwel fod dyddiad cyfran helaeth ohonynt o fewn y deng mlynedd hyn, a nod swyddfa lyfrau Llywodraeth y Dalaith Rydd ar bedwar o bob pump ohonynt. Fe wel amrywiaeth mawr yn natur -eu cynnwys-cyfrolau o farddoniaeth wreiddiol hen a diweddar, straeon byr, dramau, hanes a beirniadaeth lenyddol, llyfrau ysgol ar bob testun yn eu maes llafur ac o bob safon o ysgol y babanod hyd at y brifysgol ond ar yr ail olwg fe sylwa mai cyfieithiadau yw llawer ohonynt i'r Wyddeleg. Ymhlith y rhain eto, nid oes ball ar yr amrywiaeth, oblegid fe genfydd drosiadau o'r hen glasuron Groeg a Lladin ynghyd a gwaith Moliere, Turgenev, ac amryw eraill o ser ffurfafen lenyddol Europ. Ond i'w syndod, wrth redeg ei lygad tros deitlau'r llyfrau hyn, gwel yn eu plith amryw o hen ffefrynnau ei fachgendod, ambell nofel ramantus a ddarllenodd hwyrach mewn cyfnod tipyn bach llai pell yn 61 na hynny, a hefyd fwy nag un stori gangster neu ddetectif na freuddwydiwyd .genhedlaeth yn 61 am eu bath. Y mae'n hymwelydd dychmygol yn debyg o wfftio fel prawf arall o Wyddelig- rwydd y Gwyddel ei fod trwy ei Lywodraeth o Gened- laetholwyr yn darparu ar newydd wedd, a hynny ar gost y wlad, yr un hen luniaeth Seisnig gyffredin a chyffredin- aidd yn ami. A gofyn yn syn, paham yr holl gawl eildwym rhyfedd hwn ? Eto bydd yn rhaid cyfaddef bod yma olion egni llenyddol newydd, neu o leiaf ysfa cyhoeddi llyfrau nad oedd i'w -chael hyd at ddeng mlynedd yn 61, a bod yr ysfa ar gyn-