Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

CHWARAE YNG NGHWMNI DUW Na, dydw i ddim wedi drysu, nac yn cablu gobeithio! Mae 'na ddigon o hynny wedi digwydd, yn ôl pob golwg, gyda chyhoeddi rhyw gartwnau Mwslimaidd mewn cylchgronau ar gyfandir Ewrop yn ddiweddar. Dydw i ddim chwaith yn ceisio portreadu neu ddarlunio rhyw olygfa nefolaidd, ond yn hytrach dwi'n gobeithio disgrifio dull ysbrydoledig o gyflwyno ein storïau sanctaidd i blant. Yr enw Saesneg ar y dull arbennig hwn o gyflwyno storïau mawr ein Ffydd yw 'Godly Play' a'm cyfieithiad i yn bersonol, o fod wedi holi hwn a llall, ac wedi methu cael dim byd gwell yw 'Chwarae yng nghwmni Duw.' Ychydig ddyddiau yn ôl pan oedd Ionawr yn darfod a'r mis bach yn dechrau, aeth pump ohonom o Esgobaeth Bangor ar gwrs dwys dros dridiau yng Nghanolfan Encil Llangasty ger Aberhonddu. Aethom yno i dderbyn hyfforddiant fyddai'n ein cymhwyso fel athrawon i gyflwyno 'Chwarae yng nghwmni Duw' i blant ac oedolion yn ein heglwysi a'n hysgolion. Saesneg oedd cyfrwng yr hyfforddiant ond wedi bod trwy'r felin neilltuol hon dros y tridiau, buan y gwelwyd bod y dull yn gweddu i unrhyw iaith, yn cynnwys iaith y nefoedd! Eisoes cafodd y deunydd hyfforddi ei gyfieithu i Sbaeneg, Ffinneg ac Almaeneg a chyn bo hir, bydd cyfieithiad Cymraeg hefyd ar gael. Arweinyddion y cwrs oedd y Parchedig Peter Privett, offeiriad o Eglwys Loegr sydd wedi 'arall gyfeirio' i hyfforddi 'Chwarae yng nghwmni Duw' yn llawn amser a Mrs Cyndy Bishop o Dallas yn Nhalaith Texas yn yr Unol Daleithiau. Bu'r ddau yn cydweithio'n glos dros y blynyddoedd diwethaf hyn â'r Parchedig Jerome W. Berryman, sylfaenydd 'Godly Play'. Bu'r gwr hynaws hwn, y cefais fy hun y fraint o'i gyfarfod fis Tachwedd y llynedd yn Nottingham, yn gweithio ar ei syniadau o gyflwyno storïau Beiblaidd i blant rhwng 2 a 18 oed yng Nghanolfan Diwinyddiaeth Plentyndod yn Houston yn Texas. Ie, o'r America mae'r syniad wedi deillio, ac er ein bod weithiau yn feirniadol iawn o rai pethau ddaw atom o'r fan honno, gallaf eich sicrhau bod 'Godly Play' neu 'Chwarae yng nghwmni Duw', i roi ei enw mabwysiedig Cymraeg iddo, yn rhywbeth gwerth chweil. Mae Jerome Berryman wedi sylfaenu ei arddull neilltuol o addysgu ar ddull Montessori, dull sy'n gyfarwydd dwi'n siwr i rai athrawon ysgol fydd yn darllen yr erthygl hon. Mae'r awdur bellach wedi dewis a dethol rhyw ddeugain o storïau o'r Beibl ac wedi eu didol a'u hysgrifennu yn y fath fodd fel eu bod yn dilyn arddull neilltuol rhywbeth y mae'r sawl sy'n traddodi a chyflwyno'r stori yn gorfod ei ddysgu ar ei gof. Defnyddir amrywiaeth o ddeunyddiau i gyflwyno'r storïau sanctaidd o'r Beibl, yn cynnwys pethau syml fel brethyn, edafedd, tywod sych, blociau o bren, ffigurau pren mewn gwahanol faint o bobl, anifeiliaid a phethau eraill sy'n ymwneud yn uniongyrchol â'r stori sy'n cael ei chyflwyno, ac yn y blaen. Rhaid i'r deunyddiau hyn fod o bren neu o ddeunydd naturiol. Er cymaint yr ydym yn gan Tegid Roberts dibynnu'r dyddiau hyn ar bethau wedi eu gwneud o blastig, wnaiff y rheini mo'r tro. Mae yna storïau difyr iawn o'r Hen Destament yn rhan o'r cynllun arloesol hwn. Ar y cwrs mi welais stori'r Cread, Noa a'r dilyw a stori'r Ecsodus yn cael eu cyflwyno gan rai o'r criw ohonom ddaeth ynghyd a chefais i fy hun gyfle i gyflwyno stori'r Gaethglud. Dysgu'r sgript oedd y peth anoddaf dwi'n credu, ond fe ddaw hynny'n well gydag ymarfer. Cafodd eraill ar y cwrs gyflwyno nifer o ddamhegion Iesu Grist, fel Dameg yr Heuwr, y Perl, y Lefain a'r Hedyn Mwstard. A chafodd rhai eraill wedyn gyflwyno rhai o'r Sacramentau, fel Bedydd Sanctaidd a rhoi gwers ar y Flwyddyn Eglwysig. Mae yna nifer o'm cyd-swyddogion yn yr Eglwys yng Nghymru sy'n gweithio yn y Sector Plant a Theuluoedd eisoes wedi cymhwyso eu hunain gyda dull 'Chwarae yng Nghwmni Duw'. Mae nhw wedi gweld gwerth aruthrol ynddo wrth ymwneud â phlant yn yr Ysgolion Sul a Chlybiau Cristnogol ganol wythnos. Mae Esgobaeth Llanelwy wedi sefydlu Ystafell 'Godly Play' ym Mae Colwyn a chaiff honno ei hagor ar 15 Chwefror. Dros y ddwy flynedd ddiwethaf bu Swyddogion Plant yr Eglwys yng Nghymru yn gweithio ar broject o'r enw 'Pray and Play through Lent'. Cafodd ei dderbyn a'i gyhoeddi yn gyntafyn Saesneg gan BRF (Bible Reading Fellowship) ym mis Tachwedd y llynedd, a'i gyfieithu i'r Gymraeg gan Nant Roberts, dan yr enw 'Miri a Myfyrdod trwy'r Garawys' a'i gyhoeddi ganol mis Chwefror eleni. Mae'r gwaith hwnnw yn seiliedig ar ddull 'Chwarae yng nghwmni Duw' ac yn gyfres o ymarferion difyr iawn, ar lafar a chân, i'w gwneud â phlant ac oedolion hefyd. Bellach mae'r gyfrol Gymraeg a'r un Saesneg ar gael, a gallwch eu harchebu trwy gysylltu â'r Parchedig Aled Davies, Siop y Gair, Bangor. Rhaid i mi gyfaddef fy mod wedi fy swyno gan y dull addysgol neilltuol hwn ac rydw i'n edrych ymlaen yn fawr at gael y cyfle i gyflwyno stori neu ddwy cyn bo hir. Fe fydd hynny naill ai i'm plwyfolion yn Llandwrog a Llanwnda, yn lle pregeth ambell dro efallai, neu i ddisgyblion rhai o'r ysgolion eglwys rydw i'n eu cefnogi yn yr Esgobaeth. Rhaid i mi fynd ati i ddechrau casglu deunyddiau rwan felly os ydw i am wneud hyn o ddifrif!